Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am dderbyn ymyriad. Rwy’n derbyn ac yn cefnogi’r pwynt fod yna ragoriaeth yn digwydd bob dydd yn y GIG, ac yn enwedig yn ein gwasanaeth ambiwlans. Ond a wnewch chi ymateb i’r adroddiadau heddiw am chwaraewr rygbi a dorrodd ei wddf ac y bu’n rhaid iddo aros am ddwy awr ar gae chwarae cyn i’r ambiwlans gyrraedd i’w gludo i’r ysbyty? A allwch gadarnhau mai un achos ar ei ben ei hun yw hwnnw i raddau helaeth iawn ac nad yw’n sefyllfa sy’n digwydd i bobl mewn rhannau eraill o Gymru?