1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ran mynediad i bobl anabl mewn gorsafoedd trenau ledled Cymru? OAQ(5)0437(FM)
Mae mynediad i bawb yn rhan annatod o’n gwaith ym maes trafnidiaeth gyhoeddus. Rŷm ni’n monitro pa mor fodlon yw teithwyr â gwahanol orsafoedd drwy ddefnyddio gwaith ymchwil gan Transport Focus ac, wrth gwrs, ar ôl hynny, i weld pa fath o rwystrau a ddylai gael eu symud er mwyn sicrhau nad oes yna ddim rhwystrau mewn gorsafoedd i bobl sydd eisiau eu defnyddio nhw.
Diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog. Ymhellach i hynny, dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi derbyn nifer o gwynion ynglŷn â gallu pobl anabl i ddefnyddio sawl gorsaf drenau, yn cynnwys Cwmbrân, y Fenni, a Phont-y-pŵl. Nawr, wrth gydnabod bod, yn naturiol, gorsafoedd trenau heb eu datganoli ar y foment, beth ydych chi’n ei wneud, felly, fel Llywodraeth i sicrhau bod gorsafoedd ar draws Cymru yn cyrraedd y safonau priodol?
Yn hollol gytûn â hynny. Mae yna 245 o orsafoedd o dan y ‘franchise’ yng Nghymru a Lloegr. Dim ond chwarter o’r rheini sy’n cael eu staffio ar hyn o bryd. Rŷm ni yn erfyn gwelliannau sylweddol i gael eu gwneud ynglŷn â mynediad i orsafoedd yn ystod tymor y ‘franchise’ nesaf.
Brif Weinidog, roedd gan Bort Talbot orsaf â mynediad ofnadwy i bobl anabl ac, ar ôl blynyddoedd lawer iawn o ymgyrchu, yn enwedig gan fy rhagflaenydd, Brian Gibbons, dyrannwyd y grant gwella gorsafoedd i sicrhau bod gorsaf Port Talbot yn cael ei huwchraddio, ac rwy'n siŵr eich bod chi’n croesawu'r newidiadau yr ydym ni’n eu gweld ym Mhort Talbot yn awr o ran mynediad i'r anabl a chyfleusterau i bobl anabl yn yr orsaf. Fodd bynnag, tynnwyd y sglein braidd oddi ar hyn, efallai oherwydd y cyflwr a’r lloriau a’r baw yr ydym ni’n ei weld yn awr o ganlyniad i ddiffyg penderfyniad o bosibl rhwng Network Rail a Threnau Arriva ynghylch pwy sy'n rhedeg yr orsaf. A wnewch chi ddysgu gwersi o'r datblygiad hwn er mwyn sicrhau bod mynediad i bobl anabl ar gael, a’i fod yn mynd i barhau i fod yn fynediad da, yn fynediad glân, i bawb? A wnewch chi hefyd ystyried y cyfleoedd a gafwyd mewn canolfannau trafnidiaeth yn ymwneud â gorsafoedd rheilffordd, fel na fydd mynediad i bobl anabl yn yr orsaf ei hun yn unig, ond hefyd o ran cyrraedd yr orsaf ac, o’r fan honno, mynd i mewn i'r orsaf?
Wel, mae canolfannau trafnidiaeth yn hynod bwysig o ran cyflenwi trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod mor hygyrch ag y—wel, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hygyrch, a dyna ni. Rydym ni’n ymwybodol o broblemau yn ymwneud â glendid yn yr orsaf. Mae trefniadau'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gyfer presenoldeb diogelwch a threfn lanhau newydd tan ddiwedd y fasnachfraint ym mis Hydref y flwyddyn nesaf, ac ar ôl y dyddiad hwnnw bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu gan y cwmni trenau.
Brif Weinidog, soniodd Dai Lloyd yn ei gwestiwn agoriadol am y problemau i bobl ag anableddau yng ngorsaf y Fenni. Os caf ganolbwyntio ar y rheini, efallai y byddwch yn ymwybodol o waith un o’m hetholwyr, yr ymgyrchydd dros hawliau mynediad i bobl anabl, Dan Biddle, sydd wedi gweithio'n ddiflino yn fy ardal i a ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf i geisio gwella mynediad i bobl anabl. Er eich bod yn iawn i ddweud, ac roedd Dai Lloyd yn iawn i nodi, bod agwedd fawr ar hyn nad yw wedi ei datganoli, wrth gwrs mae rheolaeth gorsaf y Fenni yn rhan o gylch gwaith Trenau Arriva a’r fasnachfraint honno. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, wrth i’r dyddiad masnachfraint newydd hwnnw, 2018 rwy’n credu yw hwnnw, brysur agosáu, fod materion anabledd wir yn ganolog i hyn oll fel y gellir, hyd yn oed os na ellir eu datrys yn llawn pan fydd y fasnachfraint newydd yn dechrau, rhoi pwyslais newydd ar hynny fel bod pobl anabl yn fy ardal i yn y Fenni a ledled Cymru yn cael y mynediad y maen nhw’n ei haeddu i orsafoedd?
Wel gan y byddwn ni bellach yn rheoli’r fasnachfraint yn llawn, mae'r cyfle yno i wneud yn siŵr bod ein gorsafoedd wedyn yn hygyrch. Mae'n hynod bwysig bod y materion hynny yn cael sylw, yn sicr, yn rhan o drefniadau’r fasnachfraint nesaf, i wneud yn siŵr y gall pawb ddefnyddio trenau yn y dyfodol.
Cawsom ymweliad â'r Cynulliad yr wythnos diwethaf gan Whizz-Kidz, grŵp o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, a oedd â chwynion ailadroddus nad oedd aelodau staff trafnidiaeth wedi cael eu hyfforddi i ymdrin â phobl anabl. Yn anffodus roedd hyn yn wir am aelodau staff rheilffyrdd, gyrwyr bysiau, a gyrwyr tacsis. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod aelodau staff trafnidiaeth yn cael eu hyfforddi'n briodol yn hyn o beth?
Wel, mater i'r gweithredwyr, wrth gwrs, yw sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â'r gyfraith. Rwyf wedi gweld aelodau staff, yn sicr yn fy ngorsaf fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cynorthwyo pobl sydd angen cymorth yn fedrus iawn, ac yn sicr nid wyf wedi clywed dim byd ond canmoliaeth i aelodau’r staff yno. O ran gwasanaethau bysiau, mae'n anghyson. Rwy’n cofio rai blynyddoedd yn ôl y cyngor ym Mhen-y-bont yn gosod cyrbiau uwch ym mhob safle bws dim ond i’r cwmni bysiau gyflwyno bysiau nad oedden nhw’n gostwng. Roedden nhw, i bob pwrpas, yn goetsys a oedd yn cynnwys sedd y gellid ei gostwng i’r ddaear—yn aml iawn nid oedd y sedd honno’n gweithio. Mae honno'n enghraifft dda o gwmni trafnidiaeth ddim yn ystyried anghenion ei gwsmeriaid. Ond, yn sicr, mae'n hynod bwysig bod cwmnïau trafnidiaeth yn cydymffurfio â'r gyfraith bresennol, er mwyn gwneud yn siŵr bod mynediad ar gael i bawb.