Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 11 Ionawr 2017.
Wel, Lywydd, rwy’n bendant yn cytuno y dylai trafodion awdurdodau lleol fod mor hygyrch â phosibl i etholwyr lleol yn eu hardaloedd. Credaf fod rhai enghreifftiau da iawn o dan reolaeth bob plaid wleidyddol yn y Siambr hon sy’n rheoli cynghorau, ac mae angen i ni wneud mwy i gyflymu lledaeniad yr arfer hwnnw. Rwy’n bwriadu defnyddio’r cyfle a ddaw yn sgil Bil llywodraeth leol, os daw un i’m rhan yn ystod y Cynulliad hwn, i ddeddfu i gryfhau’r rhwymedigaethau ar gynghorau i sicrhau bod eu trafodion yn agored ac ar gael i’r cyhoedd ledled Cymru.