Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rwy’n cydnabod pwynt yr Aelod. Fe ddywedwn fod mynediad at waith yn un elfen o lwyddiant. Mae llwyddiant yn y tymor hir yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu cynnal cyflogaeth. Ond mae’r profiad y mae pobl yn mynd drwyddo ar y cwrs ei hun yn sgil craidd i’r unigolion hynny, i dyfu i mewn i’r cyfleoedd i gael gwaith yn y lle cyntaf. Felly, mae un allbwn o gael swydd a’i chynnal yn bwysig, ond mae yna agweddau eraill ar y cwrs hwnnw sy’n bwysig hefyd. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion ynglŷn â hynny. Ond os yw’n dymuno rhoi’r manylion llawn i mi ynglŷn â’i chwestiwn, rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy nhîm ymateb iddi.