Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ehangu’r mynediad hwnnw, ac rwy’n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod yn hen bryd. Mae’n bwysig iawn fod mwy o bobl yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, yn mwynhau’r awyr agored yr ydym mor ffodus i’w gael. Mae yna fanteision amlwg o ran iechyd a gweithgareddau, yn ogystal â’r ffaith y bydd pobl yn gwerthfawrogi cefn gwlad yn fwy ac efallai, yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol o ganlyniad. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod sefydlu Llwybr Arfordir Cymru, a grybwyllwyd gennych, yn gam mawr ymlaen o ran annog mwy o bobl i fwynhau ein hawyr agored? Ond mae yna rai agweddau anorffenedig ynglŷn â hynny, er enghraifft y gwaith o greu’r llwybrau cylchol a ragwelwyd ar gyfer cysylltu cymunedau lleol â llwybr yr arfordir, a hefyd, efallai, cael dathliad blynyddol proffil uchel iawn ar ben blwydd creu Llwybr Arfordir Cymru, er mwyn i ni sicrhau bod cymunedau lleol ac ysgolion yn cerdded y llwybr ar y pen blwydd hwnnw.