Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 11 Ionawr 2017.
Bydd y ganolfan chweched dosbarth newydd yng Nghwmbrân yn disodli pob chweched dosbarth yn ysgolion cyfrwng Saesneg Torfaen erbyn mis Medi 2019. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael gyda chyngor Torfaen ynglŷn â helpu pobl ifanc gyda chostau cludiant i’r ganolfan newydd o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu cynlluniau tocynnau bws rhad yn Nhorfaen a hefyd yng Nghymru? Diolch.