Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 11 Ionawr 2017.
A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu cwestiwn a sylwadau’r Aelod dros Gastell-nedd yn fawr? Rwy’n gyfarwydd â’i ddisgrifiad ac rwy’n cydnabod bod gormod o blant mewn ysgolion, yn rhy aml, yn colli cyfleoedd y bydd plant eraill yn eu cael i weld y llu o gyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae ein cyfaill yn disgrifio gyrfaoedd ym maes y gyfraith, ond wrth gwrs, mae gyrfaoedd mewn meysydd eraill a fyddai’n ysbrydoli plant a phobl ifanc yn yr un modd. A gaf fi ddweud ei bod yn ofynnol i ysgolion uwchradd ddarparu rhaglenni gyrfaoedd a byd gwaith, sy’n cynnwys profiadau’n canolbwyntio ar waith? Ond credaf fod pwynt yr Aelod yn un pwysig, a byddaf yn edrych ar y canllawiau sydd ar gael i ysgolion ar yrfaoedd a byd gwaith er mwyn gwneud yn siŵr fod y canllawiau hyn yn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i blant yn yr ysgol ddeall hyn, a hefyd i roi cyfleoedd i bobl ymweld ag ysgolion ac i ysbrydoli plant i gyrraedd eu potensial llawn.