Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Mawrth 2017.
Ie, mae’n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Mae gennym ddadl ddydd Mawrth nesaf, Lywydd, yn amser y Llywodraeth, sy’n ymwneud â hyn a thargedau ac yn y blaen. Roeddwn yn falch iawn o weld y targed hwnnw’n cael ei gyflwyno o’r mis nesaf a bydd 50 y cant o’r ynni hwnnw’n dod o Gymru ar y cychwyn. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn uchelgeisiol iawn—yn ymarferol ac yn realistig, ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni fod yn uchelgeisiol iawn—ac rwy’n hapus iawn i edrych ar yr hyn y mae’r Aelod yn ei awgrymu.