Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rydym wedi bod yn rhoi cynnig ar amrywiadau ar yr un thema ym mholisi economaidd Cymru bellach ers nifer o genedlaethau, ac rydym yn rhedeg er mwyn sefyll yn llonydd. Prin y mae ein lefel cyfoeth cenedlaethol, neu werth ychwanegol gros y pen wedi newid yn yr 20 mlynedd ers i ni addo y byddai ffurfio Cynulliad Cenedlaethol yn creu pwerdy economaidd i Gymru. Ddau ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn parhau i chwilio am ateb gwyrthiol—prosiect trawsnewidiol hoff gan bawb. Pe baem ond yn gallu cael ychydig o brosiectau mewnfuddsoddi proffil uchel a gobeithio ar ein gwaethaf am Admiral Insurance arall, yr unig gwmni FTSE 100 sydd gan Gymru o hyd gyda llaw, bron i 25 mlynedd ar ôl iddo gael ei sefydlu. Ac wrth i ni chwilio’n daer am ruban i’w dorri, mae economi ein cymunedau o ddydd i ddydd yn parhau i droi’n araf deg.
Mae cynnig heddiw yn apêl i edrych ar yr hyn sy’n cuddio yng ngolwg pawb, a thrafod yr hyn y gallem ei wneud i’w meithrin—yr economi bob dydd, fel y’i disgrifiwyd gan yr Athro Karel Williams. Nawr, dyna enw y byddwch yn ei glywed sawl tro y prynhawn yma, rwy’n siwr. Ochr yn ochr â’i gydweithwyr yn Ysgol Fusnes Manceinion, mae wedi gwneud llawer i roi bywyd i’r syniad o economi bob dydd, yr economi sylfaenol fel y’i gelwir. Fel un o feibion Llanelli, mae Karel Williams wedi defnyddio cyflwr diobaith y dref rwy’n ei chynrychioli yn ein Cynulliad Cenedlaethol fel astudiaeth achos yn yr hyn y gellir ei wneud i gryfhau’r rhannau o’r economi a adawyd ar ôl wedi diflaniad y diwydiant trwm a ysbrydolodd eu creu.
Yr economi sylfaenol sy’n sail i wead cymdeithasol ein cymunedau, ac mae’n treiddio i’n cymdogaethau mwyaf difreintiedig hyd yn oed. Y diwydiannau a busnesau sydd yno am fod y bobl yno, y bwyd rydym yn ei fwyta, y cartrefi yr ydym yn byw ynddynt, yr ynni a ddefnyddiwn a’r gofal yr ydym yn ei dderbyn. Nid rhan fechan o’n heconomi yw hon; dyma yw oddeutu pedair o bob 10 swydd a £1 o bob £3 a wariwn. Mae ein ffocws wedi bod ar gwmnïau angor sy’n cyflogi mwy na 1,000 o bobl mewn un lle, ond mae mwy na 3,000 o bobl wedi’u cyflogi i wneud soffas ar draws Cymru, ac nid ydynt yn rhan o unrhyw strategaeth economaidd, ond dyma’r math o weithgaredd anatyniadol sy’n sylfaen i’n heconomïau lleol.
Mae globaleiddio wedi ein dal ar y droed ôl wrth i gynhyrchwyr lleol gael eu gwthio allan o’r farchnad gan is-gwmnïau tramor, sy’n aml yn rhoi pwysau ar gyflenwyr Cymru i ostwng eu prisiau ac allforio’r elw tramor. Os cawn hyn yn iawn, mae’r economi sylfaenol yn cynnig cyfle i wrthdroi dirywiad amodau cyflogaeth, atal colli arian o’n cymunedau a lleihau cost amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig. Mae rhwystrau mawr yn sefyll yn ein ffordd—mae’n ddibwynt esgus fel arall—ac yn hytrach na’u hanwybyddu, hoffwn fynd i’r afael â hwy’n uniongyrchol.
