1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gymryd camau i sicrhau cydraddoldeb o ran lefel buddsoddiad y llywodraeth ym mhob rhan o Gymru? OAQ(5)0506(FM)
Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein blaenoriaethau a’r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er budd pob rhan o Gymru ym mhob agwedd ar gymdeithas.
Mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn dangos bod lefel gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru ar seilwaith yn y de-ddwyrain ddwywaith hynny fesul pen yn y gogledd, a thair gwaith y ffigur ar gyfer y canolbarth a’r gorllewin. Hynny yw, pryder ynghylch y bwlch buddsoddi enfawr hwnnw a arweiniodd at fy mhlaid yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol yr wythnos diwethaf. Pa sicrwydd—[Torri ar draws.] Pa sicrwydd—[Torri ar draws.]
Gadewch i ni glywed y cwestiwn.
Pa sicrwydd all hi ei roi i fy mhlaid ac i Aelodau ar bob ochr sy'n cynrychioli’r rhanbarthau hynny y byddwn ni’nn cael buddsoddiad cyfartal i bob rhan o Gymru fel y gallwn weld ffyniant yn cael ei rannu ar draws ein gwlad?
Wel, rwy’n meddwl bod yr Aelod wedi gweld dyraniadau cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau heddlu ar gyfer 2017-18, ac wedi gweld mai dim ond un ardal sydd lle ceir dyraniad ychydig yn wahanol y pen, a hoffwn rannu hyn eto gyda'r Aelod. O ran gwariant cyfalaf, ar sail Cymru gyfan mae hynny’n hanfodol bwysig o ran ein buddsoddiad mewn tai cymdeithasol, ein buddsoddiad mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a’n buddsoddiad mewn trafnidiaeth. Gallaf, unwaith eto, roi’r buddsoddiadau i chi mewn, er enghraifft, rheoli perygl llifogydd ac arfordirol, yn cefnogi Cymru gyfan gyda £144 miliwn; £700 miliwn i wella ein rhwydwaith cefnffyrdd; ac o ran y gogledd, yn arbennig o bwysig, £50 miliwn i hybu datblygiadau metro gogledd-ddwyrain Cymru, gyda photensial i ehangu i’r gorllewin yn y dyfodol. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y gyllideb atodol, mae’r hyn a oedd yn y gyllideb atodol honno’n bwysig iawn i bobl Cymru. Mae'n £170 miliwn i gefnogi GIG Cymru—i roi un enghraifft yn unig—ac £16 miliwn i gronfa driniaeth ar gyfer mathau newydd o driniaeth; cyllid ychwanegol o £20 miliwn ar gyfer addysg uwch; a £55.5 miliwn yn ychwanegol i gefnogi'r gwaith o adeiladu a chynnal a chadw'r rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau i gyflymu'r gwaith o gyflawni ffordd osgoi Llandeilo yn sgil ein cytundebau cyllideb. Felly, gadewch i ni gydnabod pwysigrwydd ein hystyriaethau.
Ysgrifennydd y Cabinet, ceir cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, ceir cytundeb dinas bae Abertawe arfaethedig, a cheir cytundeb twf gogledd Cymru. Pa ystyriaeth a roddwyd i gytundeb twf canolbarth Cymru ar yr un raddfa, i sicrhau bod lefel debyg o fuddsoddiad ym mhedwaredd rhanbarth economaidd Cymru sy’n weddill?
Wrth gwrs, mae gwaith wedi ei wneud, fel y gwyddoch, Russell George, o ran sut y gallwn ymateb i gyfleoedd twf yn y canolbarth, ond rwy'n credu ei bod hefyd yn berthnasol i ddweud—ac rwy’n mynd i fod yn berthnasol iawn i’ch ardal chi—bod y rhain yn ymwneud â dewisiadau cyllideb o ran y toriadau hynny i’r rhaglen gyfalaf yr wyf i wedi sôn amdanynt eisoes. Ond rydym ni’n adeiladu pum ysgol gynradd newydd ym Mhowys—a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae hynny mor bwysig i ragolygon eich plant a’ch pobl ifanc o ran cyfleoedd twf yn y canolbarth.
Arweinydd y tŷ, er na fyddech chi’n ei gredu, roedd cryn dipyn o gonsensws yr wythnos diwethaf yn ystod y ddadl ar yr economi sylfaenol, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll gan Simon Thomas, a chytunwyd yn unfrydol yn y Siambr bod busnesau bach brodorol yn cysylltu â'i gilydd mewn ffordd nad yw'n digwydd mewn cwmnïau mawr. Cytunwyd bod angen ymestyn rhwydweithiau o gyfalaf cymdeithasol y tu hwnt i gyd-destunau cymdeithasol lleol. Cytunwyd hefyd bod daearyddiaeth Cymoedd y de wedi bod yn rhwystr i hyn yn y gorffennol. A fyddai arweinydd y tŷ yn derbyn felly, er mwyn i fuddsoddiad y Llywodraeth sydd wedi ei ganolbwyntio yn yr ardal hon fod yn llwyddiannus, y dylid ystyried y Cymoedd gogleddol yn gymunedau cyd-ddibynnol, yn cysylltu’r dwyrain a'r gorllewin, ac nid dim ond adenydd sy’n cysylltu i ganolfan dinas?
Mae bob amser yn dda pan fyddwn ni’n dychwelyd i gonsensws yn y Siambr hon, fel y gwnaethom, yn bendant iawn, o ran y ddadl honno ar yr economi sylfaenol, yr ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn gadarnhaol iawn iddi, wrth gwrs. Roedd gen i ddiddordeb hefyd mewn gweld y dadleuon cryf iawn dros y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud, Hefin David, ar gyd-ddibyniaeth y Cymoedd gogleddol, gyda Vikki Howells, mewn erthygl yn y ‘Western Mail.' Mae'n bwynt perthnasol iawn o ran y cytundeb dinas-ranbarth, oherwydd mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cydnabod y Cymoedd gogleddol ac nad yw’n tynnu i lawr yn unig, ei fod yn mynd i fyny, a’r gyd-ddibyniaeth honno.