<p>Hyrwyddo Arfer Gorau mewn Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jenny Rathbone am dynnu sylw’r Cynulliad at gynllun Bwyd am Oes Sir y Fflint. Credaf ei fod yn enghraifft dda iawn o gynllun sy’n gwneud gwaith ymarferol ar lawr gwlad mewn ffordd sy’n dod â nifer o agendâu ynghyd, yn agendâu amgylcheddol, ac agendâu sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn ogystal, ac arfer da o ran paratoi bwyd, ond hefyd mae’n cynnwys y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn rhan allweddol ohono. Yn ddiweddar, derbyniodd wobr gan y cynllun Bwyd am Oes. Mewn ffordd, cynlluniwyd agenda’r gwobrau i allu tynnu sylw eraill at waith da sy’n mynd rhagddo mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd iddo drwy strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’. Byddwn yn defnyddio’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fel ail ffordd o dynnu sylw eraill at yr arfer da hwnnw. Ac fel y dywedais yn fy ateb agoriadol, mae’r ffaith ein bod wedi cychwyn ar drafodaeth gydag awdurdodau lleol ynglŷn â mwy o weithio rhanbarthol—mae hynny ynddo’i hun yn cynnig gwell cyfleoedd i rannu pethau sy’n digwydd mewn un awdurdod lleol gyda chynghorau cyfagos.