Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 11 Ionawr 2017.
Na, credaf fod yr Aelod yn gwbl anghywir. Mae wedi camddeall y broses gyfan yma’n llwyr. Ni fydd Mr Gauke yn synnu at unrhyw beth o gwbl a ddywedais yn fy ateb cyntaf, gan ei fod, ym mhob trafodaeth a gefais gydag ef, yn deall mai rhagamod cyn y buasai’r Cynulliad hwn yn cydsynio i gynnig cydsyniad deddfwriaethol, os mai dyna a wnaiff, fuasai fod yna fframwaith cyllidol boddhaol gerbron y Cynulliad a fuasai’n esbonio’n argyhoeddiadol i’r Aelodau yma sut y buasai’r cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn llywio’r canlyniadau cyllidol, pe bai—pe bai—treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Ar y sail bendant honno y lluniwyd y ddogfen hon, a buasai Mr Gauke yn deall hynny, ac yn adleisio hynny, rwy’n credu, pe bai’n sefyll yma y prynhawn yma.