Y cyntaf yn ddi-os yw’r gost. Yn aml, nodir gwariant y sector cyhoeddus—y £5.5 biliwn a wariwn bob blwyddyn yn prynu nwyddau a gwasanaethau i mewn—fel ffordd uniongyrchol o hybu ein heconomi sylfaenol. Ond yn union fel y mae’r ymgyrch i leihau cyllidebau wedi arwain at gwmnïau mawr wedi’u preifateiddio yn dominyddu’r modd y darperir ein gwasanaethau cyhoeddus, felly hefyd y bydd gwrthdroi’r tueddiad hwn yn galw am fuddsoddiad. Bydd angen mwy o gefnogaeth ar fusnesau lleol i geisio am gontractau sector cyhoeddus a’u cyflawni. Mae angen i ni fuddsoddi mewn staff â sgiliau uwch ym maes caffael arbenigol mewn llywodraeth leol, ac yn ôl pob tebyg, bydd cost y nwyddau a’r gwasanaethau a brynwn yn y diwedd yn codi, ac mae angen inni fod yn onest ynglŷn â hynny. Er mwyn cyflawni ailstrwythuro go iawn, bydd angen buddsoddi sylweddol, a chydnabyddiaeth y dylai enillion ariannol yn y tymor byr gael eu dadflaenoriaethu o blaid manteision mwy hirdymor, ac mae’n rhaid i ni fod yn onest ynglŷn â hynny, hefyd.
Ond mae realiti ein tirwedd economaidd a’r awtomeiddio sydd ar y ffordd yn ei gwneud yn gostus i beidio â’i wneud. Rwyf wedi siarad o’r blaen am y ffordd y mae ffrwydrad o gyfrifiaduron sy’n gallu dysgu drostynt eu hunain yn golygu bod ymennydd dynol, yn ogystal â dwylo dynol, mewn perygl o gael eu disodli gan beiriannau ac algorithmau bellach. Cyfrifwyr, yswirwyr, clercod a dadansoddwyr—mae yna lu o broffesiynau’n agored iawn i hyn. Amcangyfrifir bod 700,000 o swyddi i gyd mewn perygl yn sgil awtomeiddio yng Nghymru yn unig. Ac er y bydd y swyddi gwerth uchel sy’n seiliedig ar wybodaeth a fydd yn parhau yn dilyn yr ail don hon o awtomeiddio yn atyniadol iawn, rhaid inni sicrhau bod y swyddi ar ben arall y sbectrwm—y rhai sy’n ffurfio sylfaen bob dydd ein heconomi—yn atyniadol hefyd.
Yr ail ddadl yr un mor ddilys yn erbyn buddsoddi adnoddau prin yn yr economi sylfaenol yw ei bod yn ymagwedd radical a heb ei phrofi. Ond fel y nodais yn gynharach, mae ein strategaeth economaidd bresennol wedi cael ei phrofi—nid yw’n gweithio. Mae ein methiant i adfywio ein heconomi drwy ddulliau confensiynol wedi golygu ein bod wedi gorfod buddsoddi arian mewn rhaglenni gwrth-dlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth i geisio clirio’r llanast. Ond atyniad yr economi sylfaenol yw y byddai’n mynd i’r afael â gwendid ein heconomi a chanlyniadau cymdeithasol hynny. Ac ydy, mae’n radical—dyna’r pwynt. Rydym yn wynebu dadrithiad cyhoeddus mawr. Brexit a’r pedwerydd chwyldro diwydiannol—mae ein hamgylchedd gweithredu yn newid yn radical ac mae’n rhaid i ni wneud yr un fath. Rhaid i ni symud oddi wrth y confensiynol a rhoi cynnig ar yr arbrofol, gan fod methu rhoi sylw i’n sylfeini yn golygu bod perygl y bydd ein strwythur economaidd bregus yn ei gyfanrwydd yn dadfeilio. Diolch.