Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 8 Mawrth 2017.
Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn ac rwy’n credu ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw’n iawn hefyd. Yn sicr, rydym wedi cael tua 5,800 o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ac ni fyddwch yn synnu clywed bod pynciau megis y rhai yr ydych newydd eu crybwyll wedi cael eu nodi yn hwnnw. Ond yn sicr, gallwn edrych i wneud yn siŵr fod—. Fel y dywedais, byddaf yn edrych ar y ddeddfwriaeth, ac yn sicr gallem ystyried cael rhyw fath o ymgyrch addysg ochr yn ochr â hynny, fel yr ydych yn ei awgrymu.