Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Mawrth 2017.
Do, rwyf innau hefyd wedi ymweld â Clifford Jones Timber yn Rhuthun, a mynegwyd yr un pryderon wrthyf. Cyfoeth Naturiol Cymru yw darparwyr pren mwyaf Cymru, a chredaf fod hynny’n cyflenwi 60 y cant o holl ofynion y sector. Mae’n rhaid i ni gyflenwi mwy nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Bellach, mae gennym y cynllun marchnata pren, sy’n amlinellu argaeledd pren. Bydd hwnnw’n para am bum mlynedd yn unig, ond credaf ei fod yn fan cychwyn da. Rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda ffermwyr, er enghraifft, gan ein bod yn awyddus i ffermwyr arallgyfeirio, ac mae hwn yn faes y gallant wneud hynny ynddo.