– Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl yn enw’r Ceidwadwyr Cymreig, ac rydw i’n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6195 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.
2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i’r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy’n nodi: ‘Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol’, ac; ‘Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.’
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle i agor y ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, ers cyflwyno’r cynnig hwn, mae pwysau’r gaeaf wedi cyrraedd y penawdau yng Nghymru ac yn Lloegr. Ac i fod yn onest, buaswn yn disgwyl bod yna bryderon ar draws y pedair gwlad. Gofynnwn am y newyddion diweddaraf gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â sut rydych yn meddwl y mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ymdopi a pha dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’ch safbwyntiau. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rwy’n ymwybodol iawn fod byrddau iechyd yn addo eu bod yn barod ar gyfer pwysau’r gaeaf, ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae gennym sefyllfa lle y caiff pobl anhawster i roi a chael y lefelau cywir a diogel o wasanaeth.
Fel y dywedais ddoe, mae cael trafodaeth gyhoeddus mewn ymateb i bryderon cyhoeddus iawn—ac nid oes ond angen i chi edrych ar dudalen flaen y ‘Western Mail’ heddiw i ddeall y pwysau y mae staff yn teimlo bod yn rhaid iddynt weithredu oddi tano—. Nid yw cael y ddadl gyhoeddus honno yn taflu goleuni negyddol mewn unrhyw fodd ar staff yn y GIG. Y gaeaf hwn, fel mewn gaeafau blaenorol, mae llawer ohonynt wedi mynd y tu hwnt i’r hyn y mae dyletswydd yn galw amdano. Maent wedi camu i’r adwy pan fo cydweithwyr yn dioddef o ffliw, maent wedi ymdrin â rhieni pryderus plant ifanc ofnus sy’n dioddef o bronciolitis, haint sy’n digwydd bob gaeaf, ac maent wedi cynnal ein haelodau mwy oedrannus ac agored i niwed o’r gymdeithas y mae’r gaeaf yn gallu bod mor anodd iddynt. Hoffwn ddiolch i’r holl staff rhagorol sy’n gweithio yn ein hysbytai, ein meddygfeydd, ein cartrefi nyrsio a’n hambiwlansys. Rydych i gyd yn glod i’ch proffesiwn, ac nid yw’r ffaith ein bod yn trafod y mater hwn yn adlewyrchiad ar eich gallu na’ch ymroddiad i’ch swyddi mewn unrhyw fodd. Rydych i gyd yn gweithio o dan bwysau aruthrol ac ar ôl bod yn ddefnyddiwr GIG amharod ond rheolaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ni allaf ganmol digon ar y gwaith a wnewch.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd Coleg Brenhinol y Meddygon ymhlith llawer iawn o sefydliadau, gan gynnwys Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, y Coleg Nyrsio Brenhinol—a gallwn barhau â’r rhestr—a oedd yn nodi’r un pryderon yn eu hanfod am barodrwydd, lefelau staffio, niferoedd y gwelyau sydd ar gael, hyfforddiant a chyllid yn ystod tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i’r pwyllgor iechyd. Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon:
Mae’r heriau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi ar gyfer y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu pwysau ehangach ar y GIG a gofal cymdeithasol.
Ac aethant ymlaen i ddweud:
Mae byrddau iechyd yn gweithredu mewn cyd-destun sydd wedi’i danariannu a’i orymestyn, a lle na cheir digon o feddygon.
O ystyried yr adroddiadau rydym yn eu cael yn ein hetholaethau, y straeon sy’n dod i’r amlwg yn y cyfryngau a’r pryderon sy’n cael eu mynegi gan lu o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, rwy’n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am werthusiad gonest o sut y teimlwch y mae’r GIG yng Nghymru wedi perfformio y gaeaf hwn hyd yn hyn o dan eich goruchwyliaeth chi. Sut y mae’n ymdopi, ac a ydych yn teimlo ei fod mewn sefyllfa ddigon iach i allu ymdopi dros weddill tymor y gaeaf?
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, mewn tystiolaeth a roddodd i’r pwyllgor ac mewn sesiynau briffio pellach, yn nodi bod gormod o welyau ysbyty wedi’u cau dros y degawd diwethaf ac mae diffyg buddsoddiad a chapasiti mewn gofal cymdeithasol yn effeithio’n gynyddol ar y ddarpariaeth gofal iechyd, yn enwedig ar adegau brig.
Eto i gyd, mewn tystiolaeth a roddwyd gennych ar 17 Tachwedd, fe ddywedoch:
nid ydym yn credu bod yna dystiolaeth fod capasiti drwy gydol y flwyddyn wedi’i orymestyn o ran ein niferoedd. Fodd bynnag, rydym bob amser yn edrych i weld a oes gennym y lefel gywir o gapasiti gwelyau yn rhan o’r system.
A ydych yn dal i arddel y safbwyntiau hyn, er bod Cymdeithas Feddygol Prydain i’w gweld yn meddwl fel arall?
