<p>Pren o Gymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:37, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe gofiwch yr ymweliad â’r Pentre Solar yng Nglanrhyd yn Sir Benfro, lle y gweloch chi a minnau sut y defnyddiwyd pren lleol Cymreig, nid yn unig i adeiladu tai, ond hefyd o ran sgiliau a chynyddu sgiliau yn y gweithlu lleol i drin y pren hwnnw. Pa gamau ychwanegol y gallwch eu cymryd, gan y credaf fod cryn botensial i bren yn enwedig ar gyfer adeiladu tai yng Nghymru, a hefyd, wrth gwrs, mae twf coetiroedd yn helpu i atal llifogydd mewn rhai ardaloedd, dal a storio carbon, ac ansawdd aer hefyd? Felly, onid yw’n bryd yn awr i Lywodraeth Cymru wneud ymdrech bellach i sicrhau cynllun cymorth mwy pwrpasol ar gyfer coetiroedd yng Nghymru, oherwydd y manteision nid yn unig i’r diwydiant gweithgynhyrchu, ond i ansawdd bywyd y gall coetiroedd ei gynnig?