Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 1 Chwefror 2017.
Hoffwn adleisio’r sylwadau a wnaed gan Aelodau eraill ar y diolch sy’n ddyledus i ofalwyr di-dâl. Mae’n hanfodol ein bod yn eu gwerthfawrogi ac yn eu parchu, ac rwy’n meddwl bod Llyr wedi nodi pwynt pwysig iawn am ofalwyr ifanc yn arbennig.
Heddiw, rwyf am sôn am effaith y gronfa gofal canolraddol. Mae’n enghraifft dda iawn o ble y mae integreiddio gwell rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn bodoli’n ymarferol, gan atal derbyniadau diangen i’r ysbyty ac oedi wrth ryddhau o’r ysbyty. Ceir un enghraifft o’r llwyddiant hwn yn fy etholaeth i. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £0.5 miliwn mewn cronfeydd cyfalaf a £390,000 mewn cronfeydd refeniw i ddatblygu’r uned gofal canolraddol yng nghartref preswyl Parklands ym Malpas. Mae’r gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, bwrdd iechyd Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd wedi darparu man lle y gall cleifion sy’n ddigon iach i adael yr ysbyty, ond nad ydynt yn gallu dychwelyd adref eto, gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ar yr adeg honno.
Rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr 2016, derbyniwyd 55 o bobl i Parklands, gydag arhosiad cyfartalog o bedair wythnos. O’r rhai a dderbyniwyd, chwech o bobl yn unig a ddychwelodd i’r ysbyty, gyda 47 yn gallu dychwelyd i’w cartrefi eu hunain. Mae profiadau dau o fy etholwyr yn dangos y gwahaniaeth y mae’r cyfleuster hwn wedi ei wneud i’r unigolion hyn a’u teuluoedd. Cafodd un etholwr ei dderbyn yn dilyn strôc. Roedd ei symudedd a’i leferydd wedi’u cyfyngu ac roedd wedi colli llawer o bwysau. Cafodd gymorth gan y tîm adsefydlu niwrolegol cymunedol yn Parklands, a oedd yn cynnwys therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd, dietegydd a therapydd lleferydd ac iaith. Yn ystod ei arhosiad o tua chwe wythnos, magodd bwysau a gwellodd ei symudedd a’i leferydd, a olygai ei fod yn gallu dychwelyd adref i fyw gyda’i wraig.
Cafodd cyn-breswylydd arall o Parklands ei atgyfeirio yn dilyn sawl arhosiad yn yr ysbyty, oherwydd dirywiad cyffredinol yn ei hiechyd, ac nid oedd yn gallu ymdopi gartref. Teimlai fod angen iddi gael gofal preswyl ond cafodd gyfle i aros yn Parklands gyntaf. Arhosodd yn Parklands am oddeutu 10 wythnos, ond yn gynnar yn ei harhosiad, roedd wedi magu digon o hyder i ddychwelyd adref. Gyda chymorth staff, adferodd ei symudedd, ac yn dilyn cyfarfod gyda’i theulu, sylweddolodd y gallai fyw’n annibynnol. Gosodwyd lifft risiau i’w galluogi i gael mynediad at bob rhan o’i heiddo a dychwelodd adref gyda phecyn gofal. Nid yw wedi cael ei haildderbyn i’r ysbyty ers hynny.
Mae yna lawer mwy o enghreifftiau y gallwn gyfeirio atynt, a phob un ohonynt yn dangos bod Parklands wedi gallu personoli anghenion gofal yr unigolyn. Mae’r math hwn o ofal cam-i-fyny, cam-i-lawr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a’u teuluoedd, fel y gwelais i a’r Gweinidog drosom ein hunain. Mae’r gronfa gofal canolraddol yn gallu gwella ansawdd bywyd i lawer sydd angen gofal cymdeithasol a lleddfu’r pwysau ar welyau ysbyty. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae mwy o ddarpariaethau llety fel Parklands yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn aros yn eu cartrefi cyhyd ag y bo modd.