– Senedd Cymru am 3:10 pm ar 14 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser sydd wedi’i neilltuo i gwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a allem ni gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar barc awyrofod Sain Tathan? Dim ond yn ddiweddar yr ydym ni wedi cael y newyddion da ynghylch datblygiad Aston Martin o awyrendy’r Ddraig Goch, ond, rai blynyddoedd yn ôl, yn amlwg, sefydlodd Cardiff Aviation ei hun yn y parc awyrennau, ac maen nhw wedi wynebu rhai heriau masnachol sylweddol. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru swm sylweddol o arian mewn lleoli Cardiff Aviation yn y parc awyrofod, ar y sail y byddai’n creu nifer benodol o swyddi, hyd at eu cannoedd. Maen nhw wedi cael amser masnachol anodd yno ac mae masnachu wedi bod yn eithaf heriol. Mae busnesau eraill wedi’u lleoli yn y parc awyrennau hefyd, sy'n amlwg wedi cael anawsterau gyda’r rhedfa ar agor ar benwythnosau a gweithio yn ystod y nos, yn arbennig. Felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi sicrhau datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i amlinellu'r ddwy agwedd hynny: un, sut y mae'r parc awyrennau yn gweithio erbyn hyn—yn enwedig o ran gweithio pob awr o bob dydd a nos, ac yn enwedig y gallu i symud awyrennau i mewn ac allan; ac, yn ail, gyda’r cais penodol am Cardiff Aviation, o ystyried y swm sylweddol o arian cyhoeddus a wariwyd i sicrhau'r adleoli hwn, ac yn benodol, y swyddi sy'n gysylltiedig â'r cwmni, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod targedau swyddi yn cael eu bodloni? Ac os oes unrhyw amheuon ynghylch y targedau swyddi hynny, pa gamau a gymerwyd i ddiogelu'r arian cyhoeddus a fuddsoddwyd yn y cwmni hwn?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran y cwestiwn cyntaf, mae parc busnes awyrofod Sain Tathan, wrth gwrs, yn rhan o'r ardal fenter, ac rwy'n gyfarwydd iawn, unwaith eto, â’r materion gweithio pob awr o bob dydd a nos, sef, yn amlwg, lle mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau cefnogaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Awdurdod Hedfan Sifil hefyd. Felly, byddaf i’n sicr yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am ddiweddariad ar y trefniadau hynny, ond yn amlwg nid ydym yn sôn am Lywodraeth Cymru yn unig yma, o ran cyfrifoldebau am sicrhau hynny, o ran diogelwch a diogelwch awyrennau. O ran eich ail bwynt, unwaith eto, ynghylch Cardiff Aviation, mae hwnnw’n fater y byddaf yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet ato.
Rwyf i eisiau codi'r mater ynghylch Juhel Miah yn fy etholaeth i, fy rhanbarth i, eto. Gwn fod sawl AC arall wedi gwneud hynny. Rwyf i wedi cyfathrebu ag ef yr wythnos hon, welwch chi, yn dweud nad yw wedi cael unrhyw ymateb gan y Prif Weinidog. Ysgrifennodd y Prif Weinidog, yn amlwg, at awdurdodau yn yr Unol Daleithiau ynglŷn â’r ffaith iddo gael ei dynnu oddi ar y trên i America—. Trên? Awyren. Byddai hynny'n ddiddorol—technoleg newydd. Ac felly, mae'n bryderus iawn nad yw wedi cael ymateb gan y Prif Weinidog. Yn amlwg, mae'n croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi gwneud y sylwadau hynny, ond hoffai wybod beth sydd wedi digwydd yn sgil y cyfathrebu hwnnw, er mwyn iddo allu deall beth i'w wneud nesaf. Rwy'n mynd i gyfarfod ag ef ddiwedd yr wythnos hon, ond rwy’n credu pe gallai gael sicrwydd gan y Prif Weinidog cyn i mi gyfarfod ag ef, byddwn yn ddiolchgar iawn, o ystyried ei fod yn teimlo ei fod mewn sefyllfa eithaf bregus ar ôl cael ei drin fel hyn, ond heb ddeall pam, fel athro, fel dinesydd Prydeinig, y mae wedi cael ei drin fel hyn.
