Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr, Adam. Cyhoeddais ymateb Llywodraeth Cymru i holl argymhellion adolygiad Diamond ar 22 Tachwedd. Rwy’n gwahodd unrhyw un sydd â chynigion penodol ar gymhellion i ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 14 Chwefror. Yna bydd angen i mi ystyried yr ymatebion cyn i mi amlinellu’r camau nesaf.