Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 11 Ionawr 2017.
Rydw i’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei hateb hi. A ydy’r Llywodraeth wedi comisiynu gwaith ymchwil? Er enghraifft, mae yna nifer fawr o gynlluniau sydd â’r nod creiddiol yma o ddenu graddedigion neu eu cadw nhw o fewn i wlad ar ôl graddio ar draws y byd. Rydw i’n ymwybodol, er enghraifft, bod dros 40 o daleithiau yn yr Unol Daleithiau yn defnyddio gwahanol fathau o faddeuant ar ddyledion, gan amlaf—dyna’r erfyn mwyaf amlwg. Mae yna, wrth gwrs, fudd economaidd a chymdeithasol cryf i’r math yna o gynlluniau. A allem ni gael astudiaeth sy’n gosod gorolwg fel ein bod ni’n gallu dewis yr opsiwn gorau i Gymru?