– Senedd Cymru am 6:18 pm ar 11 Ionawr 2017.
Ac felly rydw i’n gofyn i Joyce Watson gynnig y cynnig am y ddadl fer a gyflwynwyd yn ei henw hi—Joyce Watson.
Diolch, Lywydd. Byddaf yn siarad heddiw am unigrwydd, ac rwy’n falch o ganiatáu amser ar gyfer Eluned Morgan a Mark Isherwood i wneud cyfraniadau, ac edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet.
Cefais fy ysgogi i gyflwyno’r ddadl hon gan ddau beth. Yn gyntaf, e-bost a gefais cyn y Nadolig gan y Groes Goch Brydeinig. Mae’r elusen wedi ymuno â’r Co-op i helpu pobl ym Mhrydain y cyfyngir ar eu bywydau gan unigrwydd. Maent wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr o’r enw ‘Trapped in a bubble’, a bydd yn lansio pedwar prosiect newydd yng Nghymru—un yn Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Thorfaen. Yna, yn fuan ar ôl y Nadolig, darllenais adroddiad am lansio’r comisiwn ar unigrwydd yn ddiweddarach y mis hwn, comisiwn a ddyfeisiwyd gan y diweddar Jo Cox a Seema Kennedy AS.
Mae’n wir ein bod yn teimlo mwy o gysylltiad â phobl eraill adeg y Nadolig, ond yn fwy ar ein pen ein hunain pan ydym yn unig. Felly, roedd y straeon hyn yn taro tant. Cyn ei marwolaeth annhymig, helpodd Jo Cox i gasglu tystiolaeth am unigrwydd mewn gwahanol rannau o gymdeithas: plant sy’n drist ofnadwy, mamau newydd, pobl anabl ynysig, dynion sy’n dioddef o iselder, a phobl hŷn. Ac mae ei gwaith yn byw ar ei hôl, ac yn cael ei barhau gan Rachel Reeves AS. Mae academyddion ac elusennau, gan gynnwys y Campaign to End Loneliness, Age UK, Gweithredu dros Blant, y Co-op a’r Groes Goch Brydeinig, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, a Sense, wedi cyfrannu at y comisiwn. Mae eu tystiolaeth yn dangos bod mwy na 9 miliwn o bobl ym Mhrydain, bron un o bob pump o’r boblogaeth, yn dweud eu bod yn unig drwy’r amser neu’n aml. Mae ymchwil y Groes Goch a’r Co-operative yn ategu’r ffigur hwnnw. Dywedant fod bron i un o bob pump o bobl yn unig drwy’r amser neu’n aml. ‘Yn unig drwy’r amser neu’n aml’—i mi, mae hwnnw’n ymadrodd trist dros ben, yn ffigur syfrdanol. Ond beth y gallwn ni ei wneud am y peth? Mae unigrwydd yn rhan o fywyd. Yr awdur a’r athronydd Americanaidd, Henry David Thoreau a ysgrifennodd:
Mae dynion drwy’u trwch yn byw bywydau o anobaith tawel.
Mae pobl wedi disgrifio hon fel oes pryder. Ond gallwn weithredu, ac fe ddylem weithredu, oherwydd mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn bryder cyhoeddus, yn ogystal ag anhapusrwydd preifat. Yn un peth, mae’n fater iechyd y cyhoedd. Mae unigrwydd yn gysylltiedig â symptomau corfforol fel pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, iselder, afiechyd meddwl, yfed a chamddefnyddio sylweddau. Buom yn trafod gordewdra yn gynharach y prynhawn yma, a bydd peth ymchwil yn awgrymu y gall unigrwydd fod mor niweidiol i iechyd â gordewdra neu ysmygu. Felly, mae yna ddadl eglur o ran iechyd y cyhoedd. Yn fwy cyffredinol, mae unigrwydd yn gyfuniad o faterion personol, cymunedol, a chymdeithasol ehangach. Mae’n effeithio’n negyddol ar gymunedau yn ogystal ag unigolion. Bydd pobl yn encilio. Byddant yn ymddieithrio. Byddant yn cyfrannu llai. Byddant yn absennol o’r gwaith. Felly, mae’n effeithio ar bawb yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Fel y mae teitl y ddadl yn awgrymu—’O’r golwg yng ngolwg pawb’—mae unigrwydd yn broblem ar bob stryd, ym mhob cymdogaeth, ac ym mhob teulu bron, yn ôl pob tebyg.
