<p>Mynediad at Gefn Gwlad</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:53, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae mynediad at gefn gwlad yn rhywbeth i’w groesawu a gobeithio ei fod yn creu gwell dealltwriaeth o bwrpas cefn gwlad, sef, yn bennaf, cynhyrchu bwyd ar ein cyfer—byw ar dda’r wlad, fel y byddai sawl un yn ei ddweud—ond mae yna fater difrifol ynglŷn ag addysgu pobl, pan fyddant yn mynd i gaeau ac yn mynd i gefn gwlad, fod yna risgiau a pheryglon. Yn fy ardal fy hun, sef Canol De Cymru, ychydig o flynyddoedd yn unig yn ôl, yn anffodus, cafodd nifer o gerddwyr eu sathru gan wartheg yn ardal Sain Ffagan a Radur. Ledled y DU, mae’n un o’r pethau sy’n lladd fwyaf o bobl yng nghefn gwlad: da byw yn dod i gysylltiad â phobl nad ydynt yn ymwybodol o’r rhagofalon diogelwch sydd eu hangen. A fyddech chi, ynghyd â’ch cymhellion i agor rhannau o gefn gwlad, yn gwneud yn siŵr fod yna ymgyrch addysg gadarn ac ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar lawr gwlad, fel y gellid osgoi trychinebau fel y rhai sydd wedi digwydd yn fy rhanbarth ble bynnag y bo’n bosibl?