Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Mae teuluoedd â phlant anabl yn wynebu costau uwch ac incwm is na theuluoedd eraill. Mae ymchwil Cyswllt Teulu yn dangos y gallai’r gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â chyflwr y plentyn fod yn £300 neu fwy bob mis, gydag 84 y cant o deuluoedd sydd â phlant anabl wedi mynd heb hamdden a diwrnodau allan. Am dros 40 mlynedd, prif swyddogaeth Cronfa’r Teulu oedd helpu i unioni’r cydbwysedd drwy ddosbarthu arian cyhoeddus ar draws y DU ar ffurf grantiau i deuluoedd ar incwm isel sydd â phlant sâl ac anabl, gyda theuluoedd yn gallu gwneud cais am grant cyfartalog o £500 yn flynyddol. Roedd cyllid Llywodraeth Cymru hyd at 2015-16 yn £2.64 miliwn, gyda’r cyfan bron wedi’i ddosbarthu’n uniongyrchol i 5,429 o deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl ledled Cymru.
Mae’r gweinyddiaethau yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyd wedi cadw eu cefnogaeth ariannol i Gronfa’r Teulu ar gyfraddau 2015-16. Fodd bynnag, ers 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis torri £5.5 miliwn oddi ar ei chyfraniad, fel y clywsom, dros dair blynedd, sy’n golygu na all dros 4,000 o deuluoedd bob blwyddyn drwy Gymru gael y cymorth hwn. Mewn cyferbyniad, cadarnhaodd Adran Addysg y DU yr wythnos hon y bydd yn cadw ei chyllid Cronfa’r Teulu blynyddol o £27.3 miliwn am dair blynedd hyd at 2020—cyfanswm o £81.9 miliwn—gan sicrhau y bydd degau o filoedd o deuluoedd yn Lloegr yn gallu dibynnu ar y cymorth ychwanegol hwn.
Fel y dywedodd Gweinidog Gwladol y DU dros Blant a Theuluoedd sy’n Agored i Niwed, Edward Timpson AS,
Ni ddylai unrhyw blentyn, waeth beth fo’r rhwystrau y mae’n eu hwynebu, fethu cael profiadau bywyd hanfodol.
Felly rwy’n cynnig gwelliant 2, sy’n nodi bod y Llywodraethau Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr i gyd wedi cadw eu cyllid ar gyfer Cronfa’r Teulu.
Er bod y polisi yng Nghymru wedi ymwahanu ers datganoli, parhaodd y cyllid hwn, gan ei fod yn ffordd werthfawr a chosteffeithiol iawn o gefnogi teuluoedd sydd â phlant anabl. Newidiodd y sefyllfa hon yn Ebrill 2016 pan benderfynodd Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i Gronfa’r Teulu wneud cais am ei chyllid o’r cynllun grantiau i’r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Nid oedd yn gynaliadwy. Nid yw’n ymddangos eu bod wedi cyhoeddi unrhyw ddadansoddiad o’r effeithiau y byddai tynnu cyllid mor sylweddol yn ôl yn eu cael ar y teuluoedd yr effeithir arnynt. Gostyngodd cyllid Llywodraeth Cymru yn 2016-17 i £900,000, gan gynnwys taliad untro o £400,000, a’r flwyddyn nesaf bydd yn disgyn i £499,000 yn unig, gan gyfyngu’r cymorth i 875 amcangyfrifedig o deuluoedd yn unig.
Ymhellach, nid yw teuluoedd yng Nghymru ond yn gallu gwneud cais am grant unwaith bob pedair blynedd erbyn hyn, tra bo teuluoedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu ymgeisio bob blwyddyn, ac maent yn wynebu cyfyngiadau ar y math o gymorth y gellir defnyddio grant ar ei gyfer yng Nghymru. Mae’n wallgof y bydd y toriadau hyn yn cynyddu’r baich ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol a’r GIG ac yn mynd yn groes i’r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad a fydd yn effeithio’n andwyol ar yr union deuluoedd y maent yn honni bod eu polisïau wedi’u cynllunio i’w cynorthwyo. Drwy barhau i ddargyfeirio’r mater ymlaen at gyllid cyffredinol ar gyfer y sector gwirfoddol, maent yn methu cydnabod yr effaith negyddol uniongyrchol y mae eu toriad o £5.5 miliwn i’r cyllid yn ei chael. Mae’r elusennau Gofalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru wedi mynegi siom fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn methu cydnabod neu ymdrin â’r effaith ariannol uniongyrchol ar deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl a difrifol wael ar draws Cymru—y dros 4,000 o deuluoedd yng Nghymru nad oes grant blynyddol ar gael iddynt bellach. Nid wyf yn meddwl bod ‘siom’ yn gwneud cyfiawnder â’r anobaith a deimlir. Fel y maent yn nodi, roedd y toriad anferth hwn i deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl, yn ganlyniad hollol ragweladwy i’r penderfyniad i uno dyraniad Cronfa’r Teulu â’r grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn ôl ym mis Rhagfyr 2015... ffaith a fethwyd yn llwyr yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a wnaed ar y pryd.
Maent hefyd yn nodi bod y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r cyllid blynyddol ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru, y cyfeirir ato yng ngwelliant Llywodraeth Cymru, yn bodoli cyn y penderfyniad i dorri Cronfa’r Teulu ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi ailddyrannu swm cyfatebol i gynorthwyo teuluoedd sydd â phlant anabl.
Fel y dywedodd un etholwr wrthyf:
Mae fy mhlentyn chwech oed yn anabl a heb Gronfa’r Teulu, ni fyddem wedi gallu sicrhau ei fod yn ddiogel yn ein gardd na chynnig llechen iddo i’w helpu gyda’i anabledd.
Wel, byddai Llywodraeth Cymru aeddfed yn rhoi’r gorau i wneud pethau i fod yn wahanol yn unig a dechrau eu gwneud yn well—a rhoi’r gorau i wneud pethau i bobl a dechrau gwneud pethau gyda hwy.