1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan yr ailbrisio ardrethi busnes? OAQ(5)497(FM)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £20 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnesau sy’n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio ardrethi—£10 miliwn trwy ein cynllun rhyddhad trosiannol a £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi stryd fawr. Mae hyn yn ychwanegol at ein rhyddhad ardrethi o £100 miliwn i fusnesau bach. Rydym wedi gweithredu i roi sicrwydd a diogelwch i drethdalwyr yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio.
Diolch i chi am yr ateb yna, arweinydd y tŷ. Mae busnesau yn fy etholaeth i yn parhau i fod yn bryderus iawn am yr ailbrisio ardrethi busnes. Er bod croeso i unrhyw gymorth ychwanegol—rwy’n clywed am y rhyddhad y mae eich Llywodraeth wedi ei gyhoeddi— diferyn yn y môr yw’r gostyngiad ychwanegol i’r busnesau hynny sy'n wynebu'r cynnydd mwyaf. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o nifer y busnesau na fyddant yn elwa ar y cynllun cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith, ac a wnaiff y Llywodraeth edrych eto ar godi'r trothwy pan fo busnesau yn dechrau talu ardrethi busnes er mwyn osgoi rhai o’r achosion o gau busnesau ar raddfa fawr yr wyf yn ofni sy’n mynd i ddigwydd ar ôl mis Ebrill?
Bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol o £10 miliwn yn cynorthwyo busnesau y byddai eu hawl i ryddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei effeithio'n andwyol gan ailbrisio. Mae ein rhyddhad ardrethi stryd fawr o £10 miliwn yn targedu busnesau yn eich etholaeth chi yn benodol. Rwy'n gwybod y ceir talwyr ardrethi stryd fawr, gan gynnwys siopau, tafarndai a chaffis, ac, wrth gwrs, gwrandawyd ar y pryderon ac ymatebwyd i'r busnesau bach yng Nghymru. Mae'r rhain yn gynlluniau a ariannwyd yn bwrpasol, ac, yn wir, maen nhw’n ychwanegol at ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o £100 miliwn. O ganlyniad, bydd tri o bob pedwar busnes yn derbyn cymorth gyda'u biliau yn 2017-18.
Arweinydd y tŷ, o ganlyniad i ailbrisio, mae’r gwerth ardrethol cyfartalog yn Rhondda Cynon Taf wedi gostwng gan 6.1 y cant. Gan fod hwn yn batrwm eithaf cyffredin ar draws yr ardal, pa effaith allai hyn ei chael ar bolisïau Llywodraeth Cymru tuag at hybu ffyniant economaidd ar draws Cymoedd y De?
Wel, wrth gwrs, mae’r ystadegau a gyhoeddwyd gan yr awdurdod prisio yn dangos y bydd cyfanswm y gwerth ardrethol yn gostwng yn holl awdurdodau’r Cymoedd. Mae hynny'n golygu y bydd y rhan fwyaf o dalwyr ardrethi yn yr ardaloedd hyn yn elwa ar ostyngiad i’w biliau, ac rydym wedi cymryd camau i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwnnw i fusnesau drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o £100 miliwn. Ond, wrth gwrs, bydd Busnes Cymru, a'r holl ysgogwyr eraill a fydd yn cynorthwyo busnesau yn eich etholaeth chi, yn cael effaith ar gyfleoedd economaidd, gan gynnwys y fargen ddinesig, y mae Rhondda Cynon Taf yn bartner allweddol ynddi.
Er gwaethaf y pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Gwm Cynon, mae hon yn dreth annheg yn ei hanfod. Mae'n achosi chwalfa economaidd ar ein strydoedd mawr. Onid yw'n bryd cael gwared ar y dreth hon yn gyfan gwbl a'i disodli gyda rhywbeth fel treth gwerthu ar y rhyngrwyd?
Yn amlwg, mae hwn yn fater lle’r ydym ni wedi gweithio dros gyfnod o amser, fel Llywodraeth sy’n sicr o blaid busnes, i gymryd camau i helpu busnesau newydd a phresennol, ac yn wir i edrych ar yr effaith nid yn unig o ran ailbrisio, ond ein cynllun cymorth busnes. Rydym ni’n ystyried cynllun parhaol newydd o ran rhyddhad ardrethi busnes bach o 2018, ac mae'n bwysig targedu cymorth mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru. Rydym wedi ymgysylltu mor eang â phosibl ar ein cynlluniau yn yr amser byr a oedd ar gael rhwng cyhoeddiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio o’i rhestr ardrethi drafft a'r dyddiad erbyn pryd yr oedd yn rhaid i’r rheoliadau hyn fod ar waith. Ond eu cynllun nhw yw hwn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn ailddosbarthu'r swm sy'n daladwy rhwng adeiladau, gan adlewyrchu'r newidiadau i’r farchnad adeiladau. Eu cyfrifoldeb nhw yw hynny.
Arweinydd y tŷ, mae'r ailbrisio ardrethi busnes yn rhoi ein stryd fawr mewn perygl. Mae llawer o fusnesau bach yn wynebu cynnydd anferth i’w biliau ardreth, ac eto nid yw eu trosiant yn cynyddu. I lawer, yr unig ddewis arall yw chwilio am adeiladau rhent â gwerth trethiannol llai oddi ar y stryd fawr, ac efallai mai hwn fydd y pennog gyda phwn a fydd yn torri asgwrn cefn y ceffyl i fanwerthwyr bach, annibynnol y stryd fawr. Mae cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth y DU yn cynnig cap ar gynnydd i ardrethi busnes ar gyfer y cwmnïau bach hynny sydd ar fin colli eu rhyddhad ardrethi. Arweinydd y tŷ, a wnaiff eich Llywodraeth ystyried gwneud rhywbeth tebyg i fanwerthwyr bach y stryd fawr yma yng Nghymru?
A gaf i ei gwneud yn eglur ein bod ni’n gwneud mwy na Llywodraeth y DU? Os edrychwch chi ar y cyllid ar gyfer y mesurau rhyddhad ardrethi a gyhoeddodd y Canghellor yr wythnos diwethaf, byddai'n dod i ychydig dros £12 miliwn. Pe byddem ni wedi dibynnu ar hynny, byddai wedi golygu £8 miliwn yn llai o gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghymru. Mae gennym ni ddau gynllun pwrpasol wedi’u hariannu'n llawn. Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r busnesau yn eich etholaeth yn elwa’n benodol ar y ddau hynny—nid dim ond y cynllun trosiannol, ond hefyd y cynllun newydd sy'n targedu’r talwyr ardrethi stryd fawr hynny yn benodol.