Felly, sut y mae mynd i’r afael ag ef? Yn gyntaf, rhaid i ni ei adnabod, a dyna ble y gall y comisiwn a’r ymchwil helpu’n aruthrol. Mae ymchwil y Groes Goch a’r Co-op yn dangos bod bron i dri chwarter y bobl a ddywedodd eu bod yn unig drwy’r amser neu’n aml yn perthyn i un o chwe chategori sy’n gysylltiedig â newid amgylchiadau neu yn sgil digwyddiadau bywyd. A’r rhain yw: bod yn fam ifanc, y rhai sydd â phroblemau iechyd, pobl sydd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar, pobl â symudedd cyfyngedig, pobl sydd wedi ysgaru neu wahanu’n ddiweddar neu wedi ymddeol, a phobl sy’n byw heb blant yn y cartref. Yr hyn sy’n amlwg yw nad oes un achos syml dros unigrwydd. Felly, ni cheir un ateb sy’n gweddu i bawb. Yn hytrach, mae angen cymysgedd o weithgareddau i atal y problemau hyn, i ymateb i brofiadau pobl, ac i adfer hyder y rhai yr effeithiwyd arnynt ers peth amser.
Mae pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, fod oed yn ffactor risg amlwg sydd wedi’i ddogfennu’n dda mewn perthynas ag unigrwydd. Yn ei gyflwyniad i’r comisiwn, cynhaliodd Age Cymru arolwg o bobl dros 60 oed yng Nghymru fis Tachwedd diwethaf, ac mae’r canlyniadau’n amlygu pwysigrwydd pethau fel cludiant fforddiadwy i ac o ddigwyddiadau cymdeithasol, clybiau cinio, clybiau cymdeithasol, ac ymweliadau wyneb yn wyneb. Dyna pam y mae pobl yn parhau i ymgyrchu’n angerddol i achub gwasanaethau fel eu canolfannau dydd lleol, a pham y mae grŵp Llafur ar Gyngor Powys hefyd wedi ymgyrchu, ac eraill yn parhau i ymgyrchu ym mhob man. A dyna pam roedd camau pendant Llywodraeth Cymru i achub y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn hanfodol. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad mwy am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi ein cymunedau gwydn. Mae tueddiad i orddefnyddio’r gair hwnnw, ‘cymuned’, a chaiff ei ddefnyddio’n rhy llac. Rwy’n gwingo pan glywaf bethau fel ‘cymuned sy’n rhoi benthyciadau morgais’. Ond mae cymuned—gwir ystyr cymuned—yn rhan annatod o fywyd Cymru, ac rwy’n credu hynny’n gryf.
Mae gwledigrwydd yn ffactor risg arall ar gyfer unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, ac mae’n gyffredin yn fy rhanbarth i, er, wrth gwrs, gall pobl fod ar wahân heb fod yn unig, a gallant fod yn unig heb fod ar wahân. Mae trafnidiaeth a chyfleusterau yn arbennig o bwysig mewn lleoliad gwledig ond mae hynny’n wir hefyd am gysylltiad rhyngrwyd da, ac mae Cyflymu Cymru wedi helpu mewn rhai ffyrdd. Ond unwaith eto, yr hyn sy’n amlwg o waith ymchwil y comisiwn yw bod unigrwydd yn cyffwrdd â phob rhan o gymdeithas: menywod a dynion, trefol a gwledig, hen ac ifanc. Mae ChildLine wedi helpu mwy na 4 miliwn o bobl ifanc, gyda mwy a mwy yn cysylltu â hwy yn y blynyddoedd diwethaf i ddweud pa mor ddiobaith a thrist ac unig y maent yn teimlo. Mae cyfryngau cymdeithasol, wrth gwrs, yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad, ond nid yw’n cymryd lle siarad â phobl wyneb yn wyneb. Yn aml gall wneud i bobl deimlo’n fwy unig, a gall amlygu cymaint o gysylltiadau sydd gan bobl eraill, yn ymddangosiadol o leiaf.