Nawr, rwy’n cytuno bod llawer o’r sefydliadau hyn yn dweud bod y GIG o dan bwysau o’r fath drwy gydol y flwyddyn, ond mae ffurf y pwysau’n newid yn y gaeaf, gyda llawer mwy o unigolion ar ddau ben y sbectrwm yn wynebu risg—naill ai’r ifanc iawn neu’r hen iawn. Mae cymdeithas wedi newid a bellach, mae gan Gymru boblogaeth gynyddol o bobl sy’n heneiddio ac sydd, felly, yn fwy bregus, a golyga hyn fod yna anghenion mwy cymhleth a chynnydd yn nifer yr ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Gan Gymru y mae’r gyfradd uchaf o salwch cyfyngol hirdymor yn y DU. Yn y naw mlynedd rhwng 2001-02 a 2010-11, cynyddodd nifer y bobl â chyflyrau hirdymor neu gronig o 105,000 i 142,000, gan roi mwy o bwysau ar wasanaethau.
Ac yn olaf, mae’r coleg pediatreg ac iechyd plant wedi tynnu sylw at y galw cynyddol gan blant a phobl ifanc am wasanaethau, ac maent yn mynd rhagddynt i dynnu sylw at y ffaith eu bod yn teimlo bod nifer y gwelyau dibyniaeth uchel ac unedau gofal dwys yn annigonol. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe gofynnais nifer o gwestiynau i chi yn ystod y cwestiwn brys, a hoffwn gael eglurhad pellach ar rai ohonynt. Rydych yn derbyn bod nifer y gwelyau wedi gostwng, ond rydych wedi dweud bod arian yn cael ei glustnodi ar gyfer gwelyau yn ystod misoedd y gaeaf rhag ofn y bydd galw ychwanegol. A allwch ddweud wrthyf a ydych yn teimlo bod yna bellach ddigon o welyau ar gael yn y GIG yng Nghymru ac yn fwy penodol, a ydynt ar gael yn y lleoliadau cywir—yn y gymuned ac mewn gofal eilaidd? Mae’n hawdd cael gwelyau gwag ar gyfer cleifion, ond os nad ydynt wedi’u lleoli lle rydym fwyaf o’u hangen, cânt eu gwastraffu. Ddoe, gofynnais ynglŷn ag unedau asesu pobl oedrannus a bregus, y gellid eu sefydlu mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar adegau brig. Defnyddir unedau tebyg eisoes mewn ysbytai mewn rhannau eraill o’r DU. A gaf fi ymrwymiad wedi’i gofnodi i ystyried y dull hwn o weithredu, a allai helpu i leddfu’r pwysau uniongyrchol ar reng flaen ein gwasanaeth iechyd a sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn fwy effeithlon, pwynt a wnaed ddoe gan y coleg meddygaeth frys?
Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd yr ymgynghorir â meddygon teulu, a pha bryd, wrth gynllunio ar gyfer ateb y galw am wasanaethau. A ydych yn annog byrddau iechyd i gynnwys uwch feddygon teulu yn ystod y cyfnod cynllunio, gan y bydd ganddynt farn wahanol iawn i staff ysbytai ar yr hyn a olygir wrth bwysau, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod pob rhan o’n GIG yn symud i’r un cyfeiriad ac yn dilyn yr un canllawiau ac argymhellion? Ac yn ystod y dystiolaeth a gawsom, roedd y meddygon teulu yn dweud yn glir iawn nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn rhan o’r paratoadau ar gyfer y gaeaf.
Byddwn yn cefnogi dau welliant Plaid Cymru yn llawn ac er y gallwn gefnogi bron bob un o welliannau’r Llywodraeth, nid wyf yn gweld y dystiolaeth dros y datganiad eich bod yn buddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid yn y GIG. Mae ystadegau sydd gennyf yn dangos bod y cyllid eleni yn llai nag ar gyfer 2014-15 ac mae blynyddoedd o danariannu wedi arwain at y sefyllfa hon. Rwy’n falch eich bod yn galw arnoch eich hunain i ddarparu’r adroddiad statws hwn y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn amdano gan fy mod yn credu, Ysgrifennydd y Cabinet, oni bai eich bod chi’n cynnal y pwysau ar fyrddau iechyd, ni welwn unrhyw obaith y glynir at y cynlluniau y mae cyn lleied o’r gweithwyr proffesiynol yn honni eu bod wedi cael rhan ynddynt. Edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl ‘pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol’ ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.
4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i’r GIG a’r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio’n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o’r radd flaenaf i gleifion.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y gaeaf.’
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Yn naturiol, rydym yn sôn am barodrwydd y gwasanaeth iechyd gogyfer y gaeaf. Fel fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor iechyd, bydd pawb yn ymwybodol ein bod ni wedi bod yn cario ymlaen gydag adolygiad dros yr wythnosau diwethaf i’r mater yma. Wrth gwrs, mae’n wir i nodi, fel y cawsom dystiolaeth gerbron, bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o dan straen anferthol drwy’r flwyddyn, a dweud y gwir. Ond mae yna ambell bigyn yn digwydd wedyn amser y gaeaf.
