Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 24 Ionawr 2017.
Rwyf innau hefyd yn croesawu'r ddadl hon, ac rwy’n croesawu hefyd gynnwys araith Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y gallai’r cynnig fod wedi cynnwys ychydig mwy o fanylion, ac rwy'n credu bod gan gynnig y Ceidwadwyr yfory, i fod yn deg, fwy o fanylion a mwy o syniadau, felly byddwn yn cefnogi’r ddau—gadewch i ni gael consensws i ddatblygu hyn .
Rwyf eisiau dechrau yn lle y gorffennodd David Melding, mewn gwirionedd, ar lygredd aer, a chredaf ei fod yn ei ddisgrifio yn gywir, fel y byddwn innau, fel argyfwng iechyd cyhoeddus erbyn hyn yng nghyd-destun Cymru. Cawsom ddiwrnod arall heddiw pan ddywedodd Maer Llundain ei fod yn cynghori pobl i beidio â gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Pan eich bod yn meddwl am y peth, y math hwnnw o argyfwng ynghylch yr amgylchedd a greodd y Ddeddf Aer Glân yn ôl yn y 1950au, a wnaeth lanhau Llundain. Ni wnaeth lanhau'r gymuned yr oeddwn i’n byw ynddi, oherwydd roedd gennym ni’r gweithfeydd golosg, a oedd yn creu y tanwydd di-fwg. Felly, mae materion i'w ystyried yn y fan hon, ac mae'n aml yn ardal gyfoethocach yn erbyn ardal dlotach o ran cyflawni ansawdd aer. Felly, mae cyfiawnder cymdeithasol yn rhywbeth y mae angen inni gofio amdano yn hyn o beth hefyd.
Nawr, yn ei sylwadau agoriadol, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet fanteision y dull gwirfoddol, neu yn hytrach cael pobl i weithio gyda'i gilydd ac, wrth gwrs, siaradodd am y gost o reoleiddio. Ond mae’n hanfodol hefyd, rwy’n meddwl, pan fo gennym reoliadau, bod yn rhaid i ni fynnu a sicrhau bod y rheoliadau hynny yn cael eu rhoi ar waith. Ac felly nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog heddiw, am orsaf bŵer Aberddawan.
Canfuwyd bod yr orsaf bŵer honno yn gollwng mwy, mewn ffigyrau uchel—dwywaith yn fwy, rwy’n credu—na’r lefelau allyriadau a ganiateir ar gyfer nitrogen deuocsid yn ôl ym mis Medi. A chafodd Llywodraeth y DU ei chyfarwyddo gan Lys Cyfiawnder Ewrop i gymryd camau gweithredu. Nawr, nid Llywodraeth y DU yw’r rheoleiddiwr yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw. Ac felly dywedodd y Prif Weinidog wrthym yn gynharach heddiw eu bod wedi ysgrifennu at y cwmni, yn mynnu rhyw fath o gamau gweithredu, a bod yn rhaid iddynt ymateb i'r llythyr erbyn 17 Chwefror. Ac roeddwn i’n meddwl, ‘Wel, roedd y penderfyniad ym mis Medi. Mae ganddyn nhw lythyr y mae'n rhaid iddyn nhw ymateb iddo erbyn 17 Chwefror. A oes unrhyw gysylltiad yn y fan hon â’r ffaith fy mod i wedi ei godi ar 17 Ionawr, a’u bod nhw wedi cael mis i ymateb iddo, tybed?’ Tybed beth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ei wneud yn y fan yma. Yn sicr nid yw wedi cymryd unrhyw gamau ynghylch y drwydded. Mae hynny'n sicr yn golygu ein bod yn dal â gormod o allyriadau o'r orsaf bŵer, fel y cadarnhaodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, ac mae hynny’n cyfrannu, fel y dywedodd David Melding, at y dystiolaeth bwerus iawn honno o waith manwl gywir gyda thystiolaeth dda a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod mater gronynnol yn achosi 1,300 o farwolaethau cynnar y gellid eu hosgoi yng Nghymru, a bod nitrogen deuocsid ei hun yn gyfrifol am 1,100 o farwolaethau y gellir eu hosgoi yn flynyddol. Ac os ydym ni’n edrych, felly, ar swyddogaeth rheoleiddio wrth fynd i’r afael â gollyngiadau a nwyon tŷ gwydr a newid yn yr hinsawdd, yna yn amlwg mae angen inni weld mwy o weithredu gan y Llywodraeth ac, os oes angen, cyfarwyddo sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd y camau cywir hynny i ddiogelu ein hamgylchedd ac i ddiogelu iechyd yng Nghymru. Nid yw’n ymwneud â’r hyn yr ydym yn ei weld trwy'r ffenestr yn unig, mae'n ymwneud â’r hyn yr ydym yn ei anadlu a'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Felly, mae hon yn broblem wirioneddol i weithredu arni gan y Llywodraeth hon ar Aberddawan a'r cwestiwn ehangach o lygredd aer, y gwnaeth David Melding ymdrin ag ef.
