Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 11 Ionawr 2017.
Wel, yn amlwg, fel y dywedwyd eisoes, mae’r sector addysg uwch yn hanfodol bwysig i’n cymdeithas a’n heconomi, nid yn lleiaf am fod ei brosiectau ymchwil a datblygu yn allweddol i greu economi fwy ffyniannus yma yng Nghymru.
Mae amheuon ynglŷn â chyllid ymchwil yn gwneud hwn yn gyfnod ansicr i’r sector. Gallai rhoi diwedd ar ein mynediad at gyllid gan gyrff rhyngwladol arwain at sector prifysgolion sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi, a bydd hynny yn ei dro yn cael effaith ganlyniadol negyddol sylweddol ar Gymru. Gallai Brexit, a diwedd posibl ar arian ymchwil o dramor ysgwyd sylfeini ein heconomi’n sylweddol. Gyda llawer llai i ddenu pobl alluog i astudio ac aros yng Nghymru, rydym yn gwthio ein hunain yn nes byth at farchnad McJob. Mae’r ffeithiau’n siarad drostynt eu hunain: mae graddedigion yn ennill bron i £10,000 y flwyddyn yn fwy na phobl heb radd. Soniodd Llyr am India yn gynharach, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni edrych y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd yn hyn o beth. Byddem yn ffôl i amcangyfrif yn rhy isel, mewn gwirionedd, y cyfoeth, nid yn unig o ran talent, ond y cyfoeth ym mhocedi’r myfyrwyr hyn a ddaw yma i Gymru, a’r ffaith fod llawer ohonynt yn aros a gweithio yng Nghymru, ac yn gwneud Cymru yn gartref iddynt yn sgil eu hastudiaethau yma yng Nghymru, a hir y parhaed hynny.
Mae effaith y sector addysg uwch wedi ei ledaenu ar draws Cymru, gan gefnogi hyd yn oed yr ardaloedd nad oes ganddynt brifysgolion, a gyfrannodd chwarter y cyfanswm gwerth ychwanegol gros hwnnw. Yn yr un modd, roedd dros 25 y cant o’r swyddi a gefnogwyd gan y sector yn 2013 wedi’u lleoli mewn awdurdodau lleol heb brifysgol—ardaloedd fel Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i, lle y cynhyrchodd y sector addysg uwch dros 2,000 o swyddi.
Dylem fod yn falch fod prifysgolion Cymru yn gwneud yn well na’r disgwyl mewn perthynas ag ymchwil. Gennym ni y mae’r ganran uchaf o waith ymchwil o’r radd flaenaf o ran ei effaith o holl wledydd y DU, yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, ac ystyrir bod bron ei hanner yn effeithio’n drawsnewidiol ar yr economi a’r gymdeithas. Felly, o ystyried y gefnogaeth ariannol sylweddol a gafodd Cymru gan yr UE, bydd Brexit yn creu heriau sylweddol i ymchwil a datblygu. Yn 2015 yn unig, cafodd bron £25 miliwn o gyllid datblygu rhanbarthol Ewropeaidd ei gymeradwyo ar gyfer cynigion i wella’r seilwaith ymchwil ac arloesi a meithrin gallu ar draws Cymru, yng nghampws arloesi a menter Aberystwyth, a Chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd. Agorodd campws gwyddoniaeth ac arloesedd y bae ym Mhrifysgol Abertawe yn fy rhanbarth ym mis Hydref 2015 a chafodd fuddsoddiad gwerth €60 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop. Ni allwn fychanu pwysigrwydd y buddsoddiad i economi Gorllewin De Cymru.
Soniodd Darren Millar am Horizon 2020 yn gynharach, ac er ei bod yn wir ein bod yn dal i allu cael mynediad at Horizon 2020 ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynnwys y trafodaethau na pha fath o gytundeb Brexit a gawn i ni wybod a fyddwn yn gallu cael yr un lefel o fynediad at Horizon 2020 ag sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, mae’n bwysig ein bod yn cyflwyno achos dros fod yn rhan o’r mathau hynny o gynlluniau, boed yn un o lawer ai peidio.
Efallai’n wir na fydd ymrwymiad y Canghellor i ychwanegu £2 biliwn ychwanegol y flwyddyn at wariant ar ymchwil a datblygu erbyn diwedd Senedd bresennol San Steffan yn arwain at ddim os yw cyllid grant Ewropeaidd yn diflannu, o ystyried mai 1.67 y cant yn unig o gynnyrch domestig gros oedd gwariant gros y DU ar ymchwil a datblygu yn 2014, un o’r isaf o wledydd y G7, ac rydym yn mynd tuag at yn ôl. Ond yn fwy na hynny, beth y mae’n ei olygu ar gyfer prosiectau newydd? Beth y byddai’n ei olygu i ganolfan ymchwil a datblygu dur ar gampws arloesedd Abertawe, er enghraifft—prosiect y mae llawer ohonom wedi bod yn pwyso amdano ers peth amser bellach? Os mai dim ond llenwi tyllau y mae unrhyw gyllid ychwanegol yn ei wneud, gan redeg er mwyn aros yn llonydd, yna mae’n dilyn y bydd buddsoddiad newydd yn annhebygol iawn o gael ei ystyried, ac mae’n bosibl y byddai argymhellion fel y cynllun ymchwil a datblygu dur, a fyddai’n tanategu hyfywedd yr ardal fel canolfan gynhyrchu dur—rhywbeth sy’n hynod o bwysig i economi Cymru—yn wynebu mwy o gystadleuaeth fan lleiaf.
Mae hwn yn gyfnod bregus iawn i addysg uwch, a rhaid i ni sicrhau, fel llunwyr cyfraith a pholisi, ein bod yn deall yn llawn beth fydd effaith y newid sylweddol hwn i’r tirlun gwleidyddol ar ein sefydliadau, os a phan fyddwn yn pleidleisio ar y cynllun Brexit yn y pen draw.