Yn yr amser sydd gennyf, roeddwn yn mynd i nodi, ac yn dilyn ein gwelliant ni sydd yn olrhain pwysigrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol i hyn oll, bod yna berygl weithiau i’r rheini ohonom sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd i jest fynd ymlaen ac ymlaen am y gwasanaeth iechyd. Ond os nad ydym yn mynd i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol yn iawn, bydd hynny’n tanseilio holl ymdrechion y gwasanaeth iechyd i fynd i’r afael â’r materion yma. Yn benodol, felly, mae angen ehangu’r ddarpariaeth yn y gymuned o’n gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y lle cyntaf, i atal rhai pobl rhag gorfod mynd rhywle yn agos i ysbyty yn y lle cyntaf. Felly, trio gwella gofal yn y gymuned. Mae hynny i lawr i’r meddygon teulu a’u timau hwythau, ond hefyd i lawr i ofal cymdeithasol yn y gymuned i alluogi pobl i aros yn eu cartrefi. Mae yna waith clodwiw yn mynd ymlaen, ond mae angen rhagor o’r ddarpariaeth yna i atal pobl rhag gorfod mynd unlle’n agos i ysbyty yn y lle cyntaf.
Wrth gwrs, yr ochr arall wedyn: pan mae pobl yn barod i ddod adref o’r ysbyty. Mae angen ehangu’r ddarpariaeth yna hefyd sydd o ochr y gofal cymdeithasol, i wneud yn siŵr bod cyn lleied o oedi â phosibl wrth drosglwyddo cleifion i fynd adref. Yn benodol, felly, buaswn yn leicio gweld—ac rwyf wedi sôn am hyn o’r blaen—gweithwyr cymdeithasol ym mhob meddygfa deulu a hefyd gweithiwr cymdeithasol ar bob ward yn ein hysbytai ni. Eu cyfrifoldeb nhw fyddai trefnu sut mae’r claf yna yn mynd adref mewn amser prydlon. Mae yna wahanol gynlluniau yn mynd rhagddynt yma yng Nghymru. Prosiectau yng Nghaerffili—rwyf wedi clywed am un sy’n cydweithio ac yn annog rhagor o weithwyr cymdeithasol yn ein meddygfeydd teuluol a hefyd yn ein hysbytai ac mae’n gwella’r ddarpariaeth ac yn gwella profiad y claf o’r gwasanaeth iechyd yn gyfan gwbl. Mae hynny o ochr y gwasanaethau cymdeithasol.
Wedi olrhain pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol, y peth arall sy’n bwysig adeg y gaeaf ydy bod pawb sy’n teilyngu cael brechiad yn erbyn y ffliw yn derbyn brechiad yn erbyn y ffliw. Mae hynny’n nifer fawr: pob un sy’n hŷn na 65 mlwydd oed, sydd â gwahanol gyflyrau tymor hir megis cyflyrau’r ysgyfaint a’r galon a’r clefyd melys ac ati, ond hefyd y staff yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Cawsom ddigon o dystiolaeth fod cyfartaledd nifer y staff yn y gwasanaeth iechyd a oedd yn derbyn brechiad i atal y ffliw yn gallu bod yn isel iawn mewn rhai mannau. Wedyn, mae eisiau dwyn perswâd, achos ar ddiwedd y dydd rydym eisiau cadw ein staff yn iach hefyd.
Fy mhwynt olaf i yn yr amser sydd gerbron yw i sôn wlâu, achos mae’r system o dan bwysau achos diffygion yn y capasiti. Un o’r rheini ydy gwlâu—ie, gwlâu yn ein hysbytai ni ac hefyd gwlâu yn gymunedol mewn gwahanol gartrefi preswyl ac ati. Rwyf yn gwybod fy mod wedi bod yn sôn am brinder gwlâu ers blynyddoedd. Mae pobl wastad yn fy nghyhuddo i o orsymleiddio’r broblem: ‘Mae’n llawer mwy na jest sôn am wely, Dr Lloyd’, maen nhw’n ei ddweud. Ond ar ddiwedd y dydd, y rhan fwyaf o’r amser, rydym ni jest eisiau gwely a dweud y gwir. Mi allwch chi sôn am ba fath o wely a phwy sy’n mynd i’w staffio fo, ond ar ddiwedd y dydd, rydym ni wedi gweld erydu yn y nifer o wlâu sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd a hefyd mewn gofal cymdeithasol. Mae yna ddisgyn yn y nifer o wlâu ac eto mae yna gynnydd yn y nifer o gleifion. Wel, nid yw hynny’n mynd i ffitio at ei gilydd ac mae’n rhaid i ni—David.
Diolch i’r Aelod am yr ymyriad. Rwy’n derbyn ac yn cytuno bod nifer y gwelyau’n lleihau—fel rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn cydnabod, cawn wybod yn aml po fwyaf o welyau sydd gennych y mwyaf y byddwch yn eu llenwi. Ond hefyd mae yna gwestiwn difrifol ynglŷn â staffio a’r gofynion nyrsio i wneud yn siŵr fod gwelyau wedi’u staffio’n ddiogel. Mae honno’n broblem sy’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi hefyd, ‘does bosibl.
Ie, buaswn i’n berffaith fodlon derbyn y pwynt yna. Wrth gwrs, rydym ni’n wastadol yn derbyn y pwynt yna, ond weithiau rydym ni’n colli’r ffaith bod angen mwy o wlâu arnom ni ta beth. Mae’r system ar ei mwyaf effeithlon pan mai 85 y cant o’r capasiti o ran gwlâu sydd yn llawn. Mae angen rhyw fath o lacrwydd a hyblygrwydd yn y system—pan mae popeth yn llawn o hyd, nid oes yna ddim yr hyblygrwydd yna i allu ymateb i wahanol argyfwng. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddweud fy mod yn ei chael hi’n dra eironig mai’r blaid sy’n Llywodraeth yn San Steffan sy’n cyflwyno’r cynnig hwn ar gefn heriau sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru—yr un blaid sydd nid yn unig wedi torri cyllid yn gyson i Gynulliad Cymru ond sydd hefyd wedi goruchwylio dros yr argyfwng mwyaf sy’n wynebu’r GIG a gofal cymdeithasol yn Lloegr yn ystod ein hoes yn ôl pob tebyg?
