Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 11 Ionawr 2017.
A gall yr Aelodau weld y datganiad clir hwnnw, fel y gall aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ym mharagraff 14 yn y ddogfen honno. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf fy mod wedi camddeall y broses gyfan, a do, rwyf wedi dod at hyn â llygaid ffres. Ac efallai oherwydd hynny, bu’n rhaid i mi ddibynnu i raddau ar ddogfennau cyhoeddus ac ar sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i bobl Cymru. Rhoddwyd un enghraifft o’r sicrwydd hwnnw ar bapur pleidleisio refferendwm 2011, dim llai na hynny, a ddywedai, pe bai’r canlyniad o blaid datganoli pellach—pleidlais ‘ie’—na fyddai hynny’n arwain at ddatganoli pwerau trethu. Ond yn awr, er gwaethaf yr addewid hwnnw, bydd y pwerau trethu hyn yn cael eu gorfodi ar y cyhoedd yng Nghymru, nad oes arnynt fwy o awydd talu trethi uwch nag sydd arnynt i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Er hynny, bydd ei Lywodraeth yn anwybyddu canlyniad y refferendwm hwnnw yn 2011—y sicrwydd a roddwyd ar y papur pleidleisio—i’r un graddau ag y buasent yn dymuno anwybyddu penderfyniad y Cymry ynglŷn â’n haelodaeth o’r UE.