Byddaf i’n sicr yn codi hynny gyda'r Prif Weinidog. Rwy’n ymwybodol ei fod nid yn unig, wrth gwrs, fel y gwyddoch, wedi ysgrifennu’r llythyr yn egluro'r sefyllfa, ond ei fod hefyd—. Rwy'n credu fy mod i’n deall efallai ei fod wedi cael ymateb i’r llythyr hwnnw gan yr Ysgrifennydd Tramor, felly mae’n gyfle nawr i roi diweddariad ar y sefyllfa honno. Diolch i chi am ei chodi.
Yr wythnos diwethaf, cynhaliais gyfarfod ag uwch reolwyr banc Barclays ar ôl iddo gyhoeddi ei fod yn diswyddo 100 o bobl yn ei ganolfan cyngor morgeisi yn Llanisien. Mae llawer o'r bobl hyn wedi bod yn gweithio yno ers blynyddoedd lawer—20 mlynedd neu fwy—ac yn hynod fedrus. Felly, mae'n ergyd wirioneddol bod y gweithwyr medrus hyn yn mynd i gael eu diswyddo. A allai hi ofyn am ddatganiad ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi gweithwyr fel y rhain, sydd wedi bod yn gweithio i’r un cwmni hwn ers blynyddoedd lawer iawn ac sy'n teimlo bod eu sgiliau wedi cael eu taflu i ffwrdd?
Rwy'n credu bod hwn yn gyhoeddiad siomedig arall gan fanc stryd fawr pwysig arall, ac rydym ni wedi eu cael nhw ym mhob un o'n hetholaethau ledled Cymru—a hefyd, yn wir, Yorkshire Building Society; un arall yn ddiweddar iawn. Rydym ni wedi bod yn ymwybodol o raglen ailstrwythuro Barclays, ac mae'n amlwg yn duedd, fel yr ydym ni wedi dweud—tuedd anffodus —o ran y sector bancio. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a'r economi wedi ysgrifennu at Barclays, yn eu hannog i ailystyried y penderfyniad. Rydym ni eisiau diogelu swyddi ledled Cymru. Byddwn, yn amlwg, yn helpu staff sy'n wynebu cael eu diswyddo. Rwy'n credu ei bod hi’n werth sôn am raglen ReAct III. Mae honno’n cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth i bobl yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan ddiswyddiad, ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth lle mae cyflogaeth newydd bosibl i'w chael yn fuan ar ôl diswyddo, gan atal dilyniant i ddiweithdra hirdymor. Felly, gwnaed cysylltiad rhwng Barclays a Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith. Rydym ni hefyd wedi rhoi gwybod i’n cysylltiadau sy’n gyflogwyr, gan gynnwys fforwm canolfan gyswllt Cymru, am y posibilrwydd y bydd staff medrus yn dod i'r farchnad swyddi yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac maen nhw’n mynd i weithio, pan fo’n bosibl, gyda Barclays a’r gweithwyr a effeithiwyd. Ddoe, cyhoeddodd menter gwasanaeth cwsmeriaid sy'n ehangu'n gyflym, Firstsource, y bydd yn dechrau digwyddiad recriwtio deuddydd yn ddiweddarach yr wythnos hon, gyda’r gobaith o greu 300 o swyddi ychwanegol yng Nghaerdydd—Discovery House, fel y gwyddom, ym Mae Caerdydd, ac Oakleigh House yng nghanol y ddinas. Hefyd, mae gennym ni gyhoeddiad Vodafone o 100 o swyddi gwasanaeth cwsmeriaid newydd. Felly, rwy'n credu y bydd yr holl gysylltiadau hyn yn rhoi rhywfaint o obaith a rhagolygon i'r bobl hynny a allai golli eu swyddi yn anffodus, yn enwedig o ran eich etholaeth chi a chanolfan gyswllt cyngor morgeisi Llanisien.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar gyllid yr heddlu yng nghyd-destun yr ardoll prentisiaeth? Fel y gwyddoch efallai, gall heddluoedd yn Lloegr gael gafael ar gyllid ar gyfer prentisiaethau trwy'r cyfrif gwasanaeth prentisiaethau digidol newydd yno, ond, yng Nghymru, mae dull Llywodraeth Cymru, sy’n wahanol, yn golygu na all heddluoedd Cymru wneud hyn. Pan godais hyn yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, ynghylch ein hymchwiliad i’r ardoll prentisiaeth gyda'r Gweinidog sgiliau, tynnais sylw at yr angen iddyn nhw gael gafaael ar gyllid ar gyfer cyrsiau achrededig mewn colegau yng Nghymru, lle maen nhw’n cyfrannu dros £2 filiwn y flwyddyn at yr ardoll, ond ddim yn gallu cael mynediad ato ar hyn o bryd. Dywedwyd wrthyf y byddai Llywodraeth Cymru, yn hytrach, yn gwneud trefniadau grant neu gontract trwy ddeialog â’r plismona coleg, a bod ganddyn nhw gyfarfodydd yn y dyddiadur gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Wel, y penwythnos diwethaf, fe’m hysbyswyd bod y cyfarfodydd hynny gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi cael eu canslo a heb eu hail-drefnu. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Cynulliad hwn yn haeddu datganiad i’n diweddaru fel y gallwn sicrhau nad yw swyddogion yn ein heddluoedd yng Nghymru yn cael eu cosbi ac y gallant gael gafael ar y cyllid hwnnw ar gyfer eu hyfforddiant a’u prentisiaethau hanfodol.
