Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 11 Ionawr 2017.
Mae’n wirionedd amlwg fod mwy o alw tymhorol yn rhoi rhagor o straen ar wasanaeth sydd eisoes o dan bwysau, gan arwain at amseroedd aros hir i gleifion. Fel y rhybuddiodd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru fis Hydref diwethaf, mae’r henoed bregus a chynnydd mewn cyflyrau anadlol yn arwain at dderbyn mwy o gleifion gyda chyflyrau gwahanol yn ystod y gaeaf. Mae meddygon teulu yn nodi anhawster i drefnu i gleifion gael eu hasesu neu eu derbyn drwy gydol y flwyddyn. Mae’n bosibl y bydd cleifion o’r fath yn cael eu cyfeirio yn y pen draw at yr adrannau brys lle y byddant yn ymuno ag eraill sy’n aros i wely ddod ar gael yn yr ysbyty. Dywedodd datganiad polisi cyhoeddus Age Cymru ar dlodi tanwydd fis Medi diwethaf fod tlodi tanwydd yn broblem sylweddol i lawer o bobl hŷn yng Nghymru—y grŵp sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn sgil hyn—ac mae’n achosi cryn dipyn o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf. Roedd 90 y cant o’r 16,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf yng Nghymru dros y degawd diwethaf yn bobl dros 65 oed, gyda’r gyfradd uchaf yn bobl dros 85, sef bron i 50 y cant o’r cyfanswm.
Yn 2012, amcangyfrifwyd bod bron i 30 y cant o gartrefi yng Nghymru yn wynebu tlodi tanwydd, ac yn gwario 10 y cant neu fwy o incwm yr aelwyd ar danwydd er mwyn cynnal digon o wres i sicrhau cysur ac iechyd. Yn sgil cynnydd yn incwm aelwydydd a gostyngiad ym mhrisiau tanwydd, disgynnodd y nifer i 23 y cant yn 2016, ond mae’n dal i fod yn 291,000 o gartrefi, gyda 43,000 mewn tlodi tanwydd difrifol. Ni chyrhaeddwyd targedau Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi tanwydd i bob cartref sy’n agored i niwed erbyn 2010 a thai cymdeithasol erbyn 2012. Nid oes gobaith realistig o gyrraedd y targed o ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018, ac fel y mae Age Cymru yn nodi, mae llawer o’r mecanweithiau a’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn strategaeth tlodi tanwydd 2010 wedi dyddio neu’n amherthnasol bellach. Rwy’n credu ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru adnewyddu ei strategaeth tlodi tanwydd, gyda rhaglen ac amserlenni clir, sylfaen dystiolaeth gredadwy, a thargedau tlodi tanwydd newydd, wedi’u seilio ar gyflenwi yn hytrach na bod yn gaeth i newidiadau ym mhrisiau ynni.
Fel y dywed Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru achub bywydau drwy weithredu canllawiau NICE ar atal marwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf. Ac er bod tlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol yn y lle cyntaf, mae’r Prif Weinidog unwaith eto wedi gosod y cyfrifoldeb am ei leihau ar ysgwyddau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae’n hanfodol felly fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag aelodau’r Gynghrair Tlodi Tanwydd i osod tlodi tanwydd wrth wraidd y camau i drechu tlodi, gyda phwyslais cryf ar sicrhau bod pob sector yn ysgwyddo cyfrifoldeb gyda’i gilydd. Rhaid i ni roi ymyrraeth gynnar a chamau atal ar waith, gan roi ystyr go iawn i ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a than gyfarwyddyd y dinesydd.
Dylid ehangu cynlluniau cynhesrwydd fforddiadwy lleol, dan arweiniad partneriaeth cynhesrwydd fforddiadwy Sir y Fflint, gan weithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni sy’n bodoli’n barod yn y sector cyhoeddus a phreifat, i fynd i’r afael â thlodi tanwydd penodol a phroblemau iechyd sy’n gyffredin yng Nghymru. Rhaid cefnogi gwasanaethau cynghori annibynnol i bobl mewn tlodi tanwydd, gan achub y bobl sydd mewn argyfwng uniongyrchol nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y ddarpariaeth bresennol. Rhaid croesawu sesiynau Ynni: y Fargen Orau, a ariennir gan gyflenwyr ynni, Ofgem, a Chyngor ar Bopeth yn ogystal â chyfraniadau cwmnïau ynni, megis ymddiriedolaeth ynni elusennol Nwy Prydain, sy’n cynnig cyngor a chymorth i bobl sy’n cael trafferth i dalu eu biliau ynni, a chynllun Health through Warmth Npower, sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed gydag afiechydon sy’n gysylltiedig ag oerfel i brynu a gosod systemau gwresogi ac inswleiddiad yn eu cartrefi.
Ym mis Mawrth byddaf yn noddi digwyddiad yn y Senedd i hyrwyddo parhad rhaglen gynghoriaeth ynni Cymru wledig National Energy Action – Cymru a noddir gan Calor, i helpu aelwydydd lle y ceir tlodi tanwydd mewn cymunedau gwledig oddi ar y grid ar draws Cymru. Roedd ateb ysgrifenedig a gefais gan y Prif Weinidog ddoe yn dweud bod rhaglen allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi tanwydd yn cynnwys ei rhaglen Cartrefi Cynnes, gan gynnwys y cynllun Nyth. Fodd bynnag, mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn pryderu y bydd meini prawf cymhwyster newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru yn golygu na fydd llawer o aelwydydd sy’n gymwys ar hyn o bryd yn cael cymorth, gan atal ymyriadau sy’n arbed arian cyhoeddus.
Mae’n rhaid i ni groesawu gwasanaethau ataliol cydgynhyrchiol, a gynlluniwyd i weithredu drwy gydol y flwyddyn, i leihau pwysau’r gaeaf a galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion clinigol, gwasanaethau fel gwasanaeth cymorth y Groes Goch Brydeinig a gynlluniwyd ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan—mae eu cymuned yn llywio’r cynllun peilot hwn ym meddygfa Clarence House yn y Rhyl a’u canolfan les yn Wrecsam. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan wrth y Cynulliad diwethaf y dylai tlodi tanwydd fod yn ganolog i gynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi Llywodraeth Cymru. Felly, mae angen strategaeth ddiwygiedig ar dlodi tanwydd yn awr.