<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:56, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, os oes gan yr Aelod gweryl, nid gyda mi y mae, ond gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan fod hwn yn benderfyniad a wnaed gan weinyddiaeth Geidwadol yn San Steffan, nid gan unrhyw wleidydd yn y Siambr hon. Ac nid yw’n gywir ychwaith—[Torri ar draws.] Nid yw’n gywir ychwaith yn awgrymu bod Bil Cymru yn darparu ar gyfer codiad awtomatig yn y dreth. Yn syml, mae’n darparu hyblygrwydd newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn wneud penderfyniadau yn y maes hwnnw—penderfyniadau a allai arwain at godi rhai trethi, ond a allai arwain yr un mor hawdd at ostwng trethi. Ni fyddai trethi’n codi’n awtomatig o ganlyniad i Fil Cymru, pe bai’r Bil hwnnw’n cyrraedd y llyfr statud.