Felly, mae angen dull cyfannol arnom i fynd i’r afael ag unigrwydd, un y bydd yn rhaid iddo, yn ddi-os, dorri ar draws meysydd polisi ac adrannau’r Llywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol. Am y ddwy flynedd nesaf, bydd y Groes Goch yn darparu cymorth uniongyrchol personol i 12,500 o bobl mewn 39 o leoliadau ym Mhrydain, gan gynnwys y pedair ardal yng Nghymru y soniais amdanynt yn gynharach—Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Thorfaen. Bydd timau o gysylltwyr cymunedol ymroddedig a staff cymorth yn y cartref a gwirfoddolwyr yn darparu cymorth seicogymdeithasol arbenigol, cymorth diogelu a help i bobl sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Byddant yn darparu 12 wythnos o ofal dwys sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan nodi gweithgareddau, grwpiau diddordeb, a gwasanaethau lleol i helpu pobl fagu hyder.
Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r prosiect yn Sir Gaerfyrddin, lle y mae bron i draean o’r boblogaeth yn byw eu hunain. Cyfeiriwyd un defnyddiwr gwasanaeth yno, Janet—nid ei henw iawn—at y Groes Goch yn ystod y gwanwyn y llynedd, ar ôl iddi gael strôc yn ddiweddar a oedd yn cyfyngu ar ei gallu i gerdded. Er ei bod wedi bod yn dioddef o orbryder cyn y strôc, ers hynny roedd hi wedi datblygu agoraffobia a phyliau o banig. Nid oedd wedi gadael ei thŷ na chamu allan drwy’r drws cefn hyd yn oed ar ei phen ei hun ers iddi ddychwelyd o’r ysbyty sawl wythnos cyn hynny. Roedd hi eisiau gallu cerdded at waelod y dreif un diwrnod i gyfarch ei gŵr pan ddôi adref, ac roedd hi hefyd yn awyddus i allu ymweld â’i mab yn Copenhagen adeg y Nadolig a gallu cerdded yn annibynnol o’r trên i fflat ei mab, a oedd tua 400m. Cafodd Janet ei chyflwyno i wirfoddolwr o’r Groes Goch, Heather, ac roedd y ddwy’n gyrru ymlaen yn dda ar unwaith. Dechreuodd Heather ymweld â hi’n wythnosol a byddent yn ymarfer mynd y tu allan i’r drws ffrynt, dim ond sefyll yno, a dod yn ôl i mewn. Mewn cyfnod byr iawn o amser aethant yng nghar Heather ar ymweliad â’r arfordir, ar gais Janet, a chynyddodd ei hyder. Yn fuan wedyn, roeddent yn cerdded ar hyd y dreif, a dechreuodd Janet gerdded ar ei phen ei hun, gyda Heather yn sefyll ar y pen arall. Erbyn yr adeg y daeth cymorth Heather i ben, ar ôl y tri mis, roedd Janet yn defnyddio’i sgwter symudedd i deithio pellteroedd hwy ar ei phen ei hun i’r swyddfa bost leol, ac roedd hi’n ymarfer cerdded ar ei phen ei hun yn rheolaidd. A do, fe lwyddodd i ymweld â’i mab yn Denmarc adeg y Nadolig.