Ond yma yng Nghymru, wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau ac nid pwysau’r gaeaf yn unig sy’n rhoi straen ar y GIG a gwasanaethau gofal. Mae galw cynyddol am wasanaethau yn ganlyniad i lwyddiant y GIG a’r sector gofal yn cadw pobl yn fyw yn hwy. Ynghyd â phoblogaeth sy’n heneiddio, mae gennym gleifion sydd â chyflyrau mwy cymhleth a difrifol a dwys. Mae’r realiti hwn na ellir ei osgoi o alw cynyddol ac anghenion cymhleth yn her i’r sector iechyd a gofal drwy gydol y flwyddyn ac mae’r pwysau cyson yn cynyddu’n anochel yn ystod misoedd y gaeaf pan fo’n rhaid i’r GIG ymdopi hefyd â lefelau uwch o absenoldeb staff oherwydd salwch. Nid oes neb yn dweud ychwaith nad oes yna her yma yng Nghymru hefyd o ran recriwtio mwy o feddygon a gweithwyr proffesiynol eraill yn y GIG—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Ddim ar hyn o bryd, na wnaf. Roedd llawer o’r sylwadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn nodi cynllunio ar gyfer y gweithlu a phrinder staff fel mater allweddol i’n gwasanaethau gofal drwy gydol y flwyddyn.
Fodd bynnag, yr hyn sydd gennym yng Nghymru yw Llywodraeth sy’n barod i ddyrannu cyllid ychwanegol a chyflwyno deddfwriaeth a chynlluniau i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu. Roedd themâu cyffredin eraill yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor yn cynnwys potensial fferyllwyr a staff gofal eraill i ryddhau gwasanaethau meddygon teulu a’r angen am integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well.
Nawr, yn fy etholaeth i, roedd bwrdd iechyd Cwm Taf yn rhan o gynllun peilot llwyddiannus lle roedd meddygon teulu’n brysbennu cleifion at sylw’r fferyllfa lle roedd hynny’n briodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno’r cynllun Dewis Fferyllfa ymhellach ar draws rhannau eraill o Gymru. Rwy’n credu ei bod yn werth nodi bod hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr lle y cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan doriad yn y cyllid sydd ar gael i fferyllfeydd yno. Yn arwyddocaol, mae gennym £60 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y gronfa gofal canolraddol arloesol y nododd y rhai a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor ei bod yn hanfodol i leddfu pwysau bob dydd ar ein gwasanaethau iechyd.
Felly, yr hyn y gallwn ei ddangos yma yng Nghymru yw mesurau i fynd i’r afael â’r problemau sy’n creu heriau gwirioneddol i’r GIG drwy gydol y flwyddyn, ond sy’n gwaethygu yn ystod misoedd y gaeaf. Rwyf wedi cyfeirio at rai o’r cynlluniau hynny eisoes ond mae mesurau eraill yn cynnwys y Ddeddf lefelau staff nyrsio; ymestyn y bwrsariaethau i fyfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sydd, wrth gwrs, wedi cael eu diddymu gan y Torïaid yn Lloegr; buddsoddi mewn gofal sylfaenol gyda chynllun gofal sylfaenol a’r gweithlu wedi’i gefnogi gan £43 miliwn; meddygfeydd teulu yn cael cynnig mynediad at becyn cymorth newydd; hyrwyddo’r ymgyrch Dewis Doeth i geisio lliniaru’r pwysau ar y gwasanaethau brys; £50 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael â’r cynnydd yn y galw yn ystod misoedd y gaeaf; a sicrhau bod gan fyrddau iechyd, awdurdodau lleol a gwasanaeth ambiwlans Cymru gynlluniau wedi’u diweddaru a’u hintegreiddio ar gyfer y gaeaf. Mae’r holl gynlluniau hyn yn ymwneud ag atebion mwy hirdymor i’r heriau a wynebir gan ein gwasanaethau iechyd a gofal, ac maent yn rhan ganolog o’r £50 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd iechyd i helpu i ymdopi â phwysau’r gaeaf. Wrth gwrs, gyda’r holl gynlluniau hyn, dylem gydnabod bob amser na fuasent yn cynhyrchu’r effaith a ddymunir pe na baent yn seiliedig ar ymroddiad aruthrol yr holl staff sy’n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd a gofal—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad yn awr, os gwelwch yn dda?
Na, nid oes gennyf ddigon o amser.
Felly, er nad oes neb yn bychanu’r heriau y mae pwysau’r gaeaf yn eu gosod ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth sy’n gweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol—yn hirdymor ac yn gynaliadwy—er mwyn osgoi’r math o argyfwng a wynebir ar hyn o bryd gan y GIG a’r sector gofal yn Lloegr.
Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Hyd yn hyn, mae gaeaf 2016-17 wedi bod yn un mwyn ac ar wahân i ogledd-ddwyrain Cymru, ni fu unrhyw achosion difrifol o salwch tebyg i ffliw. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi lleihau pwysau ar ein GIG. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ein hysbytai mor llawn drwy gydol y flwyddyn fel na all y system ymdopi â chynnydd tymhorol yn y galw. Os gwelwn gynnydd sydyn yn y galw tymhorol y gaeaf hwn, rwy’n ofni efallai na fydd ein GIG yn gallu ymdopi.
Ar y pwynt hwn, hoffwn gofnodi fy niolch i’n staff iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig sy’n gweithio’n anhygoel o galed drwy gydol y flwyddyn, ond hyd yn oed yn fwy felly ar yr adeg hon o’r flwyddyn, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal ardderchog er gwaethaf y pwysau. Yn wir, pe na bai ein staff iechyd a gofal cymdeithasol mor ymroddedig a gweithgar, buasai ein system gofal iechyd wedi chwalu amser maith yn ôl.
Nid yw’r buddsoddiad yn y GIG a’r sector gofal cymdeithasol wedi dal i fyny â’r galwadau ar y system, ac fe’i gwaethygwyd gan gynllunio strategol gwael gan lywodraethau olynol. Un o’r penderfyniadau gwaethaf sy’n effeithio ar y GIG oedd lleihau capasiti gwelyau dros y ddau ddegawd diwethaf a chau ysbytai bwthyn. Mae hyn wedi’i waethygu gan ddiffyg buddsoddiad yn y sector gofal cymdeithasol. Yn draddodiadol, yr ateb i bwysau’r gaeaf yw cynyddu capasiti drwy ganslo llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys. Dyma ymagwedd fyrdymor o’r math gwaethaf. Mae’n arwain at fwy o drallod i’r rhai ar restrau aros a gohirio’r broblem yn unig a wna, yn hytrach na’i datrys. Croesewir y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phwysau’r gaeaf, ond ateb byrdymor yn unig fydd hyn oni bai ein bod yn mynd i’r afael â thanariannu gofal cymdeithasol ac yn cynyddu capasiti ein hysbytai.
Mae gennym boblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio, felly oni bai ein bod yn rhoi camau radical ar waith yn awr, bydd y straen ar ein GIG yn ei chwalu. Diolch yn fawr.
Mae’n wirionedd amlwg fod mwy o alw tymhorol yn rhoi rhagor o straen ar wasanaeth sydd eisoes o dan bwysau, gan arwain at amseroedd aros hir i gleifion. Fel y rhybuddiodd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru fis Hydref diwethaf, mae’r henoed bregus a chynnydd mewn cyflyrau anadlol yn arwain at dderbyn mwy o gleifion gyda chyflyrau gwahanol yn ystod y gaeaf. Mae meddygon teulu yn nodi anhawster i drefnu i gleifion gael eu hasesu neu eu derbyn drwy gydol y flwyddyn. Mae’n bosibl y bydd cleifion o’r fath yn cael eu cyfeirio yn y pen draw at yr adrannau brys lle y byddant yn ymuno ag eraill sy’n aros i wely ddod ar gael yn yr ysbyty. Dywedodd datganiad polisi cyhoeddus Age Cymru ar dlodi tanwydd fis Medi diwethaf fod tlodi tanwydd yn broblem sylweddol i lawer o bobl hŷn yng Nghymru—y grŵp sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn sgil hyn—ac mae’n achosi cryn dipyn o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf. Roedd 90 y cant o’r 16,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf yng Nghymru dros y degawd diwethaf yn bobl dros 65 oed, gyda’r gyfradd uchaf yn bobl dros 85, sef bron i 50 y cant o’r cyfanswm.
Yn 2012, amcangyfrifwyd bod bron i 30 y cant o gartrefi yng Nghymru yn wynebu tlodi tanwydd, ac yn gwario 10 y cant neu fwy o incwm yr aelwyd ar danwydd er mwyn cynnal digon o wres i sicrhau cysur ac iechyd. Yn sgil cynnydd yn incwm aelwydydd a gostyngiad ym mhrisiau tanwydd, disgynnodd y nifer i 23 y cant yn 2016, ond mae’n dal i fod yn 291,000 o gartrefi, gyda 43,000 mewn tlodi tanwydd difrifol. Ni chyrhaeddwyd targedau Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi tanwydd i bob cartref sy’n agored i niwed erbyn 2010 a thai cymdeithasol erbyn 2012. Nid oes gobaith realistig o gyrraedd y targed o ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018, ac fel y mae Age Cymru yn nodi, mae llawer o’r mecanweithiau a’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn strategaeth tlodi tanwydd 2010 wedi dyddio neu’n amherthnasol bellach. Rwy’n credu ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru adnewyddu ei strategaeth tlodi tanwydd, gyda rhaglen ac amserlenni clir, sylfaen dystiolaeth gredadwy, a thargedau tlodi tanwydd newydd, wedi’u seilio ar gyflenwi yn hytrach na bod yn gaeth i newidiadau ym mhrisiau ynni.
