Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 8 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais i chi o’r blaen ynglŷn â chysylltedd â’r grid, sy’n rhwystr go iawn i lawer o brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach i gael eu traed danynt mewn gwirionedd. Pan ofynnais y cwestiwn hwn i chi y tro diwethaf, fe ddywedoch fod y Llywodraeth yn gwneud cynnydd da iawn. Dilynais hynny gyda chwestiwn ysgrifenedig a ddangosodd mai dau gyfarfod yn unig a gafwyd gyda swyddogion a’r dosbarthwyr, Western Power Distribution. Felly, a wnewch chi ymhelaethu ar sut yn union y mae’r cynnydd da y dywedoch wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn ei wneud y tro diwethaf y gofynnais y cwestiwn hwn i chi i’w weld ar lawr gwlad, fel bod mwy o gynnydd yn y capasiti er mwyn i fwy o brosiectau ynni adnewyddadwy yn y gymuned allu cael y cysylltiad hwnnw a gallu bwrw ymlaen mewn gwirionedd?