Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 8 Mawrth 2017.
Byddwn, rwy’n credu bod hwnnw’n syniad da iawn ac wrth gwrs, mae’r pumed pen blwydd eleni. Credaf nad yw’r cyfraniad at economi Cymru, er enghraifft, yn rhywbeth sy’n cael ei gydnabod bob amser. Ond rwy’n cytuno y dylem ei ddathlu.
Fel y gwyddoch, rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i wella a hyrwyddo’r llwybr ac rwy’n credu bod yna bethau y gallwn eu gwneud hefyd, efallai, nad ydynt yn costio llawer o arian. Rwy’n credu efallai y gallem gysylltu camlesi, er enghraifft, â rhannau eraill o gefn gwlad, ac yna, yn amlwg, mae gennym lwybr yr arfordir sy’n cysylltu â hynny hefyd. Mae ein swyddogion yn gweithio’n agos iawn oherwydd bydd hi’n Flwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, fod yna gyfle i hyrwyddo llwybr yr arfordir yn dda. Ac rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn awyddus iawn i sicrhau bod unrhyw gynlluniau marchnata yn y dyfodol mewn perthynas â hynny yn helpu i wireddu manteision llawn y buddsoddiad yr ydym wedi ei wneud yn Llwybr Arfordir Cymru.