Fel y dywed Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru achub bywydau drwy weithredu canllawiau NICE ar atal marwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf. Ac er bod tlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol yn y lle cyntaf, mae’r Prif Weinidog unwaith eto wedi gosod y cyfrifoldeb am ei leihau ar ysgwyddau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae’n hanfodol felly fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag aelodau’r Gynghrair Tlodi Tanwydd i osod tlodi tanwydd wrth wraidd y camau i drechu tlodi, gyda phwyslais cryf ar sicrhau bod pob sector yn ysgwyddo cyfrifoldeb gyda’i gilydd. Rhaid i ni roi ymyrraeth gynnar a chamau atal ar waith, gan roi ystyr go iawn i ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a than gyfarwyddyd y dinesydd.
Dylid ehangu cynlluniau cynhesrwydd fforddiadwy lleol, dan arweiniad partneriaeth cynhesrwydd fforddiadwy Sir y Fflint, gan weithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni sy’n bodoli’n barod yn y sector cyhoeddus a phreifat, i fynd i’r afael â thlodi tanwydd penodol a phroblemau iechyd sy’n gyffredin yng Nghymru. Rhaid cefnogi gwasanaethau cynghori annibynnol i bobl mewn tlodi tanwydd, gan achub y bobl sydd mewn argyfwng uniongyrchol nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y ddarpariaeth bresennol. Rhaid croesawu sesiynau Ynni: y Fargen Orau, a ariennir gan gyflenwyr ynni, Ofgem, a Chyngor ar Bopeth yn ogystal â chyfraniadau cwmnïau ynni, megis ymddiriedolaeth ynni elusennol Nwy Prydain, sy’n cynnig cyngor a chymorth i bobl sy’n cael trafferth i dalu eu biliau ynni, a chynllun Health through Warmth Npower, sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed gydag afiechydon sy’n gysylltiedig ag oerfel i brynu a gosod systemau gwresogi ac inswleiddiad yn eu cartrefi.
Ym mis Mawrth byddaf yn noddi digwyddiad yn y Senedd i hyrwyddo parhad rhaglen gynghoriaeth ynni Cymru wledig National Energy Action – Cymru a noddir gan Calor, i helpu aelwydydd lle y ceir tlodi tanwydd mewn cymunedau gwledig oddi ar y grid ar draws Cymru. Roedd ateb ysgrifenedig a gefais gan y Prif Weinidog ddoe yn dweud bod rhaglen allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi tanwydd yn cynnwys ei rhaglen Cartrefi Cynnes, gan gynnwys y cynllun Nyth. Fodd bynnag, mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn pryderu y bydd meini prawf cymhwyster newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru yn golygu na fydd llawer o aelwydydd sy’n gymwys ar hyn o bryd yn cael cymorth, gan atal ymyriadau sy’n arbed arian cyhoeddus.
Mae’n rhaid i ni groesawu gwasanaethau ataliol cydgynhyrchiol, a gynlluniwyd i weithredu drwy gydol y flwyddyn, i leihau pwysau’r gaeaf a galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion clinigol, gwasanaethau fel gwasanaeth cymorth y Groes Goch Brydeinig a gynlluniwyd ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan—mae eu cymuned yn llywio’r cynllun peilot hwn ym meddygfa Clarence House yn y Rhyl a’u canolfan les yn Wrecsam. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan wrth y Cynulliad diwethaf y dylai tlodi tanwydd fod yn ganolog i gynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi Llywodraeth Cymru. Felly, mae angen strategaeth ddiwygiedig ar dlodi tanwydd yn awr.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Ac rwy’n siŵr y byddwn yn treulio mwy o amser yn y Siambr hon, nid ddoe a heddiw’n unig, yn trafod realiti pwysau’r gaeaf ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros y misoedd nesaf.
Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau real iawn wedi bod ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf yma yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig. A thestun clod i ymrwymiad a sgiliau ein staff, er gwaethaf yr amgylchiadau gwirioneddol anodd a heriol hyn, yw bod mwyafrif helaeth y cleifion yn parhau i gael gofal mewn modd proffesiynol ac amserol, a dylai ymroddiad ein staff fod yn ffynhonnell balchder cenedlaethol mawr.
Mae cynlluniau partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf yn cael eu gweithredu mewn ymateb i bwysau sy’n gyfarwydd i bawb ohonom. Mae rhannau o ofal cymunedol sylfaenol, er enghraifft, wedi cofnodi cynnydd o 30 i 40 y cant yn y galw am apwyntiadau meddygon teulu, a chynnydd dangosol o 10 i 15 y cant yn y galw am wasanaethau y tu allan i oriau. Ond o ran gweithredu mesurau newydd, fe wyddom fod cynllun braenaru 111 yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw dros y Nadolig—gan dderbyn dros 350 yn fwy o alwadau y dydd ar rai dyddiau na nifer arferol y galwadau ar adegau brig yn ystod misoedd cyntaf y cynllun peilot. Ond yn hollbwysig, mae’r gwasanaeth hwnnw hefyd i’w weld yn gweithio’n dda o ran darparu gofal, ond hefyd o ran atal pobl rhag gwneud teithiau diangen i ysbyty. Ac unwaith eto, mae hynny’n glod i sgìl ac ymroddiad ein staff, a chynllun a darpariaeth y gwasanaeth 111. Rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaed gan amryw o Aelodau yn y ddadl hon am feddygon teulu â rhan hanfodol i’w chwarae, yn llunio cynlluniau ar gyfer y gaeaf, ac yn darparu gofal iechyd drwy gydol y gaeaf. Dyna pam y mae’n galonogol fod gwasanaethau sylfaenol a gofal cymunedol at ei gilydd yn ymdopi â’r cynnydd yn y gweithgarwch yn ddiweddar. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi ystod o fentrau, gan gynnwys enghreifftiau lleol o frysbennu dros y ffôn, gwasanaethau fferyllol estynedig sydd hefyd yn helpu i reoli’r galw, ac rwy’n falch fod Dawn Bowden wedi llwyddo i dynnu sylw at nifer o’r cynlluniau hynny. Maent yn gwneud gwahaniaeth go iawn nid yn unig i staff unigol, ond yn allweddol i’r cleifion y maent yn gofalu amdanynt.
