1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2017.
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Phrif Weinidog y DU ynghylch polisi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol? OAQ(5)0400(FM)
Rwyf wedi codi’r mater o gyllid cyfnewid, sydd ei angen i ariannu polisi rhanbarthol. Codais hynny yn fy nghyfarfod cyntaf un gyda Phrif Weinidog y DU fis Mehefin diwethaf. Ac rydym ni wedi bod yn eglur iawn am ein holl flaenoriaethau, gan gynnwys polisi rhanbarthol, ym mhob Cydbwyllgor Gweinidogion ers hynny.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Y tro nesaf y bydd yn cyfarfod y Prif Weinidog Theresa May yng nghyd-destun y trafodaethau Brexit, a fydd e’n sicr o bwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw strategaeth economaidd ranbarthol i Gymru? A wnaiff ef bwysleisio bod yn rhaid i gyllid cyfnewid gan Lywodraeth y DU fod o leiaf yr un faint â’r cyllid UE a gollir, ac, yn olaf, bod yn rhaid iddo fod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru?
Gwnaed addewid gan rai yn yr ymgyrch y llynedd na fyddai Cymru yn colli ceiniog pe byddai Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei anrhydeddu. Os na chaiff, yna bydd gan bobl Cymru bob hawl i ofyn pam y cawsant, os yw hyn yn wir, eu camarwain. Yn ail, mae'n hynod bwysig bod y polisïau economaidd yr ydym ni wedi eu datblygu yma, y diweithdra isaf ers blynyddoedd lawer iawn, is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a'r ffigurau buddsoddiad uniongyrchol o dramor gorau ers 30 mlynedd, o fewn rheolaeth lwyr Llywodraeth Cymru i gyflawni’r manteision hynny i bobl Cymru.
Brif Weinidog, es i i frecwast ffermwyr blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn adeilad y Pierhead y bore yma, wedi’i lywyddu gan Paul Davies—digwyddiad gwych, fel bob amser. Roedd ffermwyr yn awyddus, a hynny’n ddealladwy, i gael eglurder ynghylch y system taliadau fferm a fydd yn cael ei chreu ar ôl i’r DU adael yr UE, pan fydd hynny'n digwydd yn y pen draw. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am drafodaethau eich Llywodraeth gyda Llywodraeth y DU ar y ffordd orau o ddiogelu cymorth i ddiwydiant ffermio Cymru yn y dyfodol?
Clywais sylwadau Mr Roberts, llywydd yr FUW, yr wythnos diwethaf, pan fynegodd ei bryder am storm berffaith, ac mae'n iawn i wneud hynny. Ar hyn o bryd, nid oes gennym ni unrhyw eglurder y tu hwnt i 2020. Ceir rhai yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sy'n awgrymu na ddylai fod unrhyw gymorthdaliadau ffermio o gwbl. Nid yw hynny'n rhywbeth y byddem ni’n ei gefnogi fel Llywodraeth. A cheir rhai sy'n awgrymu nad yw'r farchnad Ewropeaidd yn bwysig ar gyfer ffermio—mae 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Ni ellir ei disodli yn hawdd fel marchnad ar gyfer ein nwyddau, felly mae'n rhaid i ni sicrhau, wrth i'r DU adael yr UE, nad oes dim yn ymyrryd â gallu ein ffermwyr i werthu ar yr un telerau ag y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd i’w marchnad fwyaf o bell ffordd.
Cyn 1979, roedd tair elfen i bolisi rhanbarthol y DU—grantiau drwy'r premiymau cyflogaeth ranbarthol, ond hefyd cymhellion ariannol drwy'r dreth cyflogaeth dethol, a benthyciadau rhad. Yn ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU, yn y fforwm gweinidogol newydd a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, a wnaiff ef ofyn y bydd yr holl ysgogwyr hynny ar gael i ni sicrhau y gall Cymru ddatblygu ei mantais gystadleuol?
Rwy'n credu ein bod ar dir newydd iawn o ran yr hyn y bydd ei angen yn y dyfodol i ddenu buddsoddiad i Gymru. Er enghraifft, ceir materion fel cymhellion treth, yr wyf yn credu bod angen eu datblygu ymhellach. A ddylai fod gallu, er enghraifft, i edrych ar gymhellion treth ar gyfer ymchwil a datblygu, a’u gweld yn cael eu datganoli? Tollau teithwyr awyr—ysgogwr gwych, nid yn unig i Faes Awyr Caerdydd, ond i’r Fali a meysydd awyr eraill yng Nghymru hefyd. Fe’i gwrthodwyd heb unrhyw reswm da heblaw am y ffaith eu bod yn gweld y bu’n gamgymeriad ei ddatganoli i’r Alban, felly, nid yw'n dod i ni. Ond, rwy'n credu ei bod yn bwysig, wrth i ni edrych ar yr ychydig flynyddoedd nesaf, bod ffordd arloesol o edrych ar y ffordd y defnyddir cymhellion treth ar draws y DU, yn hytrach na chymryd y safbwynt bod un ateb i bawb.
Brif Weinidog, a wnewch chi groesawu'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi strategaeth ddiwydiannol? Gwell hwyr na hwyrach. Mae’n fy nghalonogi mai un o'r sectorau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu blaenoriaethu yw roboteg ac awtomeiddio. Mae Banc Lloegr wedi amcangyfrif bod 15 miliwn o swyddi ledled y DU mewn perygl o awtomeiddio; 700,000 o swyddi yng Nghymru. Ac a wnewch chi weithio gyda chyflogwyr yng Nghymru i sicrhau eu bod yn paratoi eu gweithlu ar gyfer y dyfodol i ymateb i’r her enfawr hon i ni?
Wel, rwy’n credu bod dau fater o ran y strategaeth ddiwydiannol. Hynny yw, does fawr ddim ynddi y gellid anghytuno ag ef, ond, wrth gwrs, mae'n dipyn o gawdel, gan fod rhai o’r colofnau wedi eu datganoli—nid cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyn nhw. Mae rhai ohonyn nhw, mae rhai ohonyn nhw’n gymysg, felly mae angen mwy o eglurder yn hynny o beth.
Ydw, rwy'n credu y bydd yn demtasiwn awtomeiddio ymhellach, a dyna pam mae angen i ni ganolbwyntio yn arbennig o gryf ar godi cynhyrchiant gweithwyr ledled y DU, er mwyn sicrhau nad yw cyflogwyr yn cael eu temtio i gyfnewid pobl am beiriannau oherwydd mater o gynhyrchiant. Ac mae hynny'n rhywbeth, yn sicr, y byddwn ni’n dymuno canolbwyntio’n gryf dros ben arno—codi lefelau cynhyrchiant, er enghraifft, i lefel yr Almaen o leiaf, i wneud yn siŵr nad yw ein gweithwyr ym Mhrydain o dan anfantais oherwydd y lefelau cynhyrchiant hynny.