<p>Ffordd Osgoi Caernarfon/Bontnewydd</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun ffordd osgoi Caernarfon/Bontnewydd? OAQ(5)0367(FM)[W]

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 17 Ionawr 2017

Rŷm ni’n ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r gorchmynion drafft a gafodd eu cyhoeddi fis Awst y llynedd. Fe fydd yna gyhoeddiad ynglŷn â’r camau nesaf yn fuan.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Mi ges i gyfarfod ddoe efo’r contractwyr ar gyfer y cynllun yma, sef Jones Brothers a Balfour Beatty, ac maen nhw’n bryderus iawn nad oes yna ddyddiad wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus. Mae hynny, yn ei dro, yn mynd i olygu oedi os nad oes yna symudiad buan iawn ar gyfer hynny. Mae’r cynllun wedi’i oedi 12 mis yn barod, fel y byddwch chi’n gwybod, oherwydd dadlau ynglŷn ag ystlumod. Yn sicr, nid ydym eisiau mwy o oedi. A fedrwch chi roi sicrhad y gall y contractwyr symud ymlaen efo’r cynllun yma yn fuan yn 2018, sef yr amserlen ar hyn o bryd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:18, 17 Ionawr 2017

Rŷm ni’n mynd trwy’r pethau a gafodd eu codi yn y datganiad amgylcheddol ym mis Awst er mwyn sicrhau bod y rheini’n cael eu datrys. Ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru, gallaf ddweud wrth yr Aelod fod yr ymrwymiad i adeiladu’r ffordd osgoi yn dal i fod yna, er bod oedi wedi bod. Nid oedd modd i osgoi hynny. Ond, na, mae’n hollbwysig bod yr hewl yn cael ei hadeiladu cyn gynted ag sy’n bosibl.