Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 8 Mawrth 2017.
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo, o fis Ebrill yma ymlaen rwy’n credu, i sicrhau bod 100 y cant o ynni y gwasanaethau cyhoeddus yn dod o ffynonellau adnewyddol. A fyddai’n bosib i fynd un cam ymhellach, a chael targed ar gyfer Cymru gyfan, a sicrhau bod 100 y cant o’n holl anghenion ynni ni yn dod o ffynonellau adnewyddol o fewn 20 mlynedd?