Wel, a ydw i'n gweld rhywun sydd wedi ei argyhoeddi bellach, Mark Isherwood, ynghylch datganoli plismona i Gymru? Oherwydd yn sicr nid oes gennym ni gyfrifoldeb o ran plismona, ac yn sicr, nid ydym yn gyfrifol am gyflwyno'r ardoll prentisiaeth, y mae gennym ni bryderon mawr amdani. Yn amlwg, byddwn yn ymchwilio i'r sefyllfa o ran sut i symud y ddeialog gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn ei blaen.
A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ pryd y mae hi'n credu y mae’r Llywodraeth yn debygol o neilltuo amser ar gyfer dadl ar adroddiad a chyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru, a gyflwynwyd ddydd Gwener? Nid wyf yn gwybod faint o’r Aelodau sydd wedi cael cyfle i edrych ar hyn eto, ond os caf hysbysu pawb bod y cyfrifon wedi cael eu hamodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a’u hamodi mewn modd penodol a thrwm iawn—. Mae'r amod, sydd dros bum tudalen o hyd, na fyddaf yn eu darllen ar goedd ar hyn o bryd—rwy’n gobeithio cael dadl pan allwn ni ei drafod yn fanwl. Ond byddwn yn dweud ei fod yn ymwneud â gweithrediad melin lifio a choed gwerth £72 miliwn dros 10 mlynedd, a’r prif gasgliad sy'n amlwg i mi o amod yr archwilydd cyffredinol o'r cyfrifon yw ei gasgliad ym mharagraff 16 sy'n dweud,
‘Yn fy marn i, roedd y penderfyniad i ddyfarnu nifer o gontractau sylweddol iawn i weithredwr y felin lifio yn ddadleuol ac yn debygol o arwain at ôl-effeithiau.’
Ar sail hynny, mae wedi amodi’r holl gyfrifon, yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cyfrif £72 miliwn.
Nawr, ceir nifer o faterion yma. Er enghraifft, un o'r rhesymau dros faint y contract a ddyfarnwyd i weithredwr y felin lifio oedd ei alluogi i wneud buddsoddiad mawr yn ei felin lifio. Fodd bynnag, mae amod yr archwilydd yn cyfeirio at wybodaeth a dderbyniwyd
‘nad oedd y buddsoddiad yn safle gweithredwr y felin lifio yng Nghymru, a oedd yn rhan o’r contract, wedi digwydd.’
Nid yw'r archwilydd yn dod i unrhyw gasgliad o ran gwerth am arian, oherwydd nid dyna ei swydd wrth archwilio cyfrifon. Fodd bynnag, mae’n dweud hyn:
‘Yn fy marn i, mae’n ymddangos bod ymrwymiad CNC i werthu meintiau uchel o goed dros gyfnod o ddeng mlynedd i weithredwr y felin lifio yn gyfle y gallai gweithredwyr eraill fod â diddordeb ynddo.’
Y casgliad yw bod gwerth £72 miliwn o gontractau wedi eu gosod heb broses dendro briodol, heb fodloni rheolau cymorth gwladwriaethol na rheolau cyffredinol cyfraith gyhoeddus. Mae hyn yn ddifrifol iawn, ac mae'n cael ei gymhlethu gan y ffaith nad yw’r cyflwyniad i'r adroddiad blynyddol gan gadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfeirio at hyn o gwbl, ac nid yw’n dweud beth maen nhw’n mynd i’w ddysgu o'r broses hon, na pha gamau y maen nhw’n eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto. Yn wir, maen nhw’n dadlau bod yr archwilydd cyffredinol wedi—bod ei amod yn 'anghymesur' i'r diffygion a nodwyd. Rwy’n credu bod yr archwilydd cyffredinol yn iawn i amlygu gwerth £72 miliwn o ddiffygion, a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dadl mor fuan â phosibl ar y cyfrifon hyn a'r adroddiad blynyddol fel y gallwn ddwyn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif.