Mae Age Cymru hefyd yn gwneud gwaith aruthrol yn y maes hwn ac maent yn lansio ymgyrch fawr newydd yn fuan. Felly, beth y gallwn ni ei wneud yma yn y Cynulliad? Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud? Mae unigrwydd yn rhychwantu llawer o feysydd polisi, fel rwy’n dweud, ond drwy lunio a chraffu ar fwy o bolisi a deddfwriaeth drwy lens unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, gallwn ddechrau mynd i’r afael ag ef yn fwy effeithiol. Dyna’r wleidyddiaeth. Ond yn bersonol, gall pawb ohonom weithredu a gall pawb ohonom wneud mwy. Wrth i lewyrch y Nadolig bylu ac wrth i oerni’r gaeaf barhau, fe allem, mewn gwirionedd, ddechrau sgwrs: gallem godi’r ffôn a siarad â pherthynas oedrannus neu unig a gallem, mewn gwirionedd, wneud amser ar gyfer pobl.
Roeddwn i’n meddwl bod hwnnw’n gyflwyniad emosiynol iawn gan Joyce Watson a hoffwn ddiolch yn fawr iawn iddi, nid yn unig am y cyflwyniad, ond hefyd am gychwyn y drafodaeth hon heddiw.
Rwy’n credu bod unigrwydd yn felltith, mewn gwirionedd, yn enwedig i’r oedrannus a dyna’r pwynt yr hoffwn ganolbwyntio arno oherwydd, rwy’n credu, gyda mwy o bobl yn symud o’r ardal lle y cawsant eu magu, maent yn gadael eu rhieni a chaiff pobl eu gadael ar eu pen eu hunain. Mae hynny’n arbennig o wir, rwy’n meddwl, mewn ardaloedd gwledig, lle y mae’n rhaid i ni fod yn arbennig o sensitif, rwy’n credu. Ond rydym bellach mewn oes o galedi ac er bod y sefyllfa’n ddrwg yn awr, fe wyddom mewn gwirionedd ei bod yn debygol o waethygu. Cawsom wybod gan ein Gweinidog cyllid ein hunain fod awdurdodau lleol yn mynd i orfod tynhau eu gwregysau yn y dyfodol—mae wedi bod yn hael eleni, ond mae angen i ni baratoi.
Yn anffodus, canlyniad Llywodraeth y DU yn gorfodi caledi ar Gymru ac ar awdurdodau lleol yw cau cartrefi gofal. Maent yn achubiaeth i bobl sy’n dioddef unigrwydd. Rwy’n ofni ein bod yn mynd i orfod dibynnu mwy, yn y dyfodol, ar gymdogion, ar gymunedau, ar sefydliadau gwirfoddol, i helpu llywodraeth leol yn yr achosion hyn. Nid yw’n golygu bod y Llywodraeth yn troi cefn ar hyn. Mae’n wirioneddol bwysig fod yna rôl i’r wladwriaeth, ond rwy’n meddwl, efallai, mai’r hyn y dylem ei wneud yw creu seilwaith gwell i ni allu cefnogi gwirfoddolwyr. Rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol pennu un rhif ffôn, er enghraifft, lle y gallai pobl ar draws Cymru gyfan ffonio a byddai peiriant, i bob pwrpas—peiriant o bobl yn cyfeirio galwadau i’r mudiad gwirfoddol cywir. Rwy’n meddwl y gallem leddfu unigrwydd yn y ffordd hon, ond gallem helpu pobl yn ymarferol hefyd. Newid bylbiau—nid ydych eisiau i hen berson newid bylb golau oherwydd gallent syrthio, torri eu clun a bydd hynny’n effeithio ar y GIG. Mae hi cymaint haws i ni eu helpu.
Cyfraniad munud ydoedd, mae’n ddrwg gennyf, ac rydych wedi cael mwy o amser na munud.
Iawn, os caf fi grybwyll un peth arall—
Iawn, yn gyflym iawn felly.
