Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 1 Chwefror 2017.
Roeddwn yn gobeithio gwneud cyfraniad mwy cynhwysfawr i’r ddadl hon heddiw, ond mae peswch ofnadwy’n golygu fy mod yn mynd i orfod ei gwtogi, fel nad wyf yn rhannu fy mheswch epig, cras â’r Siambr.
Rwyf am ddechrau drwy groesawu’r buddsoddiad ychwanegol o £10 miliwn i ofal cymdeithasol, i gydnabod y galwadau ychwanegol ar ofal cymdeithasol, ond rydym i gyd yn gwybod bod angen i ni ystyried sut yr adeiladwn ar hyn, wrth symud ymlaen. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Dai, mae pobl yn byw yn hwy. Dylem yn wir fod yn falch o hynny a dathlu hynny, ond ni allwn anwybyddu’r canlyniad—y pwysau cynyddol ar ein gwasanaethau—a bydd angen i ni wneud mwy i weithio gyda’n gilydd i ddarparu gwasanaethau a chymorth arloesol o fewn cyd-destun ariannol tynn.
Rwy’n falch fod fy nghyngor fy hun yn Sir y Fflint yn cadw tri chartref gofal yn fewnol, a chefais y pleser o ymweld â Chartref Gofal Croes Atti yn fy etholaeth ychydig wythnosau yn ôl, a chael cyfle i sgwrsio gyda’r trigolion hyfryd a defnyddwyr dydd, yn ogystal â’r staff gweithgar, gwych. Un o’r trigolion y cyfarfûm â hi oedd Jessie Joy, a oedd yn 100 mlwydd oed, a phan ofynnais iddi beth oedd y gyfrinach i gael bywyd hir ac a oedd unrhyw wybodaeth y gallai ei rhannu â mi, y cyngor a roddodd i mi oedd, ‘Peidiwch â dangos yn y ffenestr y cyfan sydd gennych yn y siop.’ [Chwerthin.]
Ond i fod o ddifrif, rydym yn ymwybodol iawn fod pwysau’r costau ar gartrefi gofal a darparwyr gofal cartref yn gwaethygu fwyfwy. Wrth symud ymlaen, rwy’n meddwl bod angen i’r holl bartneriaid—awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd—ddatblygu modelau newydd o ddarpariaeth a arweinir gan y sector cyhoeddus, ond hefyd mae angen i ni ddefnyddio cymorth busnes, argaeledd cyfalaf a chynlluniau’r gweithlu i weithio gyda’r busnesau bach a chanolig eu maint sy’n darparu gofal. Mae fy awdurdod fy hun yn Sir y Fflint wedi arwain ar hyn drwy ariannu rheolwr prosiect i weithio gyda darparwyr gofal cartref a chartrefi gofal i wneud eu busnesau’n fwy cynaliadwy yn y tymor canolig, ond dylai hyn hefyd fod yn fater allweddol i fyrddau iechyd i fynd i’r afael â’r modd y gallant gefnogi darparwyr gofal.
Er bod llawer mwy o gymorth i ofalwyr di-dâl drwy fod yr awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd yn fy mhrofiad i, mae angen hefyd inni adeiladu ar y gwaith hwn i ddatblygu atebion arloesol a chynaliadwy i gau’r bwlch sy’n dal i fod weithiau rhwng ysbytai aciwt, ysbytai cymuned a mathau eraill o ofal seibiant a gofal cartref. Drwy’r gofal a roddir i fy nain, sydd bellach yn tynnu at ei 90 oed—mae’n siŵr na fydd yn diolch i mi am ddweud wrth y Cynulliad faint yw ei hoed—rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon mewn gwirionedd, ar hyn o bryd ac yn y 18 mis cynt, y rôl y mae ysbytai cymuned yn ei chwarae wrth ddarparu gofal cam-i-fyny a cham-i-lawr. Mae’n ymwneud â mwy na lleddfu pwysau ar ysbytai aciwt; mae’n golygu hefyd fod y cleifion sy’n aml yn oedrannus yn cael y gofal sydd ei angen arnynt yn agosach i’w cartref ac mewn amgylchedd sy’n peri llai o straen.
Ac ar destun ysbytai cymuned, mae’n rhaid i mi dalu teyrnged i ddycnwch ac ymroddiad grŵp ymgyrchu ysbyty Fflint, grŵp yr ymrwymais i weithio gyda’u cynrychiolwyr, cyn yr etholiad ac ers i mi gael fy ethol yn Aelod Cynulliad dros Delyn, i ddod o hyd i ateb sy’n gwasanaethu’r gymuned heddiw yn y ffordd orau, ateb sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn i gyfrannu mewn dadl mor bwysig heddiw, ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies, fe fydd yna gyfleoedd pellach. Rwy’n credu’n gryf ei fod yn sicr yn un o faterion pwysicaf a mwyaf allweddol ein dyddiau ni. Diolch.