<p>Diwygio Lles</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:38, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fe siaradais â’r Gweinidog Gwladol dros Bobl Anabl, ac ysgrifennodd ataf yn dilyn ei chyhoeddiad yn datgan nad oedd hwn yn newid polisi mewn perthynas â thaliadau, ac na fyddai’n golygu bod unrhyw un sy’n hawlio taliad annibyniaeth personol yn cael gostyngiad yn swm y taliadau annibyniaeth personol a ddyfarnwyd iddynt yn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn ceisio gwrthdroi dyfarniad yr uwch dribiwnlys, a fyddai’n cynyddu cymhwysedd ar gyfer y taliad annibyniaeth personol. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion fynd ar drywydd hynny gyda’i hadran, i geisio eglurder ynglŷn â hynny, a’r effeithiau ar gyfer pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd yma yng Nghymru.