[Yn parhau.]—yr angen, rwy’n meddwl, i ddarparu fframwaith cyllid hirdymor i helpu sefydliadau sy’n tynnu’r pwysau oddi ar y GIG a gwasanaethau gofal. Tybed a fyddai’r Gweinidog yn ystyried ariannu gwell a fframwaith cyllid hirdymor yn hytrach na’r broses ad hoc sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â swyddfa’r Groes Goch Brydeinig yn Abergele i glywed mwy am brosiect Cyswllt Cymunedol i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ac ailgysylltu pobl â’u cymunedau, y cyfeiriodd Joyce Watson ato, gan elwa o’r bartneriaeth rhwng y Groes Goch a’r Co-op. Y rheswm am hyn oedd bod Conwy yn un o’r pedair ardal y cyfeirioch chi atynt gyda 32 y cant o bobl yn byw ar aelwyd un person a 25 y cant yn 65 oed a hŷn. Ond fel y dywedoch, mae hyn ar gyfer pobl o bob oedran, ac nid pobl hŷn yn unig—i’w helpu i dorri’r cylch o unigrwydd ac arwahanrwydd a’u hailgysylltu â’u cymunedau.
Mae cymorth personol gan y Groes Goch hefyd yn cynnwys cynlluniau fel Camau Cadarn i wella bywydau pobl dros 50 oed ledled Cymru, gydag wyth wythnos o gymorth dwys, wedi’i ddilyn gan gymorth mwy hirdymor dan arweiniad gwirfoddolwyr yn y gymuned gan RVS Cymru.
Yn fwy na dim, heb y cymorth iawn ar yr adeg iawn, mae teimlo’n unig neu’n ynysig yn effeithio ar les, mae’n cyfrannu at afiechyd a phwysau ar wasanaethau cyhoeddus, felly mae’n rhaid helpu pobl yn gydgynhyrchiol, i adnabod y cryfderau sydd ganddynt eisoes er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sy’n eu dal yn ôl.
Galwaf yn awr ar Jane Hutt i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am roi’r cyfle i drafod yr heriau sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael ag unigrwydd yn ein cymunedau yng Nghymru. Yn draddodiadol, mae ein cymunedau wedi bod, ac yn parhau i fod yn llefydd lle y mae pobl yn cadw llygad ar ei gilydd ac yn helpu ei gilydd. Ond wrth i gymdeithas newid, mae nifer cynyddol o bobl yn dioddef arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi. Lle y byddai cenedlaethau o’r un teulu, unwaith, wedi byw eu bywydau o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd, yn yr un stryd, yr un gymuned, heddiw mae aelodau o’r un teulu’n aml wedi’u gwasgaru ar draws y wlad neu hyd yn oed ar draws y byd wrth iddynt fynd ar drywydd cyfleoedd gwaith neu ddechrau eu teuluoedd eu hunain. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd y genhedlaeth hŷn yn cael ei gadael ar ôl, fel y pwysleisiodd Eluned Morgan yn ei chyfraniad.
Nid ffenomen sy’n gysylltiedig â heneiddio’n unig yw unigrwydd ac arwahanrwydd wrth gwrs. Mae pawb ohonom yn profi cyfnodau o unigrwydd ac fel yr amlygwyd yn glir iawn yn y ddadl hon, mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn creu risg fawr i iechyd y cyhoedd—yn aml cyfeirir atynt fel y lladdwyr tawel, ac yn aml maent yn gysylltiedig â salwch meddwl, clefyd cardiofasgwlaidd, pwysedd gwaed uchel a chynnydd yn y risg o ddementia. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth a fydd, o reidrwydd, yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan ac ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Ond mae’n rhaid iddi gwmpasu nid yn unig y Llywodraeth yn genedlaethol ac yn lleol—mae llywodraeth leol yn chwarae eu rhan, a’r gwasanaeth iechyd—ond y trydydd sector a’n cymunedau hefyd.
Mae yna nifer o ddulliau sy’n seiliedig yn y gymuned o gefnogi pobl sydd bellach yn unig ac wedi’u hynysu a chawsant eu crybwyll heddiw. Rhoddodd Joyce sylw iddynt yn y ddadl hon. Mae’n bwysig fod ein strategaeth, unrhyw strategaeth gan y Llywodraeth, yn hyrwyddo modelau cynaliadwy sy’n cael eu hintegreiddio yn y cymunedau. Rydym eisoes yn rhoi camau ar waith i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yng Nghymru drwy ystod o raglenni a chynlluniau ac mae rhai o’r rhain wedi cael eu crybwyll. Sefydlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol raglen dair blynedd o rwydweithiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr, a gâi eu galw weithiau’n gymunedau tosturiol. Mae’r rhain yn cefnogi pobl sy’n unig ac wedi’u hynysu drwy fodel presgripsiynu cymdeithasol ac yn cynorthwyo i fynd i’r afael ag effeithiau niweidiol unigrwydd ac arwahanrwydd.
Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chymunedau ar ddiogelu cyfleusterau lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac amgueddfeydd. Mae’r rhain yn bwysig iawn i bobl hŷn ac i bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, pobl sy’n mynd drwy gyfnodau o ddiweithdra neu arwahanrwydd. Wrth gwrs, rhaid i’r cyfleusterau hyn fod ar gael iddynt ac yn wir, mae llawer o’r cyfleusterau wedi cael eu bygwth a’u cyfyngu gan galedi ac mae angen i ni sicrhau y gallwn eu hamddiffyn a’u diogelu.
Mae’r tocyn bws consesiynol yn bwynt pwysig. Mae wedi dod yn achubiaeth gymdeithasol i bobl hŷn yng Nghymru, gyda 92 y cant yn dweud bod eu tocyn bws yn cynnal eu hannibyniaeth ac 81 y cant yn credu y byddai ansawdd eu bywydau’n dioddef hebddo. Felly, mae ein gwasanaethau bws yn allweddol, fel y dywedodd Joyce Watson. Maent yn galluogi a grymuso pobl—nid pobl hŷn yn unig, ond pobl anabl a’u gofalwyr hefyd. Crybwyllwyd yn adroddiad y Groes Goch fod cyfyngiadau ar symudedd yn arwain at wneud pobl yn agored i niwed, gan arwain at unigrwydd ac arwahanrwydd—heb ddulliau annibynnol o adael eich cartref, cynlluniau cyfeillio, yn ogystal â chyfleoedd teithio a thocyn bws. Mae’r rhain i gyd yn rhan o’r cysylltiadau pwysig sy’n galluogi pobl i fod yn rhan o fywyd y gymuned.
Felly, mae cynllun y Groes Goch Brydeinig—wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Groes Goch Brydeinig mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol—i gefnogi prosiect cyfeillio Camau Cadarn yn amlwg yn bwysig. Mae’n allweddol i hyn. Mae’r ddau sefydliad yn cydweithio i greu rhaglen newydd i gynorthwyo pobl hŷn sy’n profi unigrwydd dwys, arwahanrwydd ac afiechyd. Rydym wedi ariannu’r comisiynydd pobl hŷn yng Nghymru i weithredu fel ein llais annibynnol, i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru ac i ddarparu’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Daw hon ag unigolion a chymunedau a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i ddatblygu ffyrdd arloesol ac ymarferol o wneud Cymru yn lle da i dyfu’n hen. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bum thema, yn cynnwys unigrwydd ac arwahanrwydd, ac mae wedi datblygu ymgyrch i roi diwedd ar unigrwydd, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, y Groes Goch Brydeinig a Siediau i Ddynion yn ogystal, sy’n bwysig ei nodi.
Rydym hefyd wedi ariannu My Generation Mind Cymru, prosiect blaengar sy’n anelu at ddatblygu a chyflwyno rhaglen newydd o gymorth i wella gwytnwch a lles pobl hŷn sy’n wynebu risg: y bobl sydd mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl o ganlyniad i arwahanrwydd a gwahaniaethu, allgáu ariannol a thai gwael. Ac un o brif nodau ein cynllun ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yw lleihau’r anghydraddoldebau a brofir gan bobl ag afiechyd meddwl. Gall gwahaniaethu atal pobl rhag cael y cyfleoedd y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol, a gall stigma wneud pobl yn amharod i ofyn am gymorth, gan waethygu’r arwahanrwydd a’r trallod y gall salwch meddwl ei achosi. Mae gennym i gyd gyfrifoldeb i ymgysylltu â phobl mewn angen, i siarad onest ac yn agored am y problemau sydd, o’u gadael heb eu datrys, yn arwain at arwahanrwydd a thrallod meddyliol, ond mae angen i ni symud y tu hwnt i drafodaethau. Nid oes amheuaeth fod y mater wedi cael sylw grymus iawn gan y cyfryngau, yn ogystal â chan dystiolaeth gan y sefydliadau a’r ymgyrchoedd sy’n gysylltiedig, ond mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i edrych ar rôl y Llywodraeth yn ogystal â ni fel unigolion ac yn ein cymunedau er mwyn mynd i’r afael â hyn.
