7. 6. Dadl Plaid Cymru: Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:13, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae 11 mlynedd bellach ers i mi lansio CHANT Cymru ar gais ymgyrchwyr ledled Cymru a oedd yn ymladd dros gadw gwelyau lleol mewn ysbytai cymuned. Roedd ymgyrchwyr yn erbyn cau Ysbyty Cymuned Chatsworth House ym Mhrestatyn wedi gofyn i mi ffurfio CHANT Cymru—Ysbytai Cymuned yn Gweithredu’n Genedlaethol Gyda’i Gilydd—i ddod â grwpiau lleol at ei gilydd o bob rhan o Gymru a oedd yn ymgyrchu i achub eu hysbytai cymuned lleol a oedd dan fygythiad gan raglen gau Llywodraeth Lafur Cymru ar y pryd.

Roedd gwrthwynebiad eang i gau eisoes wedi cynhyrchu protestiadau cyhoeddus poblogaidd ar draws Cymru gyfan, a CHANT Cymru oedd llais cenedlaethol yr ymgyrchwyr yn y frwydr i achub eu hysbytai cymuned. Roeddem yn hyrwyddo ar lefel genedlaethol rôl ysbytai cymuned yn darparu gofal iechyd o safon, yn cefnogi ymgyrchoedd lleol ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif dros ei haddewid i ddiwallu anghenion iechyd ei chleifion a darparu gofal iechyd lleol hygyrch. Arweiniais ddadl ar hyn yma, cynhaliwyd rali ar risiau’r Senedd a fynychwyd gan fyseidiau o bobl o bob cwr o Gymru, ac fe lwyddasom i sicrhau bod hwn yn un o’r pynciau allweddol yn etholiad y Cynulliad yn 2007.

Cyhoeddodd Llywodraeth glymblaid newydd Cymru ei bod yn gwneud dro pedol. Ym mis Mawrth 2010, dywedodd y Gweinidog Iechyd Llafur,

‘Ni wn am ddim bygythiadau i ysbytai cymunedol ar draws Cymru.’

Fodd bynnag, pan ddychwelodd Llafur i rym un blaid yng Nghaerdydd yn 2011, aethant ati eto i wthio yn eu blaenau gyda’u rhaglen i gau ysbytai cymuned. Ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog Iechyd ar y pryd yn mynegi pryderon ynglŷn â pha mor gadarn oedd y wybodaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu penderfyniadau i gau ysbytai cymuned yn y Fflint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn. Collwyd dwsinau o welyau cymunedol, er gwaethaf lefelau defnydd gwelyau o 95 y cant ac uwch. Dywedodd y meddyg teulu a sefydlodd y cynllun peilot yng ngogledd Cymru, y cynllun gofal cartref gwell, gyda’r bwrdd iechyd y byddai hyn

‘yn llorio gwasanaeth sydd eisoes yn aml dan bwysau ar hyn o bryd,’ ac na fydd

‘rhan ganolog o’r ad-drefnu arfaethedig ym maes gwasanaethau iechyd—darparu mwy o ofal yng nghartrefi pobl—yn llenwi’r bwlch o ganlyniad i gau ysbytai cymuned.’

Anwybyddodd y Llywodraeth Lafur hon refferendwm y Fflint, pan bleidleisiodd 99.3 y cant o blaid dod â gwelyau i gleifion mewnol yn ôl i’r Fflint, ac yna anwybyddodd refferendwm Blaenau Ffestiniog pan bleidleisiodd mwyafrif llethol o blaid dod â gwelyau yn ôl yno.

Pan ymwelais ag Ysbyty Treffynnon, dywedodd staff yno wrthyf y buasai buddsoddiad ychwanegol yn ein hysbytai cymuned lleol, megis Treffynnon, a gwelyau cymunedol y GIG yn y Fflint yn tynnu pwysau oddi ar ein hysbytai cyffredinol, yn helpu i fynd i’r afael ag argyfwng adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn galluogi’r bwrdd iechyd i ddefnyddio’i adnoddau yn fwy effeithlon. Fel y dywedodd pennaeth y GIG yn Lloegr, dylai ysbytai cymuned llai o faint chwarae rhan fwy, yn enwedig wrth ofalu am gleifion hŷn.

Yn nigwyddiad Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghynulliad Cymru fis Mehefin diwethaf ar gryfhau ymarfer cyffredinol er mwyn cefnogi’r GIG, clywsom fod ymarfer cyffredinol yng Nghymru yn darparu 90 y cant o ymgynghoriadau’r GIG, 27.8 y cant o’r gyllideb, a bod tanfuddsoddi hirdymor yn golygu bod cyllid ar gyfer ymarfer cyffredinol wedi bod yn gostwng o’i gymharu â’r GIG yng Nghymru yn gyffredinol.

Ac eto rydym yn wynebu heriau sylweddol poblogaeth sy’n heneiddio ac yn tyfu. Mae ymgynghoriadau yn mynd yn hwy ac yn fwy cymhleth wrth i ni ddelio â nifer gynyddol o gleifion gyda mwy nag un cyflwr cronig.

Clywsom ganddynt hefyd fod gwelyau cymunedol y GIG yn ychwanegu at yr amrywiaeth o bethau y gall meddygon teulu eu gwneud, gan gynnwys gofal seibiant a cham-i-lawr, i gynorthwyo’r sector sylfaenol a’r sector eilaidd. Os yw o ddifrif yn golygu’r hyn y mae’n ei ddweud am gydgynhyrchu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau gwrando ar y gweithwyr proffesiynol hyn a llunio a darparu gwasanaethau lleol gyda chlinigwyr a chymunedau lleol.

Mae rhaglen Gogledd Cymru Iach yn nodi gofyniad i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag amddifadedd a thlodi ar lefel gymunedol leol drwy gydgynhyrchu. Fel y dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16,

Gall y dull rhagnodi cymdeithasol wella hunan-barch, hwyliau, cyswllt cymdeithasol a sgiliau trosglwyddadwy—a lleihau’r galw am wasanaethau iechyd.

Mae’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu ar gyfer Cymru, Mae Pawb yn Rhan o Hyn, wedi tynnu sylw, er enghraifft, at gynllun rhagnodi cymdeithasol Green Dreams: Creating Health through Community a sefydlwyd gan feddyg teulu yn Lloegr. Fel y dywed prif swyddog meddygol Cymru,

‘Gallai cydgynhyrchu gyda chymunedau fod yn ffordd sy’n galluogi staff y sector cyhoeddus i ymateb i raddiant cymdeithasol o ran angen iechyd.’

‘Cydgynhyrchu yw’r ffordd orau o ddeall sut y gellir trefnu gofal sylfaenol a gofal cymunedol yn fwyaf effeithiol.’

‘Ymddengys bod deall asedau cymunedol a gweithio cydgynhyrchiol yn hollbwysig i bractisau meddygon teulu, canolfannau adnoddau gofal sylfaenol a chlystyrau gofal sylfaenol.’

Ac os caf ychwanegu, yn hollbwysig ar gyfer ysbytai cymuned a gwelyau cymunedol hefyd?