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Os caf i egluro, ac rydych chi’n amlwg yn codi hyn yn eich cwestiwn, mae’r amod yn ymwneud â phrosesau cadw cofnodion Cyfoeth Naturiol Cymru o ran contract gwerthu a osodwyd yn 2014. Mae'n fater i swyddog cyfrifyddu Cyfoeth Naturiol Cymru, sef y prif weithredwr, a dylai'r mater hwn gael ei ystyried, byddwn i’n dweud, gan bwyllgorau perthnasol y Cynulliad. Yn wir, gwahoddwyd Cyfoeth Naturiol Cymru i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 28 Mawrth a 2 Mai felly’r rheini, yn fy marn i, yw’r camau priodol cyntaf i'w cymryd.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y contract meddygon teulu presennol. Fe’m hysbyswyd gan etholwyr yn ddiweddar bod un feddygfa yn gwrthod newid rhwymynnau ac yn atgyfeirio cleifion i'r ysbyty. Mae meddygfa arall yn fodlon darparu presgripsiynau amlroddadwy trwy gais ar y cyfrifiadur yn unig, sy’n eithriadol o anodd i rai o’m hetholwyr oedrannus. Mae'r un feddygfa yn gwrthod trefnu apwyntiad i gleifion tan fod y meddyg wedi siarad â nhw. Ni all y cleifion wybod pa un a yw hynny'n gywir neu'n anghywir, a pha un a all y feddygfa deulu wneud hynny. Ni allaf ddweud hynny wrthyn nhw, ac, yn bwysicaf oll, pan fyddaf yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, maen nhw’n dweud bod meddygfeydd teulu yn gontractwyr preifat i'r GIG, ac nid ydynt yn fodlon trafod hyn â nhw. Felly, roeddwn i’n meddwl mae’n rhaid bod rhywun yn rhywle yn gwybod beth yw’r contract, oherwydd rwy’n credu bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn annerbyniol.
Diolch i chi, Mike Hedges, am y cwestiwn yna. Rwy’n credu—wel, o ran y contract meddygon teulu, fel y byddwch, wrth gwrs, yn ymwybodol, fe’i cytunwyd gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru ar 4 Mawrth 2017 ac, a dweud y gwir, mae’r contract hwnnw—. Ceir newidiadau pwysig i'r contract meddygon teulu yr ydych chi’n ceisio eu hegluro ar ran eich etholwyr. Bydd cynnydd i wasanaethau meddygol cyffredinol o tua £27 miliwn. Nawr, mae hynny'n cynnwys cynnydd o 2.7 y cant ar gyfer cyflogau a threuliau meddygon teulu ar gyfer 2017-18. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth i bractisau meddygon teulu ddarparu gwasanaethau newydd gwell, gan gynnwys cartrefi gofal, rheoli warffarin, diabetes, a darparu profion fflebotomi o fewn gofal eilaidd i wella ansawdd a diogelwch gofal cleifion.
Fel y cyhoeddwyd gennym, ac fel y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn ymwneud â thrafod gwelliant a diweddaru'r contract, ond mae'n ymwneud â’i foderneiddio i ddiwallu anghenion y cyhoedd a'r proffesiwn yn well. Felly, mae hynny yn amlwg—. O ran y profiad, nid yw hyn eto—mae hyn ar gyfer 2017-18, felly, yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd hyn yn cael ei roi ar waith.
A gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch yn dda ar Lywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i gyflenwyr yn brydlon? Rwy’n ymwybodol, o gwmnïau bysiau sydd wedi codi'r mater gyda mi, bod taliadau hwyr, wrth gwrs, yn peri problemau llif arian i rai cwmnïau bysiau, yn enwedig cwmnïau llai. Rwy'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yr wythnos diwethaf, yn ystod y datganiad ar wasanaethau bysiau, wedi dweud bod y mater hwn yn fater llywodraeth leol. Ond mae'n sicr yn fater Llywodraeth Cymru. Felly, byddwn yn croesawu yn fawr iawn datganiad yn cadarnhau y bydd y mater o daliadau hwyr gan Lywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn yn cael sylw.
