Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 11 Ionawr 2017.
Nid wyf yn cyhuddo unrhyw un o’r myfyrwyr hynny o wneud cais twyllodrus am fisa. Rwy’n gwneud y pwynt yn syml iawn fod twyll wedi’i ganfod yn y system ac angen rhoi sylw iddo. Nid oedd y system flaenorol yn gweithio. Mae yna gyfleoedd o hyd o dan y trefniadau fisa presennol i bobl wneud cais am fisâu a’u cael.