Hoffwn hefyd weld, gan wneud cysylltiad â’r amgylchedd yn fwy lleol, mwy o waith ar swyddogaeth coed a phlannu coed mewn amgylcheddau trefol i ymdrin â hyn. Mae digon o dystiolaeth, eto a glywyd gan y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ynghylch sut y gall coed—os ydyn nhw'n cael eu plannu’n gywir, oherwydd, mewn gwirionedd, gall plannu’r math anghywir o goed yn y modd anghywir ddal gronynnau mewn amgylchedd trefol, ond os ydynt yn cael eu plannu’n gywir, maent mewn gwirionedd yn sgwrio gronynnau a nwyon yn naturiol allan o'r amgylchedd lleol. Ac, wrth gwrs, maent yn edrych yn dda hefyd. Maen nhw’n creu’r ymdeimlad o lesiant, maen nhw’n ei gwneud yn haws, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, i bobl fynd allan am dro a theimlo eu bod yn rhan o amgylchedd y maent eisiau bod yn rhan ohono, ac yna, yn ei dro, yn ei barchu. Felly, mae pawb ar eu hennill ym mhob ffordd pan fyddwch yn plannu coed: rydych chi’n glanhau’r awyr, ond rydych hefyd yn gwneud yr amgylchedd yn well i’r rhai sy’n ei ddefnyddio.
Ac mae'n bwysig pwysleisio bod cysylltiad gwirioneddol rhwng amddifadedd, sbwriel, troseddu a beth mae pobl yn ei feddwl am eu hamgylchedd trefol. Canfu adroddiad DEFRA yn 2014 bod 28 y cant o safleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn is na'r safon dderbyniol ar gyfer sbwriel, ac mae hynny naw gwaith yn waeth na'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ac mae'n gylch dieflig. Rydym ni i gyd yn gwybod, pan fyddwch chi’n dechrau gweld yr holl gwpanau a’r holl fwyd brys yn cronni ar y darn gwyrdd lleol y tu allan i'r tai, yna mae pobl yn fwy amharod i drin hwnnw â pharch ac mae'n denu sbwriel. Mae'n fath o rym magnetig i ddenu sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei dro.
Rwy’n croesawu’n fawr yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am archwilio'r angen am reoleiddio ychwanegol o ran plastig, gwydr a chynlluniau arian ar gadw ar gyfer caniau yng Nghymru. Rwy’n credu bod gwir angen i ni fynd ar y trywydd hwnnw. Bydd unrhyw un sydd wedi glanhau traeth neu amgylchedd lleol yn gwybod bod yr eitemau hyn yn ymddangos dro ar ôl tro. Ac yn yr Almaen, lle maent wedi cyflwyno system arian ar gadw gorfodol un ffordd, mae 98.5 y cant o boteli y gellid eu hail-lenwi yn cael eu dychwelyd gan ddefnyddwyr. Ni arweiniodd y ffordd ar fagiau plastig, a gallwn arwain y ffordd ar boteli plastig hefyd.