Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf fod nod arlwyo Bwyd am Oes Sir y Fflint yn enghraifft ardderchog o arfer da. Mae’n darparu prydau ysgol maethlon a blasus i blant, mae’n niwtral o ran cost ac mae’n darparu mwy o graffu ar darddiad bwyd, sy’n amlwg yn bwysig iawn wrth ymdrin â phlant. Mae hefyd yn rhoi mwy o arian i fusnesau lleol. Felly, pa gynigion sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymwybodol o fanteision y nod arlwyo Bwyd am Oes?