Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 8 Mawrth 2017.
Un o’r prosiectau hynny oedd Cymunedau am Waith, ac rwyf wedi crybwyll hyn wrthych droeon, nid yn unig yma, ond yn y pwyllgor hefyd. Felly, rwy’n credu bod honno’n un enghraifft y gallech edrych arni, o bosibl, a dod yn ôl ataf. Ond mewn perthynas â dyfodol eich strategaethau gwrth-dlodi yn fwy cyffredinol, rwyf wedi clywed hefyd mai’r broblem gyda llawer o gynlluniau yn y gorffennol yw nad ydynt yn mesur y canlyniadau hirdymor, ac yn creu data a all fod yn gamarweiniol mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, bydd rhywun sy’n cael swydd drwy’r rhaglen Cymunedau am Waith yn cael ei gyfrif yn llwyddiant ynddo’i hun, pa un a fydd yn dal i fod yn y swydd ymhen ychydig wythnosau ai peidio. Ond rydym i gyd yn gwybod bod tlodi pobl mewn gwaith yn dal i fod yn broblem enfawr. Felly, sut y bernir bod y cynllun penodol hwnnw ac eraill tebyg iddo yn llwyddiant, a minnau newydd amlinellu ei bod yn anodd iawn i chi ddeall a ydynt yn rhan ohono am wythnos, neu bythefnos, neu fis, ar ôl iddynt gael y lleoliad gwaith penodol hwnnw mewn gwirionedd?