Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 8 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad dangosyddion diweddaraf Coetiroedd i Gymru wedi datgelu mai dim ond 348 erw o goetiroedd newydd a grëwyd yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2016, sy’n llai o lawer na’r 16,000 erw a mwy a blannwyd ar gyfartaledd yn ystod pob un o’r pum mlynedd hyd at 2014. Ymddengys bod y newid sylweddol hwnnw o ran plannu wedi cyd-daro â chreu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae sawl un yn y diwydiant gweithgynhyrchu pren wedi mynegi pryderon ynglŷn â pharhad y cyflenwad, a bydd hynny’n dylanwadu ar rai o’u penderfyniadau busnes ynglŷn â ble i fuddsoddi. Beth sydd gennych i’w ddweud wrth gwmnïau fel Clifford Jones Timber yn Rhuthun, yn fy etholaeth, sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â hyn? Rydych wedi dweud y bydd cynnydd. A ydym yn mynd i gyrraedd yr 16,000 a mwy o erwau yr oeddem yn ei gyflawni yn y gorffennol, fel y gallwn sicrhau’r cyflenwadau digonol hyn, nid yn unig ar gyfer y pump neu chwe blynedd nesaf, ond am 10 ac 20 mlynedd?