Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 11 Ionawr 2017.
Rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy synnu braidd gan y cwestiwn. Dylai’r Aelodau fod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn siarad yn gyson gydag awdurdodau lleol am y materion hyn. Rydym wedi bod yn sgwrsio gyda Thorfaen am y materion hyn ers peth amser bellach, ac mae hynny wedi’i gofnodi’n gyhoeddus. Byddwn yn parhau i drafod a sgwrsio â’r awdurdod lleol ardderchog yn Nhorfaen, a byddwn yn parhau i wneud hynny nes y byddwn yn hapus â’r canlyniad.