Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, Lywydd, bydd yr Aelodau’n deall fy mod yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, ac mae hynny’n cynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer Bae Abertawe, o ystyried fy rôl statudol. Fodd bynnag, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael trafodaethau—Ken Skates a minnau—gyda Charles Hendry. Rydym yn cefnogi, mewn egwyddor, y bwriad i ddatblygu diwydiant ynni môr-lynnoedd llanw yn y DU a byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny.