Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 22 Mawrth 2017.
Mae fy etholaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o bob gwlad yn Ewrop, ac eithrio, o bosibl, Lwcsembwrg a Liechtenstein, a gallaf sicrhau’r Cwnsler Cyffredinol nad ffrwyth dychymyg yw hyn. Mae wedi arwain at gynnydd sydyn yn y sylwadau difrïol sy’n cael eu cyfeirio at bobl sy’n dod o wledydd eraill yn Ewrop. Rwy’n arbennig o bryderus am y rhai sydd wedi byw yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer, sydd wedi magu plant yn y wlad hon, sy’n ddinasyddion Prydeinig, ac eto sy’n wynebu’r posibilrwydd, ar hyn o bryd, o gael eu gorfodi i adael y wlad hon er mai dyma ble y mae eu teuluoedd yn byw. A allech ddweud wrthym a oes gan blant unrhyw hawliau yn y sefyllfa hon a beth yw hawl eu rhieni i barhau i fyw yn yr un wlad â hwy?