Felly, rwyf am orffen fy ymateb i’r ddadl fer am unigrwydd ac arwahanrwydd drwy gyfeirio eto, fel y gwnaeth Joyce Watson ar ddechrau ei dadl heddiw, at yr astudiaeth ‘Trapped in a Bubble’ gan y Groes Goch Brydeinig a’r Co-op. Unwaith eto, mae’n werth ailadrodd yr hyn y mae’r astudiaeth wedi ceisio ei wneud ac yn ei gyflawni. Archwiliodd yr elfennau sy’n sbarduno unigrwydd yn y DU, gan nodi pedair ardal yng Nghymru—unwaith eto, rwy’n ailadrodd: Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Thorfaen—lle y mae pobl angen cymorth ychwanegol. Rhaid i ni i gyd ddysgu o’r astudiaeth honno yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau. Mae Mark Isherwood eisoes wedi nodi ac wedi cysylltu yn ei ranbarth ac wrth gwrs, yn Nhorfaen, mae cyfle, yn ogystal â Chasnewydd, Conwy a Sir Gaerfyrddin; maent i gyd yn etholaethau y gwn fod yr Aelodau’n awyddus i’w dilyn yn agos iawn.
O ganlyniad i ymdrechion cydweithwyr, aelodau a chwsmeriaid y Co-op, codwyd £50,000 i alluogi’r Groes Goch i roi cymorth i’r bobl sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd yn yr ardaloedd hynny. Unwaith eto, mae gweld haelioni parhaus pobl mewn cymunedau yng Nghymru yn y cyfnod anodd hwn yn ariannol yn galonogol iawn. Ond rwy’n credu hefyd fod yr ysbryd hwn o haelioni yn dangos yn glir fod yn rhaid i’r Llywodraeth—Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol—nid yn unig ddarparu ond datblygu strategaeth genedlaethol sy’n croesi pob portffolio adrannol er mwyn ein helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac i ddwyn ynghyd rai o’r elfennau o’r camau y mae’r Llywodraeth eisoes wedi’u rhoi ar waith i wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar hyn o safbwynt strategol a bod yn glir hefyd ynglŷn â’r hyn y gall ein partneriaid ei ddarparu. Ac rwy’n meddwl bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn gwirionedd yn darparu’r fframwaith hwnnw o ran pa gamau y gellir eu cymryd, ac rwy’n meddwl bod yr egwyddor allweddol gyntaf, sef canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, yn gwbl allweddol o ran mynd i’r afael â phroblem unigrwydd ac arwahanrwydd.
Ar y diwedd un, hoffwn ddiolch i Joyce Watson am grybwyll gwaith arloesol y diweddar Jo Cox AS a’r ffaith ei fod yn awr yn cael ei ddatblygu gan ASau benywaidd Llafur a Cheidwadol yn San Steffan, ac fe fyddwn ni, rwy’n siŵr, yn ymwneud â’r gwaith hwnnw. O ran Jo Cox, roedd y frwydr yn erbyn unigrwydd yn rhan bwysig iawn o’i gwaith ysbrydoledig fel AS: ei hymgyrch ‘Gobaith nid casineb’. Mae mwy sy’n ein huno nag sy’n ein gwahanu, ac rwy’n credu mai dyma’r polisi a’r athroniaeth lle y bydd pobl yng Nghymru yn disgwyl i ni uno er lles pawb yn unol â hynny.
Diolch yn fawr iawn, a dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw.