Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 11 Ionawr 2017.
Weinidog, mewn rhyw fath o rôl wrthgyfatebol i fy nghyd-Aelod o Gastell-nedd, cyfarfûm yn ddiweddar â Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, ac roedd ganddynt raglen a oedd yn annog athrawon i fynd allan i’r gweithle er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth ynglŷn â pheirianneg a meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, rhaglen y mae Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol hefyd yn ei hariannu. A wnewch chi edrych ar gynlluniau o’r fath er mwyn sicrhau bod gennym athrawon yn ein hystafelloedd dosbarth y gellir eu hysbrydoli i fynd ati i hybu’r agenda am ragor o raddedigion peirianneg a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg a phobl i ymgymryd â’r proffesiynau hynny?