<p>Cyfleoedd i Ddisgyblion</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:19, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cydnabod yr anawsterau y mae’r Aelod yn eu disgrifio. Rwyf am ddweud bod Gyrfa Cymru bellach wedi sefydlu oddeutu 60 o bartneriaethau Dosbarth Busnes rhwng ysgolion a chyflogwyr. Yn sicr, mae rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn ymwneud ag ehangu’r mathau hyn o gyfleoedd a’r mathau hyn o sgyrsiau mewn ysgolion ac ar gyfer disgyblion a rhwng ysgolion a chyflogwyr. Os oes gan yr Aelod unrhyw faterion unigol y mae’n dymuno eu dwyn i fy sylw, ac os gwnaiff eu cofnodi’n ysgrifenedig, buaswn yn sicr yn fwy na pharod i ymateb yn fwy manwl i’r pryderon unigol hynny ac i roi’r ohebiaeth honno yn y llyfrgell er mwyn i’r holl Aelodau ei gweld.