1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i gyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0513(FM)
Gwnaf. Rydym ni’n parhau i ddarparu pob math o gymorth cyflogaeth i bob rhan o Gymru. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglenni Twf Swyddi Cymru a Busnes Cymru hynod lwyddiannus, buddsoddiad ychwanegol mewn prentisiaethau ac, wrth gwrs, heb anghofio, amrywiaeth o raglenni eraill a ariennir gan yr UE.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Codwyd y cyhoeddiad gan Newsquest eu bod yn bwriadu cau eu canolfan is-olygu yng Nghasnewydd ac adleoli i Weymouth yn y Siambr hon o'r blaen. Fodd bynnag, datgelwyd bod Newsquest wedi derbyn £95,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2012-13 o dan raglen Sgiliau Twf Cymru, a £245,000 arall i ehangu ei ganolfan is-olygu y llynedd.
A wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa amodau oedd yn gymwys i’r grantiau hyn a pha gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn cefnogi cyflogaeth yng Nghasnewydd?
Yn 2015, darparwyd £245,808 gennym i'r cwmni tuag at greu 50 o swyddi a diogelu 15 o swyddi yn y cyfleuster ym Maesglas. Aethpwyd y tu hwnt i hynny, ond roedd y dyfarniad yn amodol bod y swyddi yno tan fis Mai 2020. Os na chaiff yr amod hwnnw ei fodloni, yna byddwn yn ceisio adennill yr arian.