Yn amlwg, mae hwn yn fater y mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol ohono, ac o ran swyddogaeth awdurdodau lleol hefyd. Yn sicr, gellir tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at hyn. Rwy’n credu bod llawer o ddiddordeb ar hyn o bryd yn y cyfleoedd i wasanaethau bysiau o ran yr uwchgynhadledd fysiau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr.
Rwy’n datgan buddiant gan fod y mater hwn yn ymwneud â chyngor Caerdydd. Mae'n fater pwysig ac yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’r aelod cabinet dros drafnidiaeth yng nghyngor Caerdydd yn gwrthod gweithredu ar lwybrau peryglus i'r ysgol. Daw dwy ffordd i'r meddwl: Heol Isaf yn Radur, lle mae ceir yn gyrru ar hyd at 70 milltir yr awr, a Caerau Lane yng Nghaerau, lle mae'r ffordd yn arwain tuag at Ysgol Uwchradd Mary Immaculate lle mae’n rhaid i blant groesi, cannoedd ohonynt, ffordd brysur, sydd yn beryglus iawn. [Torri ar draws.] Gyda phob parch, rwy’n ceisio gofyn i'r Gweinidog am ddatganiad a hoffwn eich sylw, os gwelwch yn dda, yn hytrach na heclo.
Parhewch â’r cwestiwn, Neil McEvoy.
Diolch i chi, Lywydd. Mae eich cydweithiwr yn dyfynnu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i amddiffyn ei safbwynt, oherwydd, yn dechnegol, mae’n gywir yn gyfreithiol, ond, yn foesol, byddwn yn dweud ei fod yn anghywir, oherwydd mae byd o wahaniaeth rhwng y llwybrau dyheadol yn y Ddeddf a lle mae plant yn cerdded mewn gwirionedd a sut y maen nhw’n cyrraedd yr ysgol mewn gwirionedd.
Felly, a wnaiff eich Llywodraeth ysgrifennu at y cyngor i’w hatgoffa am ei gyfrifoldeb i gadw ein plant yn ddiogel? Hoffwn ryw fath o ddatganiad ar y mater hwn, oherwydd mae llwybrau mwy diogel i'r ysgol yn hynod bwysig, ac, am swm bach iawn o arian, gallwn gadw ein plant yn ddiogel. Diolch.
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bolisi arloesol a phwysig iawn o ran Llwybrau Diogel i'r Ysgol, gan ddarparu cyllid i awdurdodau lleol. Wrth gwrs, maen nhw’n gwneud cais am y cyllid hwnnw ac yn cyflwyno cynigion ar gyfer llwybrau diogel i'r ysgol a llwybrau diogel yn y cymunedau hynny. Mae'r cyngor, wrth gwrs, yn gwbl ymwybodol ac yn eglur ynghylch ei rwymedigaethau statudol o ran y Mesur teithio gan ddysgwyr.
Arweinydd y tŷ, nos Wener, ymosodwyd ar griw ambiwlans wrth geisio gofalu am bobl. Yn anffodus, nid dyma’r unig achos, ac mae ffigurau diweddar wedi dangos bod cynnydd, bob blwyddyn, i nifer y staff sy’n dioddef ymosodiadau ledled Cymru. Roedd nos Wener yn ymosodiad annerbyniol a thruenus arall ar ein gweision cyhoeddus wrth iddyn nhw geisio gwneud eu gwaith. A allwn ni gael datganiad ar ba gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ddiogelu ein staff ambiwlans rheng flaen, ac, yn wir, ein holl wasanaethau brys sy'n dod i’r gwaith i achub bywydau a darparu gofal a chymorth, yn aml o dan amgylchiadau anodd a thrawmatig?
Rwy’n parchu'r ffaith bod yr Aelod wedi tynnu ein sylw at hyn ac rwy'n credu ei fod yn amlygu unwaith eto yr achosion cwbl annerbyniol hynny o drais yn erbyn—. Ni ydym yn goddef trais o unrhyw fath yn erbyn ein staff. Mae'r rhain yn staff sy'n gweithio o dan bwysau enfawr. Mae hwn yn fater, wrth gwrs, yr ydym ni’n ei gymryd o ddifrif iawn yn Llywodraeth Cymru i gefnogi ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru. Mae'n bwysig, wrth gwrs, unwaith eto, bod y bwrdd iechyd lleol hefyd yn ymwybodol o hynny a bod gwaith dilynol yn cael ei wneud ac, os oes angen, camau’n cael eu cymryd i amddiffyn y staff.
Diolch i arweinydd y tŷ.