Ac unwaith eto, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi profi adegau pan oedd y cynnydd sydyn yn y galw’n enfawr. Er enghraifft, Ddydd Calan, roedd 46 y cant yn fwy o alwadau coch na’r cyfartaledd dyddiol yn 2016, ond mae’r gwasanaeth wedi gallu rhyddhau hyd at 200 o gleifion y dydd yn ddiogel heb orfod eu cludo i’r ysbyty—a hynny drwy ddefnyddio’i wasanaeth desg glinigol ychwanegol ar gyfer trin cleifion yn y fan a’r lle. Felly, nid sylw yw hyn ar y GIG yn mynd ati’n syml i roi mwy o arian i mewn i’r system flaenorol y mae bob amser wedi’i gweithredu—mae yma newid, diwygio ac arloesi go iawn ar waith, ac mae’n cael ei arwain gan ein staff a’i lywio gan y dystiolaeth real iawn o’r hyn sy’n gweithio ar lawr gwlad.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am dderbyn ymyriad. Rwy’n derbyn ac yn cefnogi’r pwynt fod yna ragoriaeth yn digwydd bob dydd yn y GIG, ac yn enwedig yn ein gwasanaeth ambiwlans. Ond a wnewch chi ymateb i’r adroddiadau heddiw am chwaraewr rygbi a dorrodd ei wddf ac y bu’n rhaid iddo aros am ddwy awr ar gae chwarae cyn i’r ambiwlans gyrraedd i’w gludo i’r ysbyty? A allwch gadarnhau mai un achos ar ei ben ei hun yw hwnnw i raddau helaeth iawn ac nad yw’n sefyllfa sy’n digwydd i bobl mewn rhannau eraill o Gymru?
Nid wyf ond yn ymwybodol o’r prif faterion yn y pwynt penodol rydych yn ei nodi, ond rwy’n credu mai un achos ar ei ben ei hun ydyw. Ac mewn gwirionedd, mae ein tystiolaeth ystadegol o’r hyn sy’n digwydd pan fydd pobl yn gwneud galwadau yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael ymateb yn gynt o lawer, yn y categori coch a’r categori ambr. Ac mae hynny’n rhan o’r pwynt lle rwy’n meddwl y dylem fod yn falch o’r hyn y mae ein gwasanaeth yn ei wneud. Mae cydnerthedd y gwasanaeth ambiwlans yn arbennig, yn ystod y gaeaf hwn o gymharu â’r un cynt, a’r un cyn hynny—nid wyf yn meddwl y buasech wedi gweld y math o gydnerthedd a gyflawnwyd yn gyffredinol gan ein staff. Y rheswm am hynny yw oherwydd y staff, ac mae hynny’n deillio o newid yn y model a blaenoriaethu cleifion sydd â’r angen mwyaf. Ac unwaith eto, rwy’n falch iawn o’r hyn y mae ein gwasanaeth ambiwlans yn ei gyflawni, ar adeg fwyaf heriol y flwyddyn fel hyn. Ac mae gwybodaeth reoli hefyd yn dangos bod y nifer sy’n mynychu’r prif adrannau damweiniau ac achosion brys cymaint â 5 y cant yn uwch ar gyfer y dyddiau’n dilyn Calan eleni o gymharu â’r llynedd. Felly, mae’r galw’n parhau i gynyddu, ac mae data rheoli mewnol cynnar o’r ysbytai hefyd yn dangos bod nifer y derbyniadau brys wedi cyrraedd y lefel uchaf ers pum mlynedd ar 27 Rhagfyr.
