Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 8 Mawrth 2017.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig ar Gronfa’r Teulu. Wrth gwrs, fel rydym wedi clywed, nid hon yw’r gronfa fwyaf erioed, ond mae’n bwysig achos mae’n darparu arian uniongyrchol i deuluoedd tlawd efo plant efo salwch difrifol ac anableddau difrifol. Mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol. Nid yw’n cael ei arallgyfeirio drwy ffynonellau amgen sydd yn tueddu i sugno rhan o’r pres drwy eu gweithgareddau gweinyddu, pa bynnag gyllid prosiect ydy o. Ac, wrth gwrs, mae’n werth nodi bod yna gostau ychwanegol o gael anabledd, yn enwedig os ydym yn derbyn y model cymdeithasol o anabledd. Mae hynny’n golygu bod yna gyfrifoldeb ar bawb, felly, i gydnabod y ‘social model’ o anabledd, a chyfrifoldeb ar bawb i drio cael gwared â’r rhwystrau yna sydd yn ffordd pobl efo anableddau i allu byw bywyd yn llawn. Felly, o ddilyn ac o gydnabod pwysigrwydd y model cymdeithasol yna o anabledd, mae’n rhaid derbyn bod yna gostau ychwanegol, felly, i wneud yn siŵr bod pobl efo anableddau yn gallu byw bywyd yn llawn.
Wrth gwrs, mae yna gostau ychwanegol. Mae yna gyfarpar ychwanegol, fel rydym ni wedi clywed amdano. Mae yna ofal cymhleth iawn, ac nid yw’r cyfan ohono yn gallu cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n rhaid i rieni orfod gweithio’n hyblyg, weithiau ddim o gwbl, ac wrth gwrs mae hyn i gyd yn achosi straen anferthol ar deuluoedd. Rydw i yn credu ei bod hi yn ddyletswydd foesol arnom ni fel cymdeithas yn gyffredinol i helpu i edrych ar ôl ein plant mwyaf bregus, achos, wrth gwrs, fe allem ni gyd fod wedi bod yn rhiant i blentyn efo anabledd. Yn ffodus iawn, nid yw’r rhan fwyaf ohonom ni yn y sefyllfa yna, ond rwy’n credu bod yna ddyletswydd foesol arnom ni i helpu i edrych ar ôl y rhieni yna sydd yn y sefyllfa yna. Achos, fel meddyg teulu, rŵan—nid wyf yn siŵr os ydw i wedi sôn am hyn o’r blaen—ers dros 30 mlynedd yn Abertawe rydw i wedi adnabod ac yn dal i adnabod nifer o deuluoedd sydd efo’r broblem yma yn hirdymor. Rydw i wedi gweld babanod yn cael eu geni, a nawr maen nhw’n oedolion gydag anableddau difrifol, ac mae’r straen wedi bod yn anferthol, ac fel gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol rydym ni’n gallu darparu gymaint ag y medrwn ni, ond mae yna wastad gostau ychwanegol sy’n rhaid i deuluoedd wynebu.
Wrth gwrs, mae’r pwysau ariannol yna yn waeth mewn teulu ar incwm isel—mae yna fath o ‘double jeopardy’, onid oes? Rydym ni’n gwybod eisoes bod tlodi yn esgor ar safon o iechyd gwael, wel, meddyliwch chi fod gennych chi safon o iechyd gwael i ddechrau achos bod anabledd gyda chi, ac mae tlodi yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth. Mae’r ddau beth yn amharu ar safon eich bodolaeth, achos mae hi yn anodd iawn pan nad oes yna ddigon o arian. Ar ben hynny, mae teuluoedd yn teimlo o dan ormes. Nid yw pobl fel arfer yn licio gorfod gofyn am bob peth ychwanegol o hyd, a hefyd maen nhw’n teimlo gelyniaeth, yn enwedig oddi wrth Lywodraeth San Steffan ynghyd â’r holl fusnes budd-daliadau a phopeth arall. Ar ben hynny, rŵan maen nhw’n colli’r arian uniongyrchol yma. Fel sydd wedi cael ei nodi eisoes, nid yw colli’r Gronfa Teulu yma yn digwydd mewn unrhyw wlad arall. Cymru ydy’r unrhyw wlad sy’n colli’r taliad uniongyrchol yma, a Chymru ydy’r wlad dlotaf. Nid yw’r peth yn gwneud synnwyr. Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cadw eu Cronfa Teulu nhw.
Yn y bôn mae yna golli pres yn fan hyn. Rydw i’n gwybod sut mae’r pethau yma’n digwydd: mae yna ailstrwythuro ac mae yna ‘unintended consequences’ fel y byddai’r Sais yn dweud. Ond yn y bôn, mae teuluoedd yn colli arian uniongyrchol. Mae ein cynnig ni yn nodi cyfle i roi’r arian yma yn ôl mewn unrhyw ffordd, ond mae’n bwysig bod yr arian yn mynd yn uniongyrchol i’r teuluoedd, nid yn cael ei sugno i mewn i strwythurau ‘project funding’ y trydydd sector ac yn cael ei golli wedyn o fod yn uniongyrchol i’n teuluoedd mwyaf bregus ni. Diolch yn fawr.