Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Cyn i mi gael fy ethol roeddwn yn gyfreithiwr, a phan oeddwn yn blentyn ysgol, nid oeddwn yn adnabod unrhyw gyfreithwyr. Nid oedd unrhyw un o rieni fy ffrindiau neu gyfeillion i’r teulu yn gyfreithwyr, ond rywsut, fe ddigwyddodd. Ond yn yr economi newidiol sydd ohoni efallai nad yw pobl yn gwybod pa fath o swyddi sydd ar gael wrth iddynt fynd drwy’r ysgol, ac mewn rhanbarthau fel fy un i rydym yn gobeithio gweld newidiadau sylweddol yn y math o gyfleoedd sydd ar gael. Bydd y Gweinidog yn gwybod am adroddiad Fforwm Economaidd y Byd y mis hwn, sy’n annog Llywodraethau i sicrhau bod byd gwaith yn rhan annatod o’r daith drwy’r ysgol o’r cyfle cyntaf. Felly, yn ychwanegol at y cyngor a’r canllawiau y cyfeiriodd atynt yn ei ateb, a fuasai’r Llywodraeth yn ystyried cyhoeddi canllawiau gorfodol i ysgolion ynglŷn ag ymgorffori byd gwaith, y profiad a’r cyfleoedd yn y cwricwlwm ysgol o oedran cynnar?