Nawr, rydym yn cefnogi iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, gan gynnwys cymorth ychwanegol o £50 miliwn a gyhoeddais yn flaenorol. Mae hynny ar ben y £43 miliwn ar gyfer y gronfa gofal sylfaenol, a’r £60 miliwn ar gyfer y gronfa gofal canolraddol eleni, i helpu i atal derbyniadau diangen ac oedi cyn rhyddhau. Ac ar oedi wrth ryddhau o ofal, unwaith eto mae gennym newyddion da i’w roi yng Nghymru. Rydym wedi mynd o gyfnod pan gafwyd lefel uchel ychydig flynyddoedd yn ôl i gynnal lefel sy’n gostwng. Mae rhagor i’w wneud bob amser, a dyna’n union yw’r ymagwedd sydd gennyf, sef deall a chydnabod y cyflawniadau a’r gwelliant sydd yno, gan ystyried hefyd beth arall sydd angen i ni ei wneud i sicrhau gwelliant pellach, a’r angen i wahanol bartneriaid gael eu cynnwys, a chymryd rhan a chael cyfran yn y gwelliant hwnnw. Mae hyn i gyd yn cael ei gyflawni yn erbyn cefndir o galedi parhaus i wasanaethau cyhoeddus, ac mae hwnnw’n realiti anochel i bawb ohonom yn y Siambr hon, ond yn bwysicach, i’n staff a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Rydym wedi gwneud dewisiadau gwahanol i Loegr, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn y newyddion yn ystod yr wythnos ddiwethaf—gwahanol ddewisiadau mewn perthynas â chynllunio ac ariannu ein system iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd. Dyna pam ein bod yn dewis peidio â gwneud y toriadau i ofal cymdeithasol y mae Simon Stevens, ac eraill yn GIG Lloegr, bellach yn dweud eu bod yn broblem real iawn iddynt hwy. Cawsom ein beirniadu am ein dull o weithredu, wrth i ni edrych ar iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd yn ystod y tymor diwethaf, ond rwy’n dweud wrth y bobl yn y Siambr hon, sydd bellach yn galw arnom i roi mwy o arian ar gyfer gofal cymdeithasol ac ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, i beidio ag edrych yn unig ar ddoe, yn y gyllideb derfynol, ond ar y cyhoeddiad o £25 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, a £310 miliwn ychwanegol ar ben hynny yn y gyllideb derfynol ddoe. Rydym yn ariannu gofal cymdeithasol ar lefelau nas gwelir mewn rhannau eraill o’r DU, a dylem i gyd fod yn falch o’r dewis rydym yn ei wneud, ond nid yw’n golygu nad oes canlyniadau o gwbl yn sgil hynny mewn rhannau eraill o’n gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedais o’r blaen yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ein bod wedi paratoi’n well ar gyfer y gaeaf nag erioed o’r blaen. Rydym wedi dysgu o’n gaeafau blaenorol. Ac yn ogystal, wrth gwrs, bydd gwersi i’w dysgu eto yn sgil y gaeaf hwn a mwy o welliannau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Ond rwy’n dweud eto y byddwn yn disgwyl dyddiau heriol o’n blaenau, pan fydd y pwysau’n gwaethygu ac yn lleihau eto. Dylai pob un ohonom yn y Siambr hon deimlo’n hynod o ddiolchgar ac yn ffodus ein bod ni yma ac nid yn wynebu’r pwysau y mae ein staff yn ei wynebu ar y rheng flaen.
Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r gofal gorau posibl ar yr amser mwyaf heriol o’r flwyddyn, ac ni fyddai hynny’n bosibl heb y staff sydd gennym ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Angela Burns i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n rhaid i mi ddweud wrthych fy mod wedi disgwyl rhywbeth ychydig yn fwy fforensig, o ystyried ein bod yn gofyn am adroddiad statws—adroddiad diweddaru. Yn wir, yn y gwelliant a gyflwynwyd gennych i’r cynnig hwn, fe ddywedoch y buasech yn darparu adroddiad statws. Yr hyn rydych wedi ei wneud yw rhoi cyfres gyfan o safbwyntiau ac enghreifftiau o arfer da, ac rwy’n eu croesawu’n gyfan gwbl, ond yr hyn nad wyf yn ei weld—. Dyma fy ngwaith: fy ngwaith yw eich herio a gofyn cwestiynau i chi ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Eich gwaith chi wedyn yw gwneud y byrddau iechyd yn atebol. Yr hyn nad ydym yn ei weld neu’n ei deimlo, gan y byrddau iechyd, yw gwir gysylltiad a chydweithio â’r meddygon teulu, sy’n un o’r ddau brif ddrws blaen i mewn i’r gwasanaeth iechyd, ac sydd o dan bwysau aruthrol, ac adrannau damweiniau ac achosion brys, yr ail brif ddrws blaen i’r gwasanaeth iechyd gwladol, sydd hefyd dan bwysau aruthrol, fel y dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.
Nid wyf yn clywed ac nid wyf wedi clywed unrhyw gyfeiriad at gysylltu a chydweithio gyda’r sector gofal cartref a chartrefi gofal, oherwydd mae arnom angen iddynt fod yn gwbl weithredol a sicrhau bod y cynlluniau hynny ar waith. Yr hyn rwy’n gofyn i chi amdano yn y bôn, Weinidog, yw i chi ddarbwyllo pawb ohonom fod gennych y saith bwrdd iechyd ar flaenau’ch bysedd. Mae ganddynt gynlluniau—. Maent wedi dweud bod ganddynt gynlluniau ar waith i reoli pwysau’r gaeaf a’ch bod yn eu mesur—yn mesur eu gallu i ddarparu a mesur eu canlyniadau. Rwy’n edrych ymlaen at yr adroddiad statws y dywedwch yn eich gwelliant eich bod yn mynd i’w ddarparu, oherwydd credaf mai chi yw’r unig un gyda streipiau digon mawr i ddwyn y byrddau iechyd i gyfrif mewn gwirionedd er mwyn sicrhau nad yw ein staff yn gorfod gweithio mor galed fel na allant ymdopi a bod ein cyhoedd yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ar yr adeg anodd hon o’r flwyddyn.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.