– Senedd Cymru am 5:15 pm ar 14 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Mesur Addysg Uwch ac Ymchwil, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Kirsty Williams.
Cynnig NDM6233 Kirsty Williams
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil sy'n ymwneud â graddio addysg uwch, cymorth ariannol i fyfyrwyr, y cynllun annibynnol ar gyfer ymdrin â chwynion myfyrwyr a chymorth ar gyfer ymchwil, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diolch i chi eto, Lywydd, am y cyfle i siarad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am graffu ar y memorandwm dechreuol ac atodol. Hefyd, hoffwn ddatgan fy ngwerthfawrogiad o’r ymgysylltiad gan Brifysgolion Cymru, UCM Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ynglŷn â'r pwnc hwn.
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil i Dŷ'r Cyffredin ar 19 Mai 2016. Cafodd y Bil ei drosglwyddo wedyn i Dŷ'r Arglwyddi lle y pasiodd ei Ail Ddarlleniad ar 6 Rhagfyr, cyn mynd ymlaen i’r Cyfnod Pwyllgor, lle y bu yn destun cryn ddadlau. Mae addysg uwch yn bwnc sydd wedi ei ddatganoli. Er hynny, mae’n anochel fod goblygiadau i Gymru yn sgil y newid deddfwriaethol a gynigir gan Lywodraeth y DU yn y maes hwn. Wrth geisio darpariaeth yn y Bil hwn, fy mlaenoriaeth i yw sicrhau nad yw myfyrwyr a sefydliadau yng Nghymru dan anfantais. Rwyf o'r farn y dylid gwneud darpariaeth gyfyngedig ar gyfer Cymru ynglŷn â'r materion a nodir yn y ddau femorandwm y mae angen cael cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer.
Rwy'n falch o allu nodi na chododd y pwyllgor craffu unrhyw wrthwynebiad i gytundeb ar y cynnig ac nid oes ganddo unrhyw bryderon am yr agwedd a gymerir. Adroddodd y pwyllgor fod nifer o bryderon wedi eu codi mewn ymatebion i'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, daeth y pwyllgor i'r casgliad nad oedd yr ymgynghoriad yn codi unrhyw fater sy'n effeithio ar ba un a ddylai’r polisïau a geir yn y darpariaethau perthnasol gael eu hymestyn i Gymru.
Hoffwn ymateb i ddau beth sy’n achos pryder, sef y fframwaith rhagoriaeth addysgu, neu’r TEF, fel y’i gelwir erbyn hyn, a'r rhyngweithio gyda ffioedd dysgu yng Nghymru. Rwyf nid yn unig yn eu cydnabod ond rwyf hefyd yn rhannu rhai o'r pryderon o ran cynigion y TEF. Nid dyma’r meini prawf y byddai’r Llywodraeth Cymru hon yn eu cyflwyno gan nad ydym, a siarad yn blaen, yn rhannu'r un agenda marchnadeiddio a’r hyn sydd ganddyn nhw dros y ffin. Er hynny, mae’n rhaid i ni ymdrin â’r gwirioneddau yr ydym yn eu hwynebu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lwyddiant ein sefydliadau addysg uwch yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac felly nid ydym yn dymuno i sefydliadau Cymru fod o dan anfantais o’u cymharu â'r rhai yng ngweddill y DU. Mae'r ddarpariaeth a geisir yn y Bil yn hwyluso, a bydd yn rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru ddarparu neu ddirymu eu cydsyniad i sefydliadau yng Nghymru i fod yn rhan o’r TEF yn y dyfodol. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: ni fydd ffioedd dysgu yng Nghymru yn cael eu cysylltu â graddfeydd y TEF, ac yr wyf wedi ei gwneud hi’n glir i Lywodraeth y DU nad wyf eisiau gweld y gallu i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol gael ei gysylltu â’r TEF ychwaith.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu lefelau ffioedd dysgu yn ôl ei meini prawf ei hun, gan ystyried sefydlogrwydd ariannol, sut yr ydym yn cynnal ein hysbryd cystadleuol rhyngwladol, a'r effaith ar fyfyrwyr. Credaf y bydd y cynigion yn caniatáu i ni gadw ein hagwedd arbennig at addysg uwch gan sicrhau nad yw sefydliadau yng Nghymru, y myfyrwyr sy'n astudio ynddyn nhw a gallu Gweinidogion Cymru i ymdrin â goblygiadau diwygiadau Llywodraeth y DU yn cael eu heffeithio'n anffafriol. Ac felly, Lywydd, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei sylwadau agoriadol, llawer ohonyn nhw y byddwn i’n cytuno yn llwyr â nhw, yn enwedig o safbwynt y TEF? Rydw i’n croesawu’r neges glir ynglŷn â’r cyfeiriad yr ydych chi’n bwriadu symud iddo ar y mater yma. Yn wir, mae yna lawer yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma na fyddwn i, yn sicr, yn ei wrthwynebu. Ond mae yna gwestiwn cynyddol yn codi yn fy meddwl i ynglŷn â’r effaith posibl i ymchwil yng Nghymru yn sgil y Bil arfaethedig yn San Steffan. Rŷm ni’n gwybod pa mor bwysig yw ffynonellau ariannu’r cynghorau ymchwil i sefydliadau addysg yng Nghymru. Rŷm ni’n gwybod am BBSRC, sy’n ariannu yn sylweddol ein IBERS, rŷm ni’n gwybod am NERC, wrth gwrs, yn ariannu ym Mangor, ac mae yna enghreifftiau eraill ar draws Cymru. Rwyf i, yn y cyfnod diwethaf yma, wedi dod yn fwyfwy ymwybodol bod unrhyw ddatblygiadau a allai beryglu'r ffynonellau ariannu hynny yn rhai y dylem ni fel Cynulliad warchod yn eu herbyn nhw.
Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn wrth edrych ar y Bil arfaethedig: ble fydd llais Cymru yn y corff arfaethedig, UKRI? Nid oes sicrwydd o gwbl y bydd gan Gymru lais ystyrlon o fewn y corff hwnnw. Yn wir, os edrychwn ni ar un o’r gwelliannau a gafodd eu pasio i’r Bil yn San Steffan, mae’n sôn y dylai Gweinidogion San Steffan ystyried a fyddai’n ddymunol i un o’r gwledydd datganoledig gael eu cynrychioli. Hynny yw, ‘have regard to the desirability of’, yw’r term. Wel, does bosib y dylem ni fod yn mynnu ei bod hi’n rheidrwydd bod gan bob un o’r gwledydd datganoledig lais ar UKRI? Yn wir, mae’r Bil yn dweud bod yn rhaid cael cynrychiolydd myfyrwyr mewn rhai o’r cyd-destunau yma, felly pam ddim rhoi'r un statws i lais Cymru yn y broses yma?
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, fel nifer o bobl i fod yn deg, yn gyson dros y blynyddoedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymru yn cael ei thanariannu o safbwynt ymchwil. Mae perygl, rwy’n meddwl, nawr y gallai’r sefyllfa annerbyniol fel y mae hi fynd hyn yn oed yn waeth.
Mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddarparu cefnogaeth i ymchwil, gan gynnwys grantiau ac yn y blaen. Ac rwyf jest yn gofyn i fy hunan: beth yw’r bwriad fan hyn? Achos ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu, trwy HEFCW, llawer o’r ymchwil yma, neu o leiaf mae’n rhan o’r mecanwaith cefnogaeth ddeuol, y ‘dual Support mechanism’, yr ariannu craidd yma sy’n rhoi isadeiledd i brifysgolion allu wedyn cystadlu am lawer o ariannu gan y cynghorau ymchwil ac eraill.
Mae’r mecanwaith hwnnw yn un sy’n rhoi llawer o hyblygrwydd i’r sector addysg uwch pan mae’n dod i ymchwil. Yn wir, roedd Syr Ian Diamond yn amlygu llawer o hyn yn y gwaith a wnaeth e yn ddiweddar. Ond mae yna risg, rwy’n meddwl, nawr y gallem ni weld sefyllfa lle mae Gweinidogion San Steffan yn dweud, ‘Os nad ydych chi’n hapus, fe all Gweinidogion Cymru ariannu ymchwil yn uniongyrchol eu hunain.’ Mae hynny’n risg, rwy’n meddwl, na ddylem ni adael ein hunain yn agored iddo fe. Felly, rwy’n teimlo y dylai fod elfen o ‘ring-fence-o’ ariannu. Rwy’n siŵr y byddai nifer yn cytuno â hynny, o safbwynt ymchwil i Gymru. Ond, yn sicr, rwy’n meddwl y dylai fod Cymru â llais cryfach na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y Bil arfaethedig. Fe gyfeirioch chi at dystiolaeth gan gyrff eraill fel rhan o’r broses yma. Mae Prifysgolion Cymru yn un corff sydd wedi amlygu consýrn gwirioneddol ynglŷn â hyn. Mae HEFCW hefyd wedi mynegi consýrn ynglŷn â lle gallai hyn fod yn mynd â ni.
Felly, mae yna lawer, fel roeddwn yn dweud, na fyddem yn gwrthwynebu, ond yn anffodus nid ydym yn gallu diwygio na chynnig gwelliannau i gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mi fyddwn ni, fel plaid, yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma’r prynhawn yma.
Rwy’n syml iawn yn codi i gefnogi ac ategu’r hyn mae Llyr Gruffydd newydd ei ddweud. Rwyf wedi bod yn bryderus yn ystod yr wythnosau diwethaf fwyfwy ynglŷn â gwaith y corff ymchwil ac arloesi'r Deyrnas Gyfunol—UKRI. Rwyf wedi gofyn sawl cwestiwn, ond yn anffodus ddim wedi cyrraedd ar y rhestr i ofyn y cwestiwn ar lafar eto. Ond fe ges i ateb ysgrifenedig i’r cwestiwn roeddwn wedi gobeithio gofyn i’r Prif Weinidog heddiw. Mae’r ateb yn dweud bod y Llywodraeth a Kirsty Williams fel Ysgrifennydd Cabinet wedi cwrdd â’r prif gynghorydd gwyddonol a’r Gweinidog cyfrifol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud cais i Gymru gael ei chynrychioli’n llawn ar fwrdd ymchwil ac arloesi’r Deyrnas Gyfunol. Rwy’n cymryd bod hynny wedi digwydd. Wrth gwrs, mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw yn dweud yn glir—neu mae’r cyd-destun yn dweud yn glir, fel mae Llyr newydd amlinellu—nad yw Cymru yn cael ei chynrychioli’n llawn ar y bwrdd yna. Felly, mae’r Llywodraeth wedi gwneud cais—dyma bolisi’r Llywodraeth—ac wedi methu cyflawni eu cais a’u polisi, maen nhw’n dod i’r Cynulliad i gymeradwyo’r polisi nad ydyn nhw wedi’i gyflawni. Nid yw hynny’n ddigon da yn y cyd-destun sydd ohoni achos mae yna fygythiadau go iawn i Gymru, i gynghorau ymchwil ac i arian ymchwil mewn prifysgolion o sefydlu UKRI.
Dyma beth sy’n digwydd: mae’r holl gynghorau ymchwil yn cael eu casglu ynghyd mewn un corff. Mae arian ymchwil HEFCE, y corff cyllido addysg uwch yn Lloegr, yn cael ei roi yn y pot yna hefyd, ac arian arloesedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol parthed Lloegr. Felly, yn lle bod gyda chi gyrff ymchwil sy’n edrych ar draws y Deyrnas Gyfunol—ac mae yna broblemau gyda’r rheini, beth bynnag, fel roedd Llyr wedi amlinellu—mae gyda chi gorff newydd nawr sydd wedi’i ddominyddu’n fwy gan fuddiannau a diddordebau y sector prifysgolion yn Lloegr ac sydd hefyd o dan ddylanwad mwy y Gweinidogion yn Lloegr hefyd, heb unrhyw gynrychiolaeth uniongyrchol gan Gymru ar y corff hwnnw. Ac mae’r ateb y cefais i gan y Prif Weinidog i fy nghwestiwn heddiw yn mynd ymlaen i ddweud ymhellach mai dim ond yn ddiweddar iawn y dechreuwyd trafodaethau gyda phrifysgolion ynghylch cyswllt â’r corff. Wel, eto, nid yw’n ddigon da. Nid ydym yn deall sut y mae’r corff yma’n mynd i weithio, yr effaith y bydd yn ei gael ar gyllido ymchwil yng Nghymru ac, am y rhesymau hynny’n unig, mi fyddwn ni’n gwrthwynebu’r cydsyniad deddfwriaethol heddiw.
A gaf i roi, i gloi, un enghraifft benodol? Rydw i’n ymwybodol iawn o’r gwaith, wrth gwrs, sy’n digwydd yn IBERS yn Aberystwyth, gan fy mod i’n byw yn Aberystwyth ac yn cynrychioli’r rhanbarth. Ers rhai blynyddoedd bellach mae IBERS wedi bod mewn cydgysylltiad strategol gyda’r BBSRC—Biotechnology and Biological Sciences Research Council—ar gyfer gwariant sydd werth £4.5 miliwn y flwyddyn yn Aberystwyth, yn strategol, i gefnogi gwaith IBERS. Os oes newid o ran blaenoriaethu'r cynghorau ymchwil oherwydd bod cyfyngu ar yr arian sydd ar gael ac oherwydd bod newid o ran blaenoriaethau achos bod Gweinidogion Lloegr nawr yn dechrau ymyrryd mwy yn y broses a phenderfyniadau ar flaenoriaethau, mi fyddwn ni’n colli arian sylweddol iawn i Aberystwyth. Nid wy’n fodlon gweld hynny’n digwydd heb fod yna sicrwydd pendant o neilltuo—‘ring-fencing’, felly—yr arian ymchwil sydd gennym ni eisoes. Nid yw hynny’n rhan o’r cytundeb sydd y tu ôl i’r cydsyniad deddfwriaethol, ac nid oes ychwaith sicrwydd bod cynrychiolaeth o Gymru ar y bwrdd sy’n gwneud y penderfyniad yma. Ac, wrth gwrs, wrth inni ddelio â Brexit, ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, bydd y gwaith sy’n digwydd yn IBERS, sy’n edrych ar borfa ac sy’n edrych ar y math o amaeth sy’n bwysig inni yng Nghymru ond nad yw mor bwysig yng nghyd-destun—mae’n bwysig yn y cyd-destun rhyngwladol, ond nid mor bwysig yn y cyd-destun Prydeinig, efallai, rydw i’n ofni y bydd yn cael llai o flaenoriaeth yn y cyd-destun yna. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael ei rhybuddio am y gofidion sydd gan nifer ohonom ni sy’n cynrychioli Ceredigion ac Aberystwyth am y problemau hyn. Rŷm ni’n moyn sicrwydd bod yr arian ymchwil yn parhau, ac rŷm ni’n moyn sicrwydd bod cynrychiolaeth o Gymru ar y corff newydd; heb y sicrwydd yna, ni fedrwn ni gefnogi’r cydsyniad deddfwriaethol.
Rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i’r ddadl—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf yn gresynu nad yw Plaid Cymru yn teimlo ei bod yn mewn sefyllfa i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw diogelu amddiffyniadau pwysig i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru drwy’r gallu i gynyddu’r pwerau hyn ar gyfer Gweinidogion Cymru o ran dyfodol y TEF yn ogystal â'n gallu i barhau i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn ffordd a fydd yn angenrheidiol ac mae angen i ni symud ymlaen ar hynny oherwydd y newidiadau dros y ffin yn Lloegr, a gwneud rhywfaint o gynnydd hefyd ar gyllid amgen i fyfyrwyr, lle mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod rhai aelodau o'n cymuned sy'n ymatal rhag gwneud cais ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr oherwydd natur y system benthyciadau i fyfyrwyr sydd gennym ar hyn o bryd. Mae gennym grŵp penodol o fyfyrwyr nad ydyn nhw yn manteisio ar y cymorth hwnnw, a chredaf fod hynny'n wahaniaethol—nad ydym yn caniatáu i bob dinesydd yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais am systemau cymorth i fyfyrwyr, allu gwneud hynny, ac mai dyma'r dull mwyaf amserol ac effeithiol o fynd i'r afael â’r hyn yr wyf yn ei hystyried yn system wahaniaethol sydd gennym ar hyn o bryd.
O ran gweithrediad y UKRI, cyfarfu’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a minnau â Jo Johnson, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi yn Lloegr i drafod pensaernïaeth newydd cyllido ymchwil, ac rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd dwyochrog â'm cymheiriaid yn yr Alban a chyfarfod pedairochrog, lle’r oedd pob un o’r pedair gweinyddiaeth yn cael ei chynrychioli, i drafod hyn. Er ein bod yn falch bod gwelliant wedi ei wneud yn ystod Cyfnod Adrodd Tŷ’r Cyffredin sy’n nodi y rhoddir sylw dyledus, nid wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell. Rwyf yn credu y dylid cael cynrychiolaeth lawn o Gymru ar y UKRI. Rwy’n rhannu pryderon yr Aelod am ganlyniadau posibl hyn ar lif cyllid ymchwil ac rydym yn parhau i geisio dadlau’r achos hwnnw. O ran gweithio ar y cyd â CCAUC, gallaf sicrhau'r Aelod bod y Bil yn caniatáu i'r awdurdodau perthnasol gydweithio pe byddai’n ymddangos iddyn nhw ei bod yn fwy effeithiol neu pe byddai yn caniatáu i'r awdurdodau ymarfer eu swyddogaethau yn fwy effeithiol. Felly, yr effaith fydd caniatáu i CCAUC i weithio ar y cyd ag UKRI, cyn belled ag y mae ei swyddogaethau Research England dan sylw, a bydd hefyd yn caniatáu i CCAUC weithio ar y cyd â'r Swyddfa i Fyfyrwyr, Cyngor Cyllido'r Alban a'r adrannau perthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw hyn yn newid terfynau’r trefniadau cyfredol ar gyfer gweithio ar y cyd â Chyngor Cyllido’r Alban. Rwy’n siomedig fod Plaid Cymru wedi penderfynu gwrthod cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond rwyf o’r farn ei fod, ar y cyfan, yn gam pwysig